MAWRTH 18fed Tachwedd 2014 Hygyrchedd Geiriau Yn Unig | ![]() |
Wythnos yn Nimbach Golwg ysgafn yn ôl dros wythnos yr Eisteddfod Ggenedlaethol gan Glyn Evans Dydd Sadwrn Smentimentio - ac y mae rhywun yn gwybod yn iawn y bydd hi’n wythnos galed - noddir y diwrnod cyntaf gan gwmni Castle Cement.Ond, diawch dyma ni mewn ffics yn fwy na mics. Un o’r gwobrau cyntaf i gael ei chyhoeddi ar y diwrnod yw y Fedal Aur am Bensaernïaeth. A honno’n mynd i benseiri a gynlluniodd adeilad - "nad yw yn defnyddio sment." Pe byddai hi’n gêm wyddbwyll mae’n debyg y gallai rhywun ddweud i’r cwmni sment gael ei gastellu! Dydd Sul Gorffwysed - O ran parch i’r diwrnod penderfynwyd peidio â gwobrwyo neb yng Nghystadleuaeth Gwobr Goffa Daniel Owen fel bo pawb yn cael mynd adra’n gynnar i fynd i’r capel. Ysbryd yr wyl -efallai nad yw hi y babell fwyaf diddorol ar y maes ond y mae pabell Y Gymdeithas Anghymdeithasol yn sicr yr un fwyaf gwreiddiol yno."Welson ni ddim enaid byw gydol yr wythnos - yr oeddan nhw yn un a'u gair ac yn gwbl anghymdeithasol," meddai'r bobol drws nesaf ddiwedd yr wythnos! "Cymdeithas effeithiol iawn." Cymdeithas un a'i henw. Dydd Llun Papuro - o ran noddwyr mae pob diwrnod yn wahanol yn y Steddfod gyda phob math o gwmnïau am gael eu gweld yn noddi gwahanol weithgareddau. Yn eu plith, y papur newydd dyddiol, Daily Post, a gymerodd y cam anarferol iawn yn ystod yr wythnos o wneud i’w ddalen flaen edrych yn union yr un fath bob dydd gyda’r un, un, stori Gymraeg yn union yn ymddangos un diwrnod ar ôl y llall - am y diwydiant "awyrofod" Cymreig dan y pennawd "I fyny bo’r nod." A Chymraeg y stori honno yn ei gwneud yn gwbl amlwg mai’r peth diwethaf yr oedd yr awdur yn "high" arno oedd gramadeg a chrystawen yr iaith Gymraeg. Dydd Mawrth Mwd Ni-Ydi’ch car chi’n lân? hola’r arwyddion ar ochr y ffyrdd. A’r ateb yn syml yw; Nac ydi os ydych chi wedi defnyddio un o feysydd parcio’r Brifwyl heddiw. Ond er nad oes mynediad i geir mwdlyd y mae rhwydd hynt i geir sy’n drebolau o laid a baw adael meysydd llên ac awen. Ac os oes gennych chi ddarn bach o bapur brown yn eich ffenest mi gewch chi ddychwelyd efo’r baw hwnnw yfory, trennydd a thradwy waeth pa mor fudr eich car. Er nad oes croeso i fwd pobl eraill ar faes Eisteddfod Dinbych y mae can croeso ichi gario mwd Dinbych i bedwar ban byd. Adnod y dydd yw: "Canys hwynt-hwy a welasant y gwahaniaeth rhwng mwd a mwd mewn gogoniant." Anghytgord - Er bod cerddoriaeth y godidocaf o’r celfyddydau a’r unig un sy’n dymchwel ffiniau iaith; seremoni ddigon tila yw’r un i anrhydeddu enillydd Tlws y Cerddor.Cymerodd dros ddeugain mlynedd i seremoni’r Prif Lenor ddod yn un o seremonïau’r Orsedd. Does bosib y bydd yn rhaid aros cyhyd cyn y gwêl yr Orsedd yn dda i anrhydeddu’r prif Gerddor yn deilwng. Gallai unioni’r cam fod yn ymgyrch gyntaf yr Archdderwydd newydd gan ei gwneud yn bosib i Brif Gerddor hefyd fod yn archdderwydd. Dydd Mercher Cymysgu Steddfodau- mae’r wythnos yn ymddangos nid yn unig fel pe byddai wedi bod erioed ond fel pe byddai am barhau am byth hyd ddiwedd amser a ninnau oll wedi ein carcharu’n dragwyddol ar gae lle mae pebyll yn nofio mewn mwd a mwd yn nofio rownd pebyll a gwleidyddion yn baglu ar draws cyhoeddiadau a chyhuddiadau ei gilydd. Ydw - yr ydw i a phawb arall a fu yma ers dydd Sadwrn wedi blino. Lluniadol - I wneud pethau’n fwy swreal fyth cyhoedda poster Daily Post, bedair dalen o luniau bob dydd - o Langollen. Barddol - Wrth ei ddesg yng nghanolfan y BBC y mae Twm Morys yn cyfansoddi cerdd am reolau’r mwd ar y thema y gallwch chi ar y maes, fwrdro’r iaith, anwybyddu’r rheol Gymraeg a chreu pob math o lanast arall - cyn belled bod eich car chi’n lân. Caethiwus - Aros am dipyn i fwynhau y ferch brydweddol mewn trowsus lledr a lipstig coch sy’n eistedd y tu allan i babell Cais - "Yr asiantaeth cyffuriau ac alcohol." Mi allwn i’n hawdd fod yn adict i hon. Dydd Iau Crebachu - Mae’r ffensus ar y meysydd parcio yn cael eu symud yn ôl er mwyn creu llwybrau sych i geir yrru drostyn nhw. Os bydd hi’n dal i lawio a’r ffensus yn dal i gael eu symud fydd yna ddim cae ar ôl i barcio arno erbyn y Sadwrn. Saib - Ar un adeg yr oedd gweddill y byd yn peidio â bod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol. Ar radio a theledu ni fyddai sôn am ddim byd arall. Gallai Los Angeles fod yn fflamau, Abertawe wedi llithro i’r môr ac Ynys Enlli wedi ei dwyn gan deroristiaid rhyngwladol ond y penawdau’n cyhoeddi fod yr Archdderwydd wedi tishian rhwng Pabell Lên a Phafiliwn a rhywun wedi baglu dros ei Elsan ar y maes carafanau. Nid felly mwyach. Gyda’r gwleidyddion a’r lobiwyr wedi sylweddoli mai ar faes steddfod mae pob hac, sgwennwr a darlledwr y maen nhw wedi heidio yno ar eu holau a’u cawodydd datganiadau yn drymach na’r cenllifau glaw. A hynny’n gyfle i Steddfotwyr Go Iawn gwyno fod Eu Prifwyl Hannwyl Hwy yn cael ei heijacio gan bleidiau a mudiadau gwleidyddol gyda maniffestos hyll yn cael mwy o sylw na darlithoedd cain. ![]() Ceinder - Ar lwyfan sy'n ymestyn fel pier i'r mwd y tu allan i babell rhywbeth gydag enw mor hyll a diramant a Chymdeithas Ddillad a Thecstiliau Cymru y mae merched glandeg, coesog, yn cerdded yn ôl a blaen yn dangos eu defnyddiau.A thri llabwst cydnerth gyda gwên wirion orau'r Brifwyl ar eu hwynebau wedi ymgolli'n llwyr yn y steiliau diweddaraf. Dydd Gwener Dewis Lewis - o gyfeiriad Pabell y Cymdeithasau y mae mwg mawr dy yn codi’n gwmwl trwchus yn yr awyr. "Mae’r Archdderwydd wedi ei ddewis a Robyn Lewis ydi o," meddai rhywun heb sylweddoli mai’r frigâd dân sy’n rhoi gwersi ichi sut i losgi’ch sosban jips. Heb fwg du na gwyn, pabyddol, y mae Robyn Lewis yn cael ei ddewis fodd bynnag wedi’r holl ymgyrchu mawr. Eistedd y ddau ymgeisydd arall - T. James Jones a Selwyn Griffiths - gyda’i gilydd yn rhes gefn Pabell y Cymdeithasau i ddisgwyl y canlyniadau ac i gysuro’i gilydd. Mae Robyn Lewis ei hun yn hwyr yn cyrraedd a neb yn siwr ai arwydd o hyder ynteu nerfusrwydd yw hynny. Mae yna boeni beth fyddai cyflwr ei iechyd pe byddai’r bleidlais yn mynd yn ei erbyn. Mae yna ddarogan mawr yn awr, archdderwyddaeth ddifyr a dadleuol ond cwyna un bardd, "Mae gynnon ni Archdderwydd nad yw yn gwybod y gwahaniaeth rhwng englyn a chywydd." Gwynt sychu - Y diwrnod cyntaf heb law ac mi allwch chi deimlo’r ysbryd ar y maes yn ysgafnhau ac ysbryd pobl yn codi wrth i’r gwynt a’r haul; sychu’r mwd. Mae pob math o straeon am y Gadair yn dilyn sylw dro’n ôl gan un o drefnwyr yr Eisteddfod y bydd yn seremoni hanesyddol. Rhai yn darogan cadair ddu. Eraill yn cyhoeddi nad yw’r awdurdodau yn gwybod pwy yw’r enillydd nac yn gwybod a fydd yn bresennol gan nad oedd enw yn yr amlen dan sêl. Eraill yn dweud mai dyma flwyddyn y ferch gyntaf i ennill gyda enw dwy yn cael eu hawgrymu - ond nid yr un iawn fel mae’n digwydd. Mae awgrym hefyd mai rhywun sydd wedi ennill ddwywaith o’r blaen fydd y y bardd cadeiriol - ond a fydd ganddo hawl i’w gadair? Ac ar ddiwedd y dydd, ys dywed y gwleidyddion, mae’r ferch lwyddiannus yn cyhoeddi mai i brifardd o ddyn a’i dysgodd i gynganeddu y mae’r diolch am ei llwyddiant. Hed amser - Mae rhywun wedi hwyr ryddhau o gwlwm amser dydd Mercher erbyn hyn wrth i’r wythnos ddrybowndian tua’i therfyn gyda dim ond yfory ar ôl. "I ble’r aeth yr wythnos?" hola rhywun. Ond nid y dyn a fu’n eistedd yn ei gar am awr a hanner gyda’i deulu yn disgwyl am gael mynd allan o’r maes parcio. "Mae yna lot i’w ddweud dros law i gadw pobol adre, inni gael mynd oma’n go handi," medda fo gan ddiffodd ei injian eto. Dydd Sadwrn Fflatio - er gwaethaf cadeirio hanesyddol; er gwaethaf dewis hanesyddol o archdderwydd, er gwaethaf protestiadau iaith a ffraeo gwleidyddol go brin y bydd Steddfod Dimbach yn cael ei chofio fel un o’r eisteddfodau mawr. Yr oedd y Sadwrn cyntaf yn fflat a disbarc. Daeth y glaw i ddifetha popeth ac yr oess y maes carafanau yn stomp. Erbyn hyn mae popeth drosodd a minnau’n sylweddoli mai un o’r pethau oedd ar goll yn Ninbych oedd lluoedd o blant bach yn eich plagio i brynu rhaglen y dydd. Ni welwyd yr un. Dadbobolgeiddio - y mae Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith yn ail-adrodd neges a ymddangosodd ar BBC Cymru’r Byd echdoe - nad wrth nifer yr ymwelwyr y mesurir llwyddiant eisteddfodau’r dyfodol. Gyda nifer yr ymwelwyr yn sicr o ostwng o flwyddyn i flwyddyn yn sgîl teledu digidol dywed Eifion Lloyd Jones mai ffyn mesur eraill a ddefnyddir i fesur llwyddiant. Edrychwn, felly, ymlaen at eisteddfod fwyaf llwyddiannus y ganrif tua 2050 - gyda phawb yn aros adref a neb yn eistedd mewn tagfa draffig a’r maes a’r pafiliwn yn berffaith wâg a chadeirydd pwyllgor gwaith yn canmol llwyddiant yr eisteddfod ddi-gynulleidfa gyntaf erioed.
| |
© MMI |
|
About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy |