bbc.co.uk
Home
Explore the BBC

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfod Dinbych 2001

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf

Newyddion

Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



BBC Homepage

Cymru'r Byd
Cymru'r Byd
»Dinbych 2001
Straeon
Adolygiadau
Newyddion
Lluniau
Gwledd yn Ninbych
Y lle i fod
Canrif o Brifwyl
Y Sîn Roc
Llais Llên

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Dydd Mercher: Gwilym Owen yn yr Eisteddfod

Gwilym OwenMae pawb sy’n fy nabod i i’n gwybod nad ydw i’n hoffi cwyno. Ond cwyn sy gen i i gychwyn heno.

Pam fod yn rhaid talu ffortiwn am damaid o fwyd a llymaid o ddiod ar Faes y Brifwyl. Mi dalais i ffortiwn bach ddoe am frechdan cig moch a phaned o de heb lefrith.

’Does ryfedd fod un teulu bach wedu honni ei bod hi’n rhatach mynd ar drip i Euro Disney na dod i’r ’Steddfod.

Gwleidyddion Mickey Mouse

Ar un wedd mae Maes Prifwyl Dinbych yn reit debyg i Wlad Disney - mae yna gynifer o wleidyddion Mickey Mouse o gwmpas y lle.

Maen nhw’n hawlio mwy o sylw na’r cystadleuwyr a’r perfformwyr go-iawn.

Maen nhw’n dweud ac yn gwneud y pethau rhyfedda ac yn cyhoeddi datganiadau sy bron yn annealladwy yn yr iaith Gymraeg.

Ysgwn i pwy ydy awdur dogfen y Blaid Lafur ar Ddiwylliant, Chwaraeon a’r Iaith Gymraeg, sydd, meddan nhw yn ail ran proses dreigliadol datblygu syniadau Llafur Cymru, tu hwnt i bolisi cyfredol!

Dogfen ydy hon sy’n esiampl berffaith o falu caca siocled go iawn - neu o leia rywbeth tebyg.

Tra rwyn son am y Blaid Lafur, roedd Don Touhig, yr is-weinidog yn y Swyddfa Gymreig yn bresennol yn Seremoni’r Coroni brynhawn Llun, ac roedd ei ymdrech i ganu Hen Wlad Fy Nhadau yn nhraddodiad gorau’r hen gyfaill John Redwood.

Dwi’n deall erbyn hyn fod y cawr cerddorol Alun Cairns hefyd wedi cystadlu yn y gystadleuaeth Carioci a drefnwyd gan yr impressario Idris Charles ddoe.

Chafodd o ddim gwobr. ’Does dim byd newydd mewn gweld Tori’n colli!

Saunders - y Tin God!

Gwobr rwan i HTV am ddewrder. Yfory ar Faes y Brifwyl, cofiwch, maen nhw’n blaenddangos eu ffilm Saesneg ar Saunders Lewis yn y gyfres Tin Gods.

Yn y rhaglen hon mae’r Arglwydd Elis Thomas yn disgrifio’r eicon mawr fel gwleidydd sâl ond Pabydd da.

Pa fodd y syrthiodd y cedyrn yn y Gymru Newydd hon!

Datblygiad rhyfedd arall yn y ’Steddfod hon ydy gweld Hafina Clwyd, o bawb, yn sgrifennu erthyglau Saesneg i’r Western Mail. Ac eto ’falle ei bod hi wedi suro wedi i’r Cymro ymwrthod a’i cholofn radio a hynny heb air o esboniad.

Hen dro shabi ddeudwn i a ’does yna neb bellach yn tafoli ein rhaglenni radio.

Yn ôl â mi i Disneyland. Digwydd bod yn hofran o gwmpas Stondin Plaid Cymru oeddwn i pan sylwais i ar ôl peth amser nad oedd un o hoelion wyth The Party of Wales yn deud dim wrth un o’r uchel swyddogion.

Dyma holi a chanfod fod y tawelwch a’r pellter yn bodoli ers misoedd lawer. Plaid unedig? Go brin, wir!

Chwythu cyrn

Hon ydy’r ’Steddfod ola i’r ddau frawd sydd wedi bod yn chwythu’r Cyrn Gwlad ers dros ugain mlynedd. Mae Eifion Peris a Glyndwr Elidir yn dweud “ta ta” ddydd Gwener.

Pwy fydd yn llenwi’r bwlch? Mae son fod yr Orsedd am gynnal lecsiwn arall gyda phleidlais i bob aelod.

Dwi’n siwr y byddai yna ddegau o ymgeiswyr. Mae digon sy’n mwynhau chwythu eu cyrn eu hunain yn aelodau o’r Cylch Cyfrin!

Rwan, newydd syfrdanol! Yn ôl blyrb Canolfan Iaith Nant Gwrtheyrn mae rhai pobol bellach yn cael gwledigaethau wrth ymweld â’r Nant.

Y diweddara i gael un o’r rheini, fe ymddengys, ydy ffigwr cwlt newydd yn ffurfafen y Dysgwyr - neb llai na Phrif Gwnstabl Heddlu Gogledd Cymru.

O heddiw ymlaen bydd pob un o’i blismyn sy’n dysgu Iaith y Nefoedd yn gwisgo bathodyn gyda’r geiriau “Dwi’n dysgu” a’r Ddraig Goch arno.

Faint o gysur fydd hynny i’r Cymry Cymraeg hynny fydd yn cael eu dal gan y gleision dwyieithog, wn i ddim.

Tae waeth am hynny, dyna ganlyniad y weledigaeth gafodd Richard Brunstrom yn nhawelwch y Nant.

Cyn i minnau ddechrau gweld pethau, hwyl i chi.
Straeon Eisteddfod 2001:
BBC
© MMI

Pafiliwn (dydd)
Pafiliwn (nos)
Clecs Clwyd - Dysgwyr
Dinistr - Pabell Roc
Drama
Gigs y Gymdeithas
Gwyddoniaeth
Maes B
Pabell Cymdeithasau
Pagoda
Pabell Lên
Theatr y Maes
Y Stiwdio

Neuadd Ddawns
Be wyddoch chi am y Steddfod?
[an error occurred while processing this directive]
Be wyddoch chi am y Steddfod?


Gwledd yn Ninbych
[an error occurred while processing this directive]
Gwledd yn Ninbych
Y byd llyfrau - Llais Llên
Y byd llyfrau - Llais llên
Newyddion diweddaraf y sîn roc
Newyddion Y Sîn Roc
Gemau
Chwaraewch y gemau



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy