MAWRTH 18fed Tachwedd 2014 Hygyrchedd Geiriau Yn Unig | ![]() |
Brwydro 'mlaen dan gysgod y clwy Rheolau llym i wahardd ceir budron Seiniau Peintio’r Byd yn Wyrdd gan Ddafydd Iwan yn Rhydaman. Protestiadau Cymdeithas yr Iaith yn Y Fflint Llwch Cwm Rhymni. Mwd Abergwaun. . . Y mae i steddfodau cenedlaethol eu nodweddion arbennig ac mae’n debyg mai’r hyn a fydd yn aros yn y cof am Ddinbych yw’r disinffectant y mae’n rhaid i geir a phobol fynd drwyddo ar eu ffordd i’r maes. Ers y gwanwyn bu’r clwy traed a genau yn taflu ei gysgod dros yr Eisteddfod hon ac yn awr y mae arogl ei ddiheintydd yn rhan hanfodol ohoni. Dim cwn Gosodwyd gorchmynion ar ochr y ffordd yn dweud na fydd mynediad i geir budroni'r meysydd parcio ac y mae gwaharddiad llwyr ar anifeiliaid dof gan gynnwys cwn. Ac ymhlith y rhai sy’n dioddef oherwydd y gwaharddiad hwnnw y mae Robbie, daeargi Cairn, trefnydd yr Eisteddfod yn y gogledd, Hywel Wyn Edwards. Y mae llwybrau cyhoeddus yn y cyffiniau wedi eu cau ac y mae cerbydau sy’n cario pethau i’r maes yn gyrru’n gyntaf drwy bwll dwy droedfedd o ddiheintydd. Serch hynny, yr oedd hyd yn oed rai o’r Steddfotwyr hynny a fentrodd i Ddinbych ddydd Sadwrn yn holi a fu hi mewn gwirionedd yn beth doeth cynnal y Genedlaethol o gwbl yn y fro amaethyddol hon a’i haml ffermydd llaeth. Bu cryn ddal anadl na fyddai’r clwy yn amlygu ei hun yn yr ardal yn ystod yr wythnosau cyn yr wyl - yn enwedig o weld be fu’n digwydd ar Fannau Brycheiniog. Ac yn ystod yr wythnos hon fe fydd yna weddio taer na ddaw y clwy o fewn wythnosau i’r Eisteddfod orffen. Ymgynghori yn eang Y mae barn gref ymhlith rhai amaethwyr y dylai’r Genedlaethol fod wedi dilyn enghraifft yr Urdd a’r Sioe Frenhinol ond ar y diwrnod agoriadol ddydd Sadwrn dywedodd Mr Edwards a phrif weithredwr yr Eisteddfod, Elfed Roberts, unwaith eto iddyn nhw ymgynghori yn eang cyn penderfynu dal ati. "Yr ydym wedi ymgynghori a’r Cynulliad a’r undebau amaethyddol ac y mae’n braf medru eistedd yma heddiw ar ddiwrnod cyntaf yr Eisteddfod," meddai Mr Roberts mewn cynhadledd i’r wasg. "Gobeithio y bydd yn llwyddiant nid yn unig er mwyn yr Eisteddfod ond er mwyn pobol Sir Ddinbych," ychwanegodd gan gyfeirio at y gwaith paratoi mawr a fu yn lleol. Ofnau ariannol Ond beth bynnag am weithgareddau eisteddfodol y mae yna amheuon yn barod a fydd hon yn llwyddiant ariannol. Diwrnod braidd yn ddilewyrch oedd y Sadwrn cyntaf mewn gwirionedd gyda’r gynulleidfa i’w gweld yn un denau ar y maes eang ac yn bum mil yn llai na’r hyn a gafwyd yr un diwrnod yn Llanelli y llynedd. Ac oherwydd y clwy traed a genau y mae’r trefnwyr yn ei chael yn anodd annog pobl i ddod yno beth bynnag - yn enwedig o’r ardaloedd hynny sydd wedi eu heintio. Y mae carafanwyr wedi bod yn tynnu’n ôl a hynny’n golygu colled o £72 y tro ac y mae cystadleuwyr o ardaloedd heintiedig yn amharod i deithio yno a’r Eisteddfod yn rhoi yn ôl iddyn nhw eu tâl cystadlu. Hyd yn oed pan yw pethau’n mynd yn dda dydi’r Eisteddfod ddim yn ei chael hi’n hawdd gwneud elw - £46,000 cymedrol iawn yn Llanelli lwyddiannus y llynedd a dim ond £6,000 yn Llanbedrgoch y flwyddyn cynt. Cefnogaeth leol Bu'r Eisteddfod yn ffodus yn ei chfenogaeth leol fodd bynnag gyda Hywel Wyn Edwards ynn tynnu sylw at y ffaith i nod y gronfa leol gael ei chyrraedd cyn i'r clwy ymddangos gyntaf a rhoi stop ar weithgareddau codi arian. Talodd deyrnged hefyd i haelioni y cynghorau lleol - nid yn unig Sir Ddinbych ond cynghorau tref Dinbych a'r Rhyl gyda'r naill yn cyfrannu dro £45,000 a'r llall £30,000.
| |
© MMI |
|
About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy |