In order to see this content you need to have both Javascript enabled and Flash installed. Visit BBC Webwise for full instructions
Last updated: 11 October 2010
Y darlledwr, Arfon Haines Davies yn adrodd ei brofiadau yn ddisgybl mewn dwy ysgol wahanol iawn i'w gilydd
Geirfa
- unlle
- pumdegau
- stori(straeon)
- disgybl
- rhyfedd
- gwyrth
- canlyniadau
- eilradd
- bwlïan
- disgyblaeth
- lem
- Treffynnon
Gwrando a deall
- Ym mha gyfnod o'i fywyd oedd Arfon yn byw yn Aberystwyth?
- Pa mor hapus oedd e yn yr ysgol gynradd yno?
- Beth oedd Mary Vaughan-Jones yn gallu ei wneud yn dda?
- Pam nad oedd Arfon yn hapus yn Ysgol Ardwyn?
- Pwy oedd yn cael mynd i Ysgol Ardwyn?
- Ble roedd y lleill yn mynd?
- Sut roedd y prifathro'n darllen canlyniadau'r 11-plus?
- I ble symudodd y teulu o Aberystwyth?
- Sut roedd e'n hoffi Ysgol Glan Clwyd?
- Pam roedd e'n sôn am wersylloedd Colditz a Butlins?
Iaith
a) Cwblhewch y rhestr hon o enwau lleoedd:
| Holywell | Treffynnon |
| St Davids | |
| Brecon | |
| Holyhead | |
| Fishguard | |
| Denbigh | |
| Welshpool | |
| Newport | |
| Chepstow |
b) Mae'r siaradwr yn sôn am "un o flynyddoedd hapus' fy mywyd". Gradd eithaf 'hapus' yw 'hapusaf'. Beth yw gradd eithaf y canlynol?
| hapus | hapusaf |
| da | |
| drwg | |
| bach | |
| hawdd | |
| agos | |
| llydan | |
| tlawd | |
| caredig |
c) Ysgrifennwch frawddegau i ddangos y gwahaniaeth rhwng y parau hyn o eiriau:
bae/bai; caledi/caledu; côr/cor; crud/cryd; chwaith/chwaeth.
Tafodaith
Er iddo gael ei fagu yn Aberystwyth, pa dystiolaeth sydd bod dylanwad y gogledd yn drwm ar iaith lafar y siaradwr?
Trafod
- Soniwch wrth aelodau eraill y grŵp am a) y peth gwaethaf b) y peth mwyaf doniol ddigwyddodd ichi yn yr ysgol.
- Disgrifiwch athro a ddylanwadodd arnoch.
- Ar wahân i waith ysgol, beth fwynheuoch chi ei wneud?
- Cael sgwrs â rhywun sy'n siarad Cymraeg yn eich ardal am ddyddiau ysgol a dod ag adroddiad yn ôl i'r dosbarth.
Ymadroddion
trwy ryw ryfedd wyrth y pumdegau
Ysgrifennu
- Taswn i'n cael dechrau fy mywyd unwaith eto.....
- Fy atgof cyntaf o'r ysgol.
- Ysgol profiad yw'r ysgol orau?
Trawsgrifiad
...Yn Aberystwyth o'ch chi wrth gwrs pan .. beth, rhwng pump a dwy ar bymtheg? Ysgol Gymraeg Aberystwyth, a dw i 'di deud a dw i yn ei feddwl o, alla i'm meddwl am unlle gwell yn y 50au i fagu plentyn nag Aberystwyth, ac Ysgol Gymraeg Aberystwyth, a chael athrawon fel Hywel D. Roberts a Mary Vaughan Jones. Darllen straeon, ryw chwech, saith oed a dw i'n ... alla i gau'n llygad a gweld Mary Vaughan Jones o mlaen i yn darllen, adrodd storïau Mabinogion a Chwedlau Esop. O, oedd hi'n dalent. O'dd hi â dawn anhygoel, deud stori yn ogystal â sgwennu stori ... Ia, Ysgol Gymraeg Aberystwyth a wedyn Ysgol Ardwyn, ond wnes i ddim mwynhau Ysgol Ramadeg Ardwyn.
