bbc.co.uk
Home
Explore the BBC

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfod Dinbych 2001

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf

Newyddion

Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



BBC Homepage

Cymru'r Byd
Cymru'r Byd
»Dinbych 2001
Straeon
Adolygiadau
Newyddion
Lluniau
Gwledd yn Ninbych
Y lle i fod
Canrif o Brifwyl
Y Sîn Roc
Llais Llên

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Ennill llun Cae'r Gors

Un o'r teulu wedi peintio llun cartref Dr Kate



Geraint RobertsGeraint Roberts o Bengwern, Cwmffrwd, Caerfyrddin, a enillodd brint o lun o hen gartref Kate Roberts a gafodd ei rafflo i godi arian at Gronfa Cae’r Gors ar faes yr Eisteddfod.

Gwnaed y llun gan William Selwyn, un o arlunwyr amlycaf Cymru, yn arbennig ar gyfer codi arian tuag at adfer yr adeilad a fu’n gartref i Kate Roberts.

"Yr oedd yn falch o wneud hynny gan ei fod o deulu Kate Roberts," meddai Marian Elias o Gyfeillion Cae’r Gors.

William Selwyn"Yr oedd gan daid Brynffynnon Kate Roberts chwaer o’r enw Malan ac yr oedd hi yn hen nain i William Selwyn," eglurodd.

Bydd y llun gwreiddiol yn cael ei gadw i’w arddangos gan y Cyfeillion ond y mae printiau wedi eu rhifo yn cael eu gwerthu am £150.

Un o’r rheini a enillwyd gan Geraint Roberts ar faes y Brifwyl yn Ninbych.

Y mae William Selwyn yn arlunydd sy’n adnabyddus y tu allan i Gymru ers iddo ennill Gwobr Singer a Friedlander dan nawdd y Sunday Times yn 1998.

Yn Ebrill 2001 dewiswyd ef yn Arlunydd y Flwyddyn mewn cystadleuaeth gan Neuadd Dewi Sant, Caerdydd.

Y llynedd dangoswyd ei waith yn Oriel Thackeray, Llundain. Trefnodd yr un Oriel arddangosfa o’i waith ochr yn ochr a pheintiadau Kyffin Williams.

Y llunFel athro, ar gychwyn ei yrfa, yr oedd yn ddigwyddiad cyffredin i’r disgyblion dan ei ofal yn Ysgol Maesincla, Caernarfon, gyrraedd y brig mewn cystadlaethau arlunio y naill ochr a’r llall i Glawdd Offa.

Y mae’n dal i fyw yn yr un stryd yng Nghaernarfon ac y ganwyd ef ynddi.

Gellir cael gwybodaeth ynglyn â phrynu’r llun o Swyddfa Cyfeillion Cae’r gors, Gorwelion, Cae Bryn, Y Groeslon. LL54 7SU. 01286 831466

Straeon Eisteddfod 2001:
BBC
© MMI

Pafiliwn (dydd)
Pafiliwn (nos)
Clecs Clwyd - Dysgwyr
Dinistr - Pabell Roc
Drama
Gigs y Gymdeithas
Gwyddoniaeth
Maes B
Pabell Cymdeithasau
Pagoda
Pabell Lên
Theatr y Maes
Y Stiwdio

Neuadd Ddawns
Be wyddoch chi am y Steddfod?
[an error occurred while processing this directive]
Be wyddoch chi am y Steddfod?


Gwledd yn Ninbych
[an error occurred while processing this directive]
Gwledd yn Ninbych
Y byd llyfrau - Llais Llên
Y byd llyfrau - Llais llên
Newyddion diweddaraf y sîn roc
Newyddion Y Sîn Roc
Gemau
Chwaraewch y gemau



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy