MAWRTH 18fed Tachwedd 2014 Hygyrchedd Geiriau Yn Unig | ![]() |
Steddfod deithiol - 'tywallt arian i dyllau mawr duon' Dadl canoli yn cael ei chodi unwaith eto yn nghanol y mwd a'r baw Cyfle i chi ddweud eich barn - ebostiwch Gyda’r glawogydd trymion yn prysur ddifetha’r Eisteddfod eleni ac wrth i bobl gadw draw wrth eu miloedd nid yw’n syndod i’r ddadl ynglyn a chael maes sefydlog godi ei phen unwaith eto.Gyda’r maes yn troi’n fôr annymunol o fwd - ac wrth i berfformwyr gael eu byddaru gan swn glaw yn erbyn y pafiliwn - yr oedd mwy nag un yn holi unwaith eto ai dyma’r ffordd orau i wario dwy filiwn o bunnau. Maes parhaol Onid gwell, meddan nhw, fyddai sefydlu maes parhaol gyda darpariaethau iawn rhag y tywydd a chyda meysydd parcio na fyddai eu llwybrau’n troi’n gorsydd soeglyd. Un a oedd yn daer dros sefydlogi’r Genedlaethol pan laddwyd y syniad ddiwethaf yn y saithdegau oedd Dafydd Iwan. Ac er iddo gael ei drechu mewn dadl dyngedfennol mewn cyfarfod o Lys yr Eisteddfod yn Aberystwyth yr adeg honno mae’n ymddangos nad ydio wedi newid ei feddwl. Mewn erthygl ar wefan Eurolang yn son am yr Eisteddfod dywed y dylai'r Eisteddfod benderfynu ar dri lleoliad parhaol gan beidio â bod yn wyl drwyadl deithiol fel ag y mae yn awr. Wedi mynd yn rhy gostus "Mae hi wedi mynd yn rhy gostus i’w symud erbyn hyn," meddai. "Mae’r arian sy’n cael ei godi gan yr holl weithgarwch lleol yn mynd - yn llythrennol - i dwll yn y ddaear. "Mae’r Eisteddfod wedi tyfu gymaint, mi fydd raid i ni ystyried cael llefydd sefydlog iddi gyda hyn," meddai. Yr oedd mwy nag un yn barod i amenio hynny ar y Maes yr wythnos hon. Ond pan yn siarad a BBC Cymru'r Byd cyn yr Wyl yr oedd cadeirydd pwyllgor gwaith Dinbych, Eifion Lloyd Jones, yn daer yn erbyn - fel ag yr oedd pan dynnodd y gwynt o hwyliau Dafydd iwan yn y saithdegau. Ac hyd yn oed wedi'r profiadau anffodus gyda'r tywydd yn Ninbych yr wythnos hon dywedodd Mr Jones ei fod ef mor bendant ag erioed fod yn rhaid cadw'r Eisteddfod yn symudol. Dywedodd fod anawsterau gyda'r tywydd yn bris y mae'n rhaid bod yn fodlon ei dalu er mwyn diogelu perchenogaeth leol ar Steddfod o flwyddyn i flwyddyn. Galw am dair pabell Galwodd Dafydd Iwan hefyd am newid y ffordd y mae’r Eisteddfod yn cael ei gwerthu. "Mae’r Eisteddfod yn arddangosfa dda i’r Gymraeg - mae hi’n llwyfan, yn wyl ac yn ffair fasnachol. Mae’n lle i’r Cymry ddod i gyfarfod Cymry eraill, i weld y stondinau masnachol a gwirfoddol. "Ac rwy’n credu y dylid cael tri phafiliwn llai yn hytrach nag un pafiliwn mawr ar ganol y Maes," meddai. "Mi fyddai hyn yn codi proffil gweithgareddau fel drama, celfyddyd ac ati. Er bod y Maes yn llawn, yn aml iawn mae’r Pafiliwn yn lled wag ac mae’n bosib fod y ffaith fod yr Eisteddfod i’w gweld yn ddi-dor ar S4C digidol rywbeth i’w wneud a hynny." Beth yw eich barn chi? Ebostiwch i ddweud
| |
© MMI |
|
About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy |