MAWRTH 18fed Tachwedd 2014 Hygyrchedd Geiriau Yn Unig | ![]() |
Athrawon yn galw am ddiogelwch Mae'r undebau athrawon yn galw am 'ddiogelwch teg i'r Proffesiwn'. Maen nhw'n galw am hyn yn sgil y cynnydd mewn honiadau maleisus yn erbyn athrawon a bod ymddygiad disgyblion wedi gwaethygu. Ym Mhabell y Cymdeithasau ddydd Mercher bydd SCEW sef holl undebau athrawon Cymru yn galw am fwy o ddiogelwch i athrawon. Fe fyddan nhw'n galw am gyflymu'r broses ddisgyblu a rhoi hawl i ysgolion i wahardd disgyblion. Fe fyddan nhw hefyd yn galw am roi'r hawl i athro aros yn anhysbys hyd nes bod achos yn ei erbyn wedi'i brofi a dileu'r drefn o wahardd athrawon yn syth os oes achos yn cael ei ddatgan yn eu herbyn. Dywed llefarydd ar ran SCEW: "Mae athrawon yn teimlo eu bod yn gallu cael eu herio bob tro maent yn cerdded i mewn i'r ystafell ddosbarth. Yn sicr mae hyn yn un o'r prif resymau pam fod yna broblem recriwtio athrawon mewn rhai rhannau o'r wald....Rhaid diwygio'r drefn a chynnig cymorth ac amddiffyniad i'r disgybl a'r athrawon." Yn eu cyfarfod cyhoeddus nhw ddydd Mawrth fe fydd UCAC yn canolbwyntio ar awdurdodau addysg lleol ac yn trafod a oes rôl iddyn nhw bellach.
| |
© MMI |
|
About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy |