bbc.co.uk
Home
Explore the BBC

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfod Dinbych 2001

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf

Newyddion

Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



BBC Homepage

Cymru'r Byd
Cymru'r Byd
»Dinbych 2001
Straeon
Adolygiadau
Newyddion
Lluniau
Gwledd yn Ninbych
Y lle i fod
Canrif o Brifwyl
Y Sîn Roc
Llais Llên

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Gwobr y Byd i Gymry Patagonia

Holl Gymry'r Wladfa ym Mhatagonia sy'n ennill gwobr Cymry'r Cyfanfyd eleni ac nid unigolyn.

Pan ddyfarnwyd y wobr am y tro cyntaf erioed y llynedd fe'i henillwyd gan Gwynfor Evans.

Mae'r wobr yn cael ei rhoi gan Bwyllgor Rhyngwladol Anrhydedd Cymry'r Cyfanfyd ac fe fydd yn cael ei chyflwyno gan yr Archdderwydd mewn seremoni arbennig yn y Pafiliwn ddydd Mawrth, Awst 7

Bydd yn cael ei derbyn ar ran trigolion y Wladfa ym Mhatagonia gan Dewi Mefyn Jones a fu'n flaenllaw yn yr ymdrech i adfywio Eisteddfod y Wladfa yn 1965..

Mae'r wobr ar ffurf tlws Celtaidd, Lleuadydd, o aur ac arian wedi ei osod ar dderw Cymreig.

Cafodd ei wneud gan Anthony Lewis o Geredigion.

Menter ryngwladol bwysig
Wrth gyhoeddi'r wobr disgrifiodd Cymry'r Cyfanfyd a sefydlwyd yn y lle cyntaf gan un o Gymry'r wladfa, Arturo Roberts, Golygydd Ninnau, y Wladfa fel menter ryngwladol bwysig.

Ymfudodd y Cymry cyntaf i Batagonia dan arweiniad Michael D.Jones ar Fai 25 1865 gan ymsefydlu yn Nyffryn Camwy cyn symud maes o law tua'r Andes.

Y mae Arturo Roberts yn un o or-wyrion Lewis Jones un o'r ymsefydlwyr gwreiddiol.

Fe fu'r Cymry'n llwyddiannus iawn yma er mai nifer fechan a symudodd yma mewn gwirionedd, dim ond 3,000 yn ystod yr hanner can mlynedd cyntaf.

Glynodd y Cymry hyn at eu traddodiadau er eu bod wedi ei gwhanu oddi wrth eu mamwlad gan ddau ryfel byd.

Parhaodd y Cymry i ddefnyddio'r Gymraeg a datblygu eu sefydliadau eu hunain. Mae'r Wladfa'n fyw o hyd ac mae'r iaith Gymraeg yn dal i gael ei siarad yma.

Cydnabod cyfraniad
Dywedodd llefarydd ar ran Cymry'r Cyfanfyd i Lywodraeth Ariannin gydnabod swl gwaith gyfraniad y Cymry a'u disgynyddion i Ariannin.

Ar hyn o bryd mae Llywodraeth Talaith Chubut yn ystyried cais UNESCO i ddynodi Capeli Cymraeg Patagonia yn Safle Treftadaeth Byd-eang.

Yn ddiweddar bu Rhodri Morgan yn ymweld a'r Wladfa gan sefydlu Dolen Ysgolion Cymru-Patagonia er mwyn cysylltu'r plant sy'n siarad Cymraeg yn Chubut â phlant ysgolion Cymru.

Mae'r cynllun wedi derbyn cefnogaeth BBC Cymru drwy Cymru'r Byd.



Straeon Eisteddfod 2001:
BBC
© MMI

Pafiliwn (dydd)
Pafiliwn (nos)
Clecs Clwyd - Dysgwyr
Dinistr - Pabell Roc
Drama
Gigs y Gymdeithas
Gwyddoniaeth
Maes B
Pabell Cymdeithasau
Pagoda
Pabell Lên
Theatr y Maes
Y Stiwdio

Neuadd Ddawns
Be wyddoch chi am y Steddfod?
[an error occurred while processing this directive]
Be wyddoch chi am y Steddfod?


Gwledd yn Ninbych
[an error occurred while processing this directive]
Gwledd yn Ninbych
Y byd llyfrau - Llais Llên
Y byd llyfrau - Llais llên
Newyddion diweddaraf y sîn roc
Newyddion Y Sîn Roc
Gemau
Chwaraewch y gemau



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy