MAWRTH 18fed Tachwedd 2014 Hygyrchedd Geiriau Yn Unig | ![]() |
Cerddi Coron Llanelli yn sbarduno cyfansoddwr Dinbych Cerddoriaeth a gyfansoddwyd ar gyfer cerddi’r Goron yn y Genedlaethol y llynedd a enillodd y tlws cerdd yn Ninbych eleni.Ond cwynodd y beirniaid, Richard Elfyn Jones a Jeremy Huw Williams, nid yn unig mai ychydig a gystadlodd ond hefyd fod safon rhai o’r cystadleuwyr hynny yn isel. Cyfeiriwyd at "wendidau technegol a diffyg cyffredinol mewn gwreiddioldeb ac ysbrydoliaeth." Gweddu'n dda Ond am waith y cystadleuydd buddugol,Euron J. Walters o Glydach, Abertawe, cyfeiriwyd at "ddiddordeb pwerus" gydag arddull harmonig ychydig yn dywyll yn "gweddu’n dda i lymder y cerddi trist" a enillodd Goron y Genedlaethol i Dylan Iorwerth y llynedd. Ychwanegwyd fod Euron "yn gwbl gyffyrddus yn gosod barddoniaeth Gymraeg." Ganwyd Euron yng Ngwynedd yn fab i weinidog gyda’r Bedyddwyr. Pan oedd Euron yn dair oed symudodd y teulu i Geredigion a mynychodd Ysgol Gynradd Pontrhydfendigaid. Symudodd wedyn i Ysgol Ramadeg Pontypridd ac Ysgol Rhydfelen. Byw yn Llundain Graddiodd mewn Cerdd a’r Gymraeg yn Aberystwyth gan ddilyn gyrfa yn gyfeilydd. Bu’n byw yn Llundain ers ugain mlynedd ac yn gyfeilydd llawn amser i Ysgol Theatr Italia Conto ers deng mlynedd. Mae’n gyfeilydd Côr Glannau Tafwys ac yn organydd cynorthwyol Capel y Bedyddwyr, Castle Street, Llundain. Enillodd bedair gwaith yn y Genedlaethol ar gyfansoddi unawd ac amryw o weithiau ar gyfansoddiadau corawl. Mae hefyd yn barddoni gan ennill cadair Eisteddfod Cymdeithasau Llundain ddwy waith. Am ei waith dywedodd: "Unwaith i mi sefydlu’r naws briodol yn y cyfeiliant roedd y caneuon fwy neu lai yn eu cyfansoddi eu hunain - rhywbeth nad yw yn digwydd yn aml iawn." Derbyniodd £500 ac ysgoloriaeth £2,000 i hyrwyddo ei yrfa.
| |
© MMI |
|
About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy |