MAWRTH 18fed Tachwedd 2014 Hygyrchedd Geiriau Yn Unig | ![]() |
Cwyno am reol dim rhyw yr Orsedd Cyhuddo'r Orsedd o iselhau merched Y mae Cofiadur Gorsedd y Beirdd wedi addo y bydd yr Orsedd yn ail-edrych ar amodau oedd yn mynnu fod yn rhaid i’r ‘forwyn’ sy’n cymryd rhan yn ei seremonïau fod yn "bur ac yn lân" a heb gael cyfathrach rywiol.Y mae hyn wedi i’r ferch ifanc a ddewiswyd yn Forwyn y Fro ar gyfer Eisteddfod Penybont-ar-Ogwr, 1998, ddatgelu iddi hi orfod cadw at amodau haearnaidd iawn. Er na ofynnwyd iddi mewn cymaint â hynny o eiriau, "Wyt ti wedi cael rhyw? Wyt ti’n bur? Wyt ti’n lân?" dywedodd Laura Griffiths o Faesteg ar y rhaglen Llinyn Mesur ar BBC Radio Cymru bnawn Sul: "Pan oeddwn i wedi cael cyfweliad gyda Bwrdd yr Orsedd yr oedden nhw wedi gwneud yr holl beth yn berffaith glir." Dim priodi - dim plant! Soniodd am amodau eraill a ystyriai yn annheg hefyd. "Doeddwn i ddim yn cael newid sut yr oeddwn i’n edrych. Doeddwn i ddim yn cael dodi pwysau ymlaen, doeddwn i ddim yn cael torri ngwallt neu liwio fy ngwallt. Roeddwn i’n ben-dant yn ffaelu priodi, ddyweddïo neu gael babi achos fyddwn i ddim yn dod ar draws fel morwyn ifanc y fro." Dywedodd Laura a ddewiswyd o blith cant o ferched eraill fod rhai o’r amodau hyn yn gofyn gormod. Ond ychwanegodd nad oedd hi yn obeithiol o unrhyw newid mewn agwedd nes y byddai gan bobl ifanc fwy o reolaeth dros yr Orsedd. "Mae’r bobl sydd yn rhedeg yr Orsedd yn hen. Dydi’r Orsedd byth yn mynd i newid tan mae pobl ifanc yn mynd i redeg y peth," meddai. Cyfartaledd merched Yn ymateb i sylwadau Laura dywedodd y bardd a’r aelod o’r Orsedd, Menna Elfyn, fod gosod amodau o’r fath yn groes i’r syniad o gyfartaledd merched.e gweld y ferch fel rhyw arwyddlun o berffeithrwydd yn rhwystro’r broses o’n gwneud ni’n fodau cyfartal," meddai. Galwodd hefyd am ailedrych ar y defnydd a wneir o blant yn seremonïau’r Orsedd. "Mi fyddwn i’n codi’r cwestiwn ynglyn a’r ddawns flodau a bellach rydyn ni wedi dechrau sylweddoli fod y ffordd yr ydym ni yn edrych ar blant hefyd yn codi cwestiynau sydd yn ddyrys ac yn gwestiynau moesol," meddai. Beirniadodd Karen Owen, golygydd Golwg, hefyd y seremonïau am roi’r argraff fod merched trwy ddawnsio ac ymgrymu yn fodau sy’n gwasanaethu dynion." Harddwch ac urddas Gwrthododd yr hanesydd steddfodol, Hywel Teifi Edwards yr awgrym fod hyn oll yn iselhau merched. "I’r gwrthwyneb, nhw (y merched) yn bennaf dim, fyddwn i’n dadlau sydd yn gosod harddwch ac urddas ar y seremonïau ac fe ddylen nhw fod yn falch o’u swyddogaeth," meddai. Ond dywedodd y Prifardd Jâms Niclas nad oedd ef yn "hapus o gwbl" gyda’r amodau y bu disgwyl i Laura gadw atynt gan ddweud eu bod nid yn unig yn "gryn syndod" iddo ef ond hefyd ei bod yn "resyn" ganddo i’r peth ddigwydd. Ychwanegodd na ddigwyddodd dim byd o’r fath yn y gogledd yn ystod y naw mlynedd diwethaf o leiaf. Ddim yn hapus o gwbl "Fyddwn i ddim yn hapus o gwbl pe byddwn i’n gwybod fod y fath broses a’r math o gefndir yma y tu ôl i’r dewis o ferched," meddai ar Llinyn Mesur. "Rwy’n gallu dweud yn gategorïol nad yw hwnna ddim yn bod," ychwanegodd am y drefn bresennol. Pan ofynnwyd iddo a oes lle i edrych i mewn i seremonïau’r Orsedd yn gyffredinol dywedodd; "Yn sicr y mae lle i edrych ar y seremonïau ac ar y pwynt merched a’r plant," meddai gan ychwanegu fod y seremonïau hyn "yn agored ac yn llawn posibiliadau ac mae unrhyw feirniadaeth deg sy’n dod i mewn oddi wrth yr aelodau yn rhwym o dderbyn sylw Bwrdd yr Orsedd ac o ganlyniad y cyfarfod blynyddol." Cadarnhaodd y bydd yn rhaid yn awr, godi’r mater yng nghyfarfod y Bwrdd.
| |
© MMI |
|
About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy |