bbc.co.uk
Home
Explore the BBC

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfod Dinbych 2001

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf

Newyddion

Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



BBC Homepage

Cymru'r Byd
Cymru'r Byd
»Dinbych 2001
Straeon
Adolygiadau
Newyddion
Lluniau
Gwledd yn Ninbych
Y lle i fod
Canrif o Brifwyl
Y Sîn Roc
Llais Llên

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Gwyl Gwyddoniaeth a Thechnoleg

Fe fydd Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru yn cefnogi cystadleuthau a digwyddiadau Gwyddoniaeth a Thechnoleg yn yr Eisteddfod eleni.

Mae'r Asiantaeth wedi sefydlu perthynas รข'r Eisteddfod ac mae hyn yn rhan o ymgyrch yr Asiantaeth i godi proffil eu gweithgareddau ymysg siaradwyr Cymraeg.

Mae'r Asiantaeth yn gorff sydd wedi'i seilio ar wyddoniaeth ac felly mae'n gweld y bartneriaeth newydd yn gam naturiol.

Dywedodd Roger Thomas, Cyfarwyddwr Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru " Rydym yn falch iawn o gefnogi'r Eisteddfod, yn enwedig yr ymdrechion i hybu Gwyddoniaeth a Thechnoleg yn yr Wyl."

Mae Elfed Roberts, Cyfarwyddwr yr Eisteddfod Genedlaethol yn falch fod y berthynas wedi'i sefydlu hefyd "Bydd cefnogaeth yr Asiantaeth i weithgareddau Gwyddoniaeth a Thechnoleg yr Eisteddfod yn ein galluogi i ddatblygu ymhellach yr agwedd bwysig hon ar yr wyl."

Technegau modern

Bydd stondin yr Asiantaeth y tu mewn i'r Pafiliwn Gwyddoniaeth a Thechnoleg. Yma fe fyddan nhw'n dangos eu gwaith ym meysydd Amddiffyn rhag Llifogydd a Rhubuddion rhag Llifogydd a'r defnydd o dechnegau modern fel mapio trwy ddefnyddio arolygon o'r awyr.

Bydd gan y diwydiant 'aerospace' arddangosfa fawr yn yr Eisteddfod eleni wedi ei greu gan y WDA lle byddan nhw'n edrych ar hanes hedfan a chwilio'r gofod.

Yma fe gaiff pobol o bob oed y cyfle i gymryd rhan mewn amryw o weithgareddau gan gynnwys gwneud barcud ac archwilio twristiaeth yn y gofod.

Fe fydd cyfle i bobol ifanc sydd a diddordeb mewn gwyddoniaeth mansio rocerd, a chymryd rhan mewn cystadleuaeth i ysgolion lle bydd yr enillydd yn cael mynd i NASA yn America.

Awyren mwyaf y byd
Yn ogystal fe fydd Airbus UK yn arddangos model pedair troedfedd o'r awyren mwyaf yn y byd i deithwyr.

Fe fydd y model hwn yn dangos cynllun yr awyren sy'n cynnwys bariau, adran ddosbarth cyntaf, lleoedd cysgu a hyd yn oed clwb iechyd.

Mae'r Airbus yn creu 1,700 o gyfleoedd newydd am swyddi yn ffatri'r cwmni yn Broughton, Sir y Fflint.

Dywed Chris Farrow, Cyfarwyddwr Gweithredol (executive) cangen Gogledd Cymru o'r WDA " Yn yr arddangosfa rydym ni wedi ceisio dangos bod y diwydiant aerospace yn tyfu ac yn un cyffrous sy'n cynnig cyfleoedd gwych i ddarparwyr newydd."




Straeon Eisteddfod 2001:
BBC
© MMI

Pafiliwn (dydd)
Pafiliwn (nos)
Clecs Clwyd - Dysgwyr
Dinistr - Pabell Roc
Drama
Gigs y Gymdeithas
Gwyddoniaeth
Maes B
Pabell Cymdeithasau
Pagoda
Pabell Lên
Theatr y Maes
Y Stiwdio

Neuadd Ddawns
Be wyddoch chi am y Steddfod?
[an error occurred while processing this directive]
Be wyddoch chi am y Steddfod?


Gwledd yn Ninbych
[an error occurred while processing this directive]
Gwledd yn Ninbych
Y byd llyfrau - Llais Llên
Y byd llyfrau - Llais llên
Newyddion diweddaraf y sîn roc
Newyddion Y Sîn Roc
Gemau
Chwaraewch y gemau



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy