MAWRTH 18fed Tachwedd 2014 Hygyrchedd Geiriau Yn Unig | ![]() |
Lwcowt - mae mwy o ferched cadeiriol ar y ffordd!"Nid y fi yw'r orau,' meddai merch Cadair Dinbych Ewch a gwnewch chwithau yr un modd oedd yr anogaeth i ferched eraill Cymru gan y fenyw gyntaf erioed i ennill Cadair yr Eisteddfod Genedlaethol. A’r neges galonogol gan Mererid Hopwood o Langynnwr, Caerfyrddin, oedd fod yna nifer o ferched eraill yng Nghymru sy’n gynganeddwyr digon da i ennill y brif wobr yn yr Eisteddfod Genedlaethol. O ennill, dywedodd ei bod yn llawen ar y naill law ond yn anghysurus ar y llall yn dilyn y dyfarniad hanesyddol y beirniaid yn Ninbych bnawn Gwener. Ar ben fy nigon - an anghysurus "Yr ydw i yn teimlo ar ben fy nigon ac ar yr un pryd yn weddol anghysurus oherwydd fy mod yn gwybod fod yna nifer fawr o ferched yng Nghymru sydd yn well cynganeddwyr ac yn well beirdd na mi - dydw i ddim yn ystyried fy hun yn fardd heb sôn am fod yn brifardd," meddai yn dilyn seremoni’r Cadeirio. Ond nid oedd cuddio balchder y ferch na ddechreuodd gynganeddu tan chwe blynedd yn ôl yn dilyn ei hergyd dros ferched yn y talwrn cynganeddol. "Yr oedd yn hen bryd i ferch ennill y Gadair gan fod rhai yn honni fod cynganeddu y tu draw i ferched ond dydi hynny ddim yn wir - ac os yr ydw i yn gallu gwneud fe all unrhyw ferch," ychwanegodd. Dywedodd mai diffyg traddodiad a diffyg anogaeth yn hytrach na diffyg medr fu’n gyfrifol nad enillwyd y Gadair gan ferch o’r blaen. Diolch i'w hathro Ond i ddyn y talodd y diolch pennaf am ei llwyddiant, Tudur Dylan Jones a fu’n cynnal dosbarthiadau cynganeddu yng Nghaerfyrddin. "Mi hoffwn i roi ar record fy niolch i ysgol farddol Caerfyrddin ac yn arbennig i Tudur Dylan Jones. Oni bai amdano ef ni fyddwn i na sawl un arall yn medru cynganeddu o gwbl," meddai. "Yr ydw i wedi cael athro gwych - ac yr oeddwn innau hefyd yn ddisgybl eitha brwd," meddai gan wenu. Dywedodd mai stori yw ei cherdd fuddugol am ferch ifanc yn syrthio mewn cariad, yn cael plentyn ac wedyn yn ei golli. Yn fam i dri o blant dywedodd nad oedd yn brofiad personol iddi hi ond iddi hi fod ymhlith merched eraill a fu drwyddo. "Ac yr wyf yn cydymdeimlo’n llwyr a’r person cyntaf yn y gerdd," meddai. Cyfle newydd Dan amgylchiadau mor drist dywedodd fod y syniad o ddadeni yn deillio o’r ffaith fod cyfle yn dod gyda phob profiad inni i gyd, i ddysgu, i newid ac i ddeall bywyd o’r newydd a bod hynny yn digwydd i’r fam yn y gerdd hon. Dywedodd fod adnod o’r Apocrypha yng nghefn ei meddwl wrth gyfansoddi: "Newidir calon trigolion y ddaear ac fe’u troir i ddeall pethau mewn ffordd newydd." Her i'r ditectifs Er iddi gyfaddef nad dyma’r tro cyntaf iddi gystadlu am y Gadair gwrthododd ddatgelu pryd y bu iddi gystadlu ond dywedodd yn awgrymog y byddai ei ffugenw eleni, Llygad y dydd, yn gliw i’r ditectyddion cynganeddol. Mwy am fardd y Gadair
| |
© MMI |
|
About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy |