Therapïau Meinir

In order to see this content you need to have both Javascript enabled and Flash installed. Visit BBC Webwise for full instructions

Meinir yn sôn am therapïau amgen ac am ei chyfnod yn yr hosbis.

Ceir cyfweliad gyda Meinir lle mae'n sôn am ei chyfnod yn yr hosbis. Mae'n dweud ei bod wedi cael amser i feddwl, oherwydd ei bod wedi medru ymlacio. Roedd hi ar un adeg yn meddwl ei bod fel Superwoman - ond doedd hi ddim. Mae hi'n dweud bod pawb heddiw yn byw yn y fast lane, ac felly nad ydyn nhw'n rhoi digon o amser iddyn nhw eu hunain. Gwelwn glipiau o'r teulu adref ar y fferm. Dweda Meinir ei bod yn teimlo bod cryn dipyn o straen wedi bod ar Gwyndaf, ei gŵr, wrth iddo geisio sicrhau nad oedd Meinir yn cael ei gadael ar ei phen ei hun, tra roedd e allan yn ffermio. Ond nawr, gan ei bod hi yn yr hosbis, roedd y sefyllfa'n llawer gwell. Does dim gwell triniaeth i'w chael na'r un mae'n ei derbyn yn yr hosbis - mae hi 'yn y lle gorau' meddai Meinir.
O: O Flaen Dy Lygaid - Yr Hosbis
Darlledwyd yn gyntaf : 12 Mehefin 2007

Nodiadau Dysgu

Ystod Oedran : 14-16,16+

Pwnc : Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Testun : Gofal yn yr Hosbis, Twf a Datblygiad Dynol, Perthnasau a Theuluoedd

Allweddeiriau : Salwch a Gofal, Canser y fron, Hosbis, Gofal teulu, Egwyddorion gofal, Therapi amgen

Nodiadau : Mae Meinir yn credu'n gryf mewn defnyddio therapi amgen. Pa fath o wahanol therapïau amgen sydd ar gael? •Sut mae therapi amgen yn wahanol i'r driniaeth a gynigir mewn ysbyty? •Trafodwch yr ystod o sgiliau a thechnegau gofal y bydd y gofalwyr ffurfiol ac anffurfiol yn eu defnyddio mewn lleoliad gofal fel yr hosbis.


Archif Eclips

eclips

Ydych chi angen pynciau eraill? Eisiau gweld rhagor o glipiau? Ewch i wefan archif Eclips.

Clipiau Diweddar


BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.