MAWRTH 18fed Tachwedd 2014 Hygyrchedd Geiriau Yn Unig | ![]() |
Dydd Iau: Gwilym Owen yn yr Eisteddfod Dwi ddim yn gwybod faint o bobol sydd wedi bod yn y ’Steddfod heddiw ond i fyny at neithiwr roedd 21,000 yn llai wedi dod i’r Maes nag a ddaeth i ’Steddfod y Sosban y llynedd. Tipyn o ostyngiad. Mae’n siwr mai y glaw a’r mwd sydd bennaf gyfrifol am hynny. Tybed nad yw hi’n bryd i’r Sanhedryn ystyried cynllun brys i sicrhau nad ydy’r Maes a’r meysydd parcio yn troi’n gorsydd mewn ychydig oriau? Pa werth gwario degau o filoedd o bunnau ar hysbysebu gwyl sy’n gallu bod mor ddi-groeso ar ddiwrnod glawog? Eto, mae rhai fyddai’n dal i ddod i’r jyncet flynyddol, glaw, gwynt, mwd neu beidio. Diolch amdanyn nhw. Dyna i chi Nel Gwenallt Jones, gweddw un o feirdd amlycaf Cymru. Ydy, mae hi’n mwynhau carafanio yn Eisteddfod Sir Ddinbych a hithau’n dair ar ddeg a phedwar ugain oed - naw deg tri i chi yn y Gymru newydd. Gwyl yr hynafwyr Tra ’mod i’n son am oedran, mae’n ddiddorol sylwi bod y Goron a’r Fedal Ryddiaith eleni wedi mynd i gystadleuwyr hyn. Da o beth ydy hynny. Mae Penri Roberts y Bardd Coronog yn hanner cant a phump ac fe wn i fod Elfyn Pritchard, enillodd y Fedal Ryddiaith ddoe yn tynnu ar Oed yr Addewid. Dwi ddim yn credu i’r naill na’r llall ddilyn cyrsiau sgwennu creadigol ym Mhrifysgol Cymru. A ble mae’r bobol ddisglaer sydd wedi cael y fraint hon? Mae’n bryd ein bod ni’n gweld ffrwyth doethineb ein tyrau ifori ym Mhrifwyl y Genedl. Cymdeithas Cledwyn Heddiw, ar y Maes yma, fe fu cyfarfod gan y Blaid Lafur i sefydlu Cymdeithas Cledwyn. Dwi’n siwr y byddai’r diweddar Arglwydd Cledwyn o Benrhos wrth ei fodd fod ei blaid am roi mwy o le i’w aelodau Cymraeg eu hiaith, a mwy o le i’r Gymraeg yng ngweithgareddau Llafur yng Nghymru. Nid cyn pryd. Ond plîs, os gwelwch yn dda, a wnaiff Llafur berswadio rhai o’i Haelodau Seneddol i fynd ati’n benodol i geisio meistroli sut i dreiglo yn Iaith y Nefoedd. Mae o leia ddau ohonyn nhw angen chwip dîn go-iawn. Dyna orchwyl bwysig gynta Cymdeithas Cledwyn. Gwaith, nid cardod Roeddwn i’n sylwi heddiw, hefyd, fod raffl yn cael ei chynnal ar y Maes. Raffl wedi ei threfnu gan Blaid Cymru i helpu’r gweithwyr sydd wedi cael eu diswyddo yn Ffatri Friction Dynamics yng Nghaernarfon. Tybed, mewn difri, ai dyma’r ffordd fwya effeithiol ar ran plaid wleidyddol i gynnal breichiau’r trueniaid di-waith yma. Beth mae’r hen air yna’n ddeud, deudwch? Ia, dyma fo. “Nid cardod i ddyn ond gwaith - mae cardod yn magu craith, a chraith yn magu nychdod.” Canlyniad y lecsiwn Mae bore ’fory’n fore mawr, bore cyhoeddi canlyniad lecsiwn yr Archdderwydd. Reit ar ddiwedd Cyfarfod Cyffredinol yr Orsedd fe agorir amlen. Dim ond un enw fydd ynddo fo - dim mwy. Dim son am nifer y pleidleisiau, dim gwybodaeth am bwy ddaeth yn ail nac yn drydydd. Dim ond y Cofiadur a’r Arwyddfardd a fu’n cyfrif fydd yn gwybod y manylion. Felly, y cwestiwn ydy, enw pwy fydd yn yr amlen - Robyn o Lyn, Selwyn Iolen neu Jim Parc Nest? Ysgwn i a gaiff un o’r tri noson gwsg heno? Erbyn yr amser yma nos yfory mi fydd un, ac un yn unig ohonyn nhw, yn ddarpar Archdderyn. A oes heddwch? Cawn weld.
| |
© MMI |
|
About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy |