MAWRTH 18fed Tachwedd 2014 Hygyrchedd Geiriau Yn Unig | ![]() |
Dydd Mawrth: Gwilym Owen yn yr Eisteddfod Wir i chi, dwi ddim isio codi bwganod na chicio'r Sanhedryn Eisteddfodol. Ond wir mae yna rwbath o'i le efo'r cynllun uchelgeisiol i ddiheintio'r ceir sy'n dod i fewn ac allan o feysydd parcio'r Eisteddfod. Dim ond bore heddiw yng nghanol y glaw, a hynny ar fy mhedwerydd ymweliad â'r Maes, y cefais i fathodyn sy'n cyhoeddi mai mwd y Brifwyl sydd ar fy modur i. Fel mae'r hen air yn ddweud, dyna "godi pais ar ôl piso" eto. Cyfle i ferched y Cynulliad Lle da i chwythu'ch corn eich hun ydy Maes y Brifwyl a dyna mae Idris Charles a'i Gwmni Penffordd wedi llwyddo i'w wneud yma yn Ninbych. Heddiw, ar stondin y Cwmni, roedd yna gystadleuaeth go arbennig. Tair o ferched sy'n aelodau o'r Cynulliad Cenedlaethol yn ymgiprys mewn gornest Carioci. Efallai bod mwy o ddyfodol i'r tair ym myd canu na gwleidyddiaeth. Diolch, felly, i Gwmni Penffordd am agor drws cyfle iddyn nhw. O son am ganu, 'dach chi'n cofio addewid Dafydd Iwan ei fod o am riteirio ac nad oedd o bellach am dynnu'r dagrau o lygaid ei filoedd addolwyr? Ie, trist iawn, feri sad. Ond 'rhoswch! Mae o wedi dod yn ei ôl fel Hogia'r Wyddfa ac fe'i gwelir ar lwyfan un o glybiau nos Y Rhyl nos yfory. Ydy, er gwaetha pob addewid i "Roi'r Ffidil yn y To" mae o "Yma o Hyd". A Oes Ateb? Dwi'n gweld fod rhai o'r pwysigion fu'n cynhyrchu A Oes Ateb?, y sioe blant lwyfannwyd nos Sadwrn, yn cwyno mai dim ond unwaith y gwelir y fath gyflwyniad yn gyhoeddus. Mae yna rai eraill yn yr ardal yma yn dal yn bur anhapus ynglyn â'r dulliau a ddefnyddiwyd i ddewis y plant ar gyfer y perfformiad. Mi gafodd nifer o blant bach yr ardal a wrthodwyd eu brifo yn y broses, meddan nhw. A Oes Ateb i'r gwyn yna? Cwyn am y lecsiwn fawr PIBA - dyna ddull Hafina Clwyd i ddisgrifio'r lecsiwn fawr i ethol Archdderwydd newydd. Beth ydy PIBA? Yn syml, Pleidlais I Bob Aelod. Tybed a ydy hynna'n hollol wir yn y lecsiwn yma? A gafodd pob aelod Gorseddol ei bapur pleidleisio? Dyna'r cwestiwn. Mae sibrydion na chafod rhai degau y cyfle i fwrw coelbren. Ar bwy roedd y bai? Ac a fydd galw am ymchwiliad i'r pleidleisio fore Gwener? Cofio Gwenlyn Chwarae teg i Wasg Gomer. Heno fe gynhelir cyfarfod i gyflwyno golygiad cyfan o holl waith dramatig y diweddar Gwenlyn Parry a hynny ddeng mlynedd ers ei farwolaeth. Mi fasa Gwenlyn wrth ei fodd. Roedd Wythnos y Brifwyl yn wythnos fawr iddo fo. Trueni na chafodd o ei anrhydeddu gan ein Gorsedd na'n Prifysgol pan oedd o'n fyw. Dyna fo, dyna'r arfer yng Nghymru. A fynn glod, bydd farw. Syrthiodd y Goron! Oes arwyddion, tybed, fod ein Hybarch Archdderwydd yn barod i ymddeol? Ddaru chi sylwi ddoe fel y bu bron iddo anghofio'r elfen bwysica yn seremoni fawr y dydd? Fe anghofiodd bod angen rhoi Coron ar ben Penri Roberts! Swch yn torri cwys unig Yn rhyfedd iawn, nid beirdd a chantorion fu prif bwnc trafod y maes yma heddiw ond geiriau herfeiddiol John Elfed Jones yn y cylchgrawn Barn. Geiriau sy'n colbio'r Cynulliad am roi mwy o sylw i glwy'r traed a'r genau nag i glwy'r mewnlifiad sy'n lladd ein cymunedau Cymraeg. "Dyn a'n helpo," medda fo, "os yw buches yn bwysicach na buchedd." Fel Swch yr adnabyddir y gwron dewr ymhlith ei gyfeillion ac yn wir mae Swch wedi torri cwys go unig iddo'i hun ac yntau'n un o bileri'r sefydliad yng Nghymru. Dyn dewr iawn ac mae o'n cael marciau llawn gen i. Nid fod hynny'n fawr o gysur iddo fo, cofiwch.
| |
© MMI |
|
About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy |