In order to see this content you need to have both Javascript enabled and Flash installed. Visit BBC Webwise for full instructions
Last updated: 11 October 2010
Wil Morgan yn cyflwyno adroddiad ar gyflwr y ffyrdd
Geirfa
- tagfa (tagfeydd)
- parhau
- yn gyfangwbl
- ailgyfeirio
- oedi
- tarmacio
- ar amser
Gwrando a deall
- Ble roedd y ddamwain ar ffordd M4?
- Pa mor bell yn ôl mae'r ciw yn ymestyn?
- Beth sydd wedi achosi i ffordd A470 gael ei chau?
- Trwy ba dref mae'r traffig wedi ei ailgyfeirio?
- Ble mae car wedi torri i lawr ar ffordd A470?
- Beth sy'n digwydd ar ffordd A40 yng Nghaerfyrddin?
- Ar ba ffordd does dim trafferthion o gwbl?
- Faint o broblemau sy'n gysylltiedig â'r fferis a'r trenau i Iwerddon?
- Am faint o'r gloch bydd yr awyren o Sharm el Sheikh yn glanio?
- Beth yw'r rhif ffôn?
Iaith
a) Pa eiriau o'r ddwy golofn sy'n gyfystyr?
| traffig | dal i |
| ciw | yn brydlon |
| oedi | trafnidiaeth |
| ar amser | gohirio |
| parhau | cwt |
b) Dysgwch y termau hyn yn ymwneud â'r ffyrdd a darganfod eu hystyr (Sylwch eu bod i gyd yn fenywaidd):
- ffordd (ffyrdd)
- cyffordd
- traffordd
- ffordd ddeuol
- pontffordd
- croesffordd
- priffordd
- heol (hewl) fawr
c) Gwrandewch ar yr adroddiad eto. Pa enw o bob pâr glywsoch chi?
Aberteifi / Abertawe; Baglan / Bangor; Pentre-bach / Pentyrch; Abercynon / Aberaman; Caerfyrddin / Caernarfon; Ceinewydd / Cei Connah
Trafod
- Pam mae'n anghywir cyfeirio at Ffordd M4 fel 'yr M4'? Pam, yn eich barn chi, mae pobl yn mynnu dweud hyn? Oes enghrefftiau eraill tebyg?
- Disgrifiwch yn fanwl eich taith i'r dosbarth neu o'ch cartref i'r dref fawr agosaf.
- Trafodwch sut y byddech yn datrys problemau trafnidiaeth Cymru.
- 'Dylid codi'r dreth ar betrol yn sylweddol'. Trafodwch.
Ysgrifennu
- Taith gar / fws gofiadwy.
- Gyrru.
- Gyrwyr ifanc.
- Damwain.
Trawsgrifiad
Diolch yn fawr. Ar yr M4 mae'r tagfeydd 'na yn parhau i'r dwyrain ar ôl damwain rhwng Ffordd Fabian, Abertawe a Baglan, Port Talbot.Y ciw yn ôl at Llandarcy ac yn Merthyr Tudful mae'r A470 yn dal wedi'i chau yn gyfan gwbwl i'r de ar ôl damwain lori fan'no wrth Pentrebach yn gynharach. Traffig yn cael ei ailgyfeirio drwy Ferthyr, ac mae 'na oedi yn enwedig ar Ffordd Caerdydd wrth Droed y Rhiw, ac mae 'na gar wedi torri ar yr A470 i'r gogledd erbyn hyn wrth gylchfan Abercynon. Mae hi'n araf iawn i'r gogledd yn fan'na felly. Yng Nghaerfyrddin mae hi yn . . mae 'na oedi i'r dwyrain ar yr A40 o hyd wrth y gwaith - tarmacio ar y ffordd yn fan'no. Does 'na ddim trafferthion newydd ar yr A55 ond mae 'na oedi ar yr A550 i'r gorllewin yn Queensferry, ac mae 'na ddamwain wedi cau Ffordd yr Wyddgrug yn fan'no, yn ymyl Cei Conna.
Mae'r trena a'r ferris i Iwerddon ar amser ond ym maes awyr Caerdydd bydd awyren hanner awr wedi naw o Sharm el-Sheikh yn glanio rwan am ugain munud wedi un ar ddeg. A'n rhif ni yma: 08703500600.
Noder
Nod y trawsgrifiadau hyn yw adlewyrchu'n gywir yr hyn a glywir ar y crynoddisgiau. Nid yw siaradwyr y Gymraeg, yn fwy na siaradwyr unrhyw iaith arall, yn llefaru'n ramadegol gywir bob amser ac oherwydd hynny ceir enghreifftiau o iaith wallus. Gall y rhain fod yn adnodd gwerthfawr i'r tiwtor ac yn brawf i'r dysgwr nad yw gwneud camgymeriadau yn rhwystr bob amser i gyfathrebu effeithiol. Ar dro, gellir tynnu sylw at wall a manteisio arno i danlinellu ambell bwynt. Greddf y tiwtor a'i adnabyddiaeth o'i ddosbarth fydd yn penderfynu pryd y dylid gwneud hyn ai peidio.
Gwefannau Dysgu Cymraeg
Big Welsh Challenge
Cwrs Cymraeg rhyngweithiol arlein mewn fformat opera sebon sy'n addas ar gyfer dechreuwyr.






