MAWRTH 18fed Tachwedd 2014 Hygyrchedd Geiriau Yn Unig | ![]() |
Pigo ar y maes Diwrnod cyntaf Gwilym Owen yn yr Eisteddfod ![]() Mi gês i gythral o sioc pan gyrhaeddais i Faes yr Eisteddfod fore heddiw. Roedd gwyrth gwbl annisgwyl yn fy wynebu - dalen flaen y Daily Post yn gyfangwbl Gymraeg a'r dudalen ôl yn hanner Cymraeg. Go dda hogia papur Lerpwl, meddwn i. Hynny ydy, nes i fi geisio darllen y gybolfa eiriol sy'n cyhoeddi bod "busnes awyr ofod yn ffynnu yng Nghymru." Does dim enw newyddiadurwr wrth y lobscows. Mae'n edrych yn hynod o debyg i mi mai datganiad i'r Wasg wedi'i fursennaidd gyfieithu i rywbeth tebyg i Gymraeg ydy'r dudalen unigryw hon. Saesneg yn unig O son am yr iaith. Sut y caniatawyd lle i hysbyseb uniaith Saesneg yn Rhaglen y Dydd? Beth sydd mor arbennig ynglyn â'r bar a'r ty bwyta yna yn Rhuthun? Ga i awgrymu, hefyd, y byddai'n dda o beth i ambell sefydliad cenedlaethol a ddylai wybod yn well gywiro'u proflenni hysbysrwydd i sicrhau Cymraeg cwbl gywir yn Rhaglen ein Prifwyl - ac mae BBC Cymru yn eu plith nhw. Troi at ffermwyr Wrth gerdded o gylch y maes 'ma heddiw allwn i ddim llai na sylwi fod yna fwy o bobol nag arfer yn tyrru o gylch stondinau'r Undebau Amaethyddol. Tybed ai wedi clywed oedden nhw fod ambell filiwnydd newydd yn debyg o fod yn ymweld â'r Brifwyl? Un dyn bach ar ôl O dan do'r Pafiliwn mawr y cyfarfu Gorsedd y Beirdd y bore yma ond roedd yr Archdderwydd yn cyhoeddi ei fod o'n edrych ymlaen at gael bod ar y Maen Llôg fore Gwener. Bryd hynny, fe anrhydeddir criw da o Orseddogion newydd - rhai yn Ofyddion a'r lleill yn Dderwyddon. Mae 27 ar y rhestr gyfan ond tybed a fydd pob un yn ymddangos fore Gwener. Ac os bydd rhywun ar goll, tybed a gawn ni wybod pam? Bore’r deinosoriaid Dyna i chi le rhyfedd ydy Pabell y Cymdeithasau. Mae pob math o brynciau'n cael eu trafod yno. Bore'r Deinosoriaid go-iawn oedd hi'r bore yma. Dyma i chi deitlau'r darlithiau. Cymru a Drama'r Groegiaid oedd y gyntaf a'r ail oedd Rhai Agweddau o'r Canol Oesoedd. Sgwn i faint oedd yno? Yn sicr doeddwn i ddim. Cydymdeimlo a beirniad Gair o gydymdeimlad rwan efo un o feirniaid Cystadleuaeth y Nofel am Wobr Danel Owen a ataliwyd ddoe. Yn ôl Alun Jones, roedd angen pythefnos o wyliau arno fo ar ôl darllen hanner pennod gynta un o'r nofelau oedd yn y gystadleuaeth. Rydw i'n deall ei deimladau i'r dim. Rydw innau wedi cael yr un profiad wrth geisio aredig fy ffordd yn gwbl seithug drwy nofelau Robin Llewelyn. Ar ôl yr oes Rhyfedd gweld bod Mudiad Senedd i Gymru yn dal i gyfarfod ar Faes yr Eisteddfod. Pam, tybed, a ninnau wedi cael Cynulliad ym Mae Caerdydd. Dowch, dowch, hogia bach. Byddwch ddiolchgar am yr hyn gafwyd. Mae Rhodri a Dafydd Êl yn llorpiau'r drol Gymreig a mae'r drol ar y ffordd. I ble, does neb yn sicr. Pwy ddaw Mi orffenna i efo ansicrwydd mawr yr wythnos. Pwy fydd yr Archdderwydd newydd? Mae'r bleidlais drosodd, dim ond y cyfrif sydd ar ôl yn lecsiwn fawr gyntaf y Cylch Cyfrin. Fe ddatgelir y cyfan fore Gwener. Dim ond un cwestiwn sy gen i. Ai'r cynfaswr gora o angenrhaid fydd yr Archdderwydd gora? Y mae Gwilym Owen yn darlledu o'r Eisteddfod bob nos ar Radio Cymru
| |
© MMI |
|
About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy |