In order to see this content you need to have both Javascript enabled and Flash installed. Visit BBC Webwise for full instructions
Last updated: 11 October 2010
Cyhoeddwr yn rhestru penawdau'r newyddion
Geirfa
- Ymchwil
- awgrymu
- gwneud drygau
- gwaethaf
- euog
- cyfaddef
- llofruddio
- Llys y Goron
- cipio
- treisio
- cynlluniau
- pryderon
- gwyliadwriaeth
- carcharor
Gwrando a deall
Gwir neu anwir?
- Mae pobl ifainc Prydain gyda'r gorau yn Ewrob.
- Roedd y baban a laddwyd yn fis oed.
- Cafodd merch ei chipio yn Wrecsam.
- Dyma'r tro cyntaf i unrhyw un awgrymu ehangu'r marina.
- Mae cynghorwyr Dinbych am geisio gwella bwyd ysgol.
- Roedd sôn am gael carcharor trwy'r post!
Iaith
a) Gwrandewch ar y penawdau eto a chwblhewch y brawddegau hyn:
- Ieuenctid Prydain ydy'r .......... yn Ewrob.
- Mam ifanc o Abertawe yn euog o .......... marwolaeth ei babi.
- Dyn wedi ei gyhuddo o gipio a .......... merch ifanc yn Wrecsam.
- Cynlluniau ar y .......... i ddatblygu marina Pwllheli.
- Cynghorwyr yn gofyn am arian i wneud yn siwr y bydd .......... ar gael yn y sir.
- Byddwch ar eich .......... rhag ofn y cewch chi garcharor yn y post!
b) Diffiniwch yn eich geiriau eich un:
- ymchwil
- carcharor
- llofruddio
- awgrymu
- Llys y Goron
- cipio
c) Ailysgrifennwch y brawddegau hyn gan ddefnyddio ffurf gryno amhersonol y ferf:
- Cafodd lleidr ei ddal / Daliwyd y lleidr
- Bydd y ffair yn cael ei hagor gan y Maer /
- Cafodd y bachgen ei garcharu /
- Mae'r cyngerdd yn cael ei threfnu gan Gyngor y Dref /
- Cafodd y baban ei ladd gan ei fam /
- Roedd Cymraeg yn cael ei siarad yno unwaith /
- Bydd y tŷ'n cael ei werthu yfory /
- Roedd dillad yn cael eu gwerthu yno flynyddoedd yn ôl /
- Mae Dewi'n cymryd y brif ran yn y ddrama /
Tafodaith
Beth yn eich barn chi yw prif nodweddion iaith bwletin newyddion? Pa bynciau sy'n ymddangos yn gyson?
Trafod
- Lluniwch benawdau'r newyddion yng Nghymru / Prydain yr wythnos hon a thrafodwch rai ohonynt yn y grŵp.
- Lluniwch rai o benawdau'r byd eleni / y llynedd a'u trafod yn yr un modd.
- Trafodwch yr eitemau sydd yn y newyddion yn eich ardal ar y pryd.
Ymadroddion
Byddwch ar eich gwyliadwriaeth!
Ysgrifennu
- Lluniwch un eitem lawn o newyddion gyfredol.
- Ar y cyd, lluniwch fwletin o eitemau newyddion y dosbarth - pen-blwyddi; ymweliadau, absenolion, afiechyd etc.
- Lluniwch fwletin newyddion ar gyfer 2100.
Trawsgrifiad
Diolch Geraint. Noswaith dda. Yn y newyddion heno mae rhai pobol ifanc yn meddwl ei bod hi'n cŵl i gael ASBO. Dyna mae gwaith ymchwil newydd yn ei awgrymu. A dydy petha'n gwella dim i fobol ifanc - heno mae adroddiad arall yn deud mai ieuenctid Prydain ydy'r gwaetha yn Ewrop am neud dryga. Hefyd ar y newyddion, mam ifanc o Abertawe yn euog o ganiatáu marwolaeth ei babi blwydd oed fuodd i'w chyn gariad eisoes wedi cyfadde ei lofruddio. Dyn o flaen Llys y Goron, Yr Wyddgrug wedi ei gyhuddo o gipio a threisio merch ifanc yn Wrecsam bron i bythefnos yn ôl. Cynllunia ar y gweill i ddatblygu Marina Pwllheli bron i flwyddyn a hanner ers i gynllunia erill gael eu gwrthod oherwydd pryderon lleol. Cynghorwyr Dinbych yn gofyn am fwy o arian i wneud yn siwr y bydd prydau bwyd ysgol ar gael yn y sir yn y dyfodol. A byddwch ar eich gwyliadwraeth rhag ofn y cewch chi garcharor yn y post! Gewch chi wbod mwy am naw, a dyna chi benawdau'r newyddion - arhoswch efo ni ar C2.
Noder
Nod y trawsgrifiadau hyn yw adlewyrchu'n gywir yr hyn a glywir ar y crynoddisgiau. Nid yw siaradwyr y Gymraeg, yn fwy na siaradwyr unrhyw iaith arall, yn llefaru'n ramadegol gywir bob amser ac oherwydd hynny ceir enghreifftiau o iaith wallus. Gall y rhain fod yn adnodd gwerthfawr i'r tiwtor ac yn brawf i'r dysgwr nad yw gwneud camgymeriadau yn rhwystr bob amser i gyfathrebu effeithiol. Ar dro, gellir tynnu sylw at wall a manteisio arno i danlinellu ambell bwynt. Greddf y tiwtor a'i adnabyddiaeth o'i ddosbarth fydd yn penderfynu pryd y dylid gwneud hyn ai peidio.
Gwefannau Dysgu Cymraeg
Big Welsh Challenge
Cwrs Cymraeg rhyngweithiol arlein mewn fformat opera sebon sy'n addas ar gyfer dechreuwyr.