Naddo fe?
Na, O na..
Ond mae'n cael enw - ysgol dda.
O, oedd hi'n ysgol arbennig o dda ond do'n i'm yn ddisgybl, unwaith eto, arbennig o dda, yn anffodus. Na, o'n i'n chael hi'n anodd iawn yna. Wnes i basio'r Eleven Plus drwy ryw ryfedd wyrth ond o'n i, dw i'm yn gwbod, o'n i ofn yr athrawon ac oedd gen i'm diddordeb. Falle dyliwn i fod 'di mynd i'r Ysgol Uwchradd, i Ysgol Dinas, er dw i yn erbyn . . . . hynna. Wna i byth anghofio'r dwrnod githo ni'r canlyniade Eleven Plus a roedd - Hywel Jones oedd y Prifathro dw i'n meddwl. Oeddan ni gyd yna, y rhai oedd wedi cymeryd yr Eleven Plus. Oedd o'n darllan y canlyniada fel 'sa ti'n darllen canlyniada pêl-droed, ti'n gwbod, achos Dinas oedd yr ysgol eilradd, os leci di, ac Ardwyn oedd yr Ysgol Ramadeg, a wna i ddim enwi'n iawn ond oedd o'n mynd "Wel, Richard Williams - Ardwyn, Siân Rees - Dinas, Peter Hughes - Dinas, Arfon Haines Davies - Ardwyn. Oh! Some mistake surely". Oedda chi'm yn cael y'ch bwlian na dim byd fel'na yn yr ysgol? Na, dim o gwbwl. Na, na, na. O'n i fel dw i'n dweud, o'n i ... oedd gen i ofn yr athrawon hefyd. Roedd disgyblaeth lem yna. Ella bod hynna'n beth da ond pan symudon ni wedyn o Aberystwyth i Dreffynnon, mi es i Ysgol Glan Clwyd am flwyddyn, yn y Rhyl pryd hynny, ac un o'r blynyddoedd hapusaf fy mywyd i. O'n i wrth fy modd yna.
Felly, beth oedd y gwahaniaeth?
Wel, dw i'n cofio - ella dylwn i ddim dweud hyn. Dw i'n cofio y prifathro oedd Desmond Healey a dw i'n cofio'n iawn, ar ôl bod yna ryw bythefnos, na'th o ofyn sut o'n i'n setlo mewn a dw i'n cofio .... O, dw i 'di bod yn stiwpid! "Sut 'da chi'n setlo mewn Arfon?" A ddwedes i, "O, dw i wrth fy modd yma, fel 'swn i 'di symud o Colditz i Butlins". "O, reit, 'na ni. Ella bo chi angen dipyn o ddisgyblaeth."
Noder
Nod y trawsgrifiadau hyn yw adlewyrchu'n gywir yr hyn a glywir ar y crynoddisgiau. Nid yw siaradwyr y Gymraeg, yn fwy na siaradwyr unrhyw iaith arall, yn llefaru'n ramadegol gywir bob amser ac oherwydd hynny ceir enghreifftiau o iaith wallus. Gall y rhain fod yn adnodd gwerthfawr i'r tiwtor ac yn brawf i'r dysgwr nad yw gwneud camgymeriadau yn rhwystr bob amser i gyfathrebu effeithiol. Ar dro, gellir tynnu sylw at wall a manteisio arno i danlinellu ambell bwynt. Greddf y tiwtor a'i adnabyddiaeth o'i ddosbarth fydd yn penderfynu pryd y dylid gwneud hyn ai peidio.
Gwefannau Dysgu Cymraeg
Big Welsh Challenge
Cwrs Cymraeg rhyngweithiol arlein mewn fformat opera sebon sy'n addas ar gyfer dechreuwyr.






