bbc.co.uk
Home
Explore the BBC

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfod Dinbych 2001

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf

Newyddion

Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



BBC Homepage

Cymru'r Byd
Cymru'r Byd
»Dinbych 2001
Straeon
Adolygiadau
Newyddion
Lluniau
Gwledd yn Ninbych
Y lle i fod
Canrif o Brifwyl
Y Sîn Roc
Llais Llên

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Yn y dyfroedd mawr yn hel emynau!

Dechrau Canu Dechrau canol yn chwilio am hoff emynau'r Cymry


Dydi hi ddim ar y rhestr ond gallai’r rhai hynny a oedd yn dewis eu hoff emyn wrth babell S4C ar faes yr Eisteddfod ddydd Mawrth gyfiawnhau yn hawdd iawn ddewis Yn y Dyfroedd Mawr a’r Tonnau!

Mae S4C yn chwilio am hoff emynau’r Cymry yn sgil ddathliadau deugain oed y rhaglen deledu Dechrau Canu Dechrau Canmol ac wedi cyhoeddi rhestr o’r deg emyn sydd wedi eu canu amlaf ar y gyfres.

Ar babell S4C ar faes yr eisteddfod yr oedd cyfle i ymwelwyr bleidleisio dros eu dewis hwy neu os oeddech chi’n ei chael hi’n anodd trin beiro ac ymbarel yr un pryd gellir pleidleisio ar wefan S4C, www.s4c.co.uk, neu drwy alw neu ffonio Gwifren Gwylwyr S4C ar 0870 6004141.

Byddant yn cael eu canu ar raglen ben-blwydd Dechrau Canu Dechrau Canmol ar S4C nos Sul, Mehefin 16, 2002.

Y deg emyn ar y rhestr yw

Arwelfa - Arglwydd gad im dawel orffwys Tôn: John Hughes, Rhosllannerchrugog Geiriau: Emrys

Finlandia - Dros Gymru’n Gwlad
Tôn:Sibelius, Geiriau: Lewis Valentine.

Bryn Myrddin - Mawr oedd Crist
Tôn: J Morgan Nicholas Geiriau: Titus Lewis

Bro Aber - O tyred i’m gwaredu
Tôn: J Haydn Phillips Geiriau: John Roberts, Llanfwrog

Builth - Rhagluniaeth fawr y Nef
Tôn: David Jenkins Geiriau: David Charles

Tydi a roddaist - Tôn: Arwel Hughes Geiriau: T Rowland Hughes

Pantyfedwen - Tydi a wnaeth y wyrth
Tôn: Eddie Evans, Tal-y-Sarn, Geiriau W Rhys Nicholas

In Memoriam - Arglwydd Iesu arwain f’enaid
Tôn: Caradog Roberts, Rhosllanerchrugog Geiriau: Morswyn

Gair Disglair Duw - Tôn a Geiriau: Graham Kendrick Cyfieithiad: Casi Jones

Berwyn - Tyrd atom ni
Tôn: Caradog Roberts Geiriau: W Rhys Nicholas

Darlledwyd Dechrau Canu Dechrau Canmol yn gyntaf o Gapel y Trinity, Sgeti, Abertawe ac yn sgîl ei llwyddiant y rhaglen Saesneg, Songs of Praise.



Straeon Eisteddfod 2001:
BBC
© MMI

Pafiliwn (dydd)
Pafiliwn (nos)
Clecs Clwyd - Dysgwyr
Dinistr - Pabell Roc
Drama
Gigs y Gymdeithas
Gwyddoniaeth
Maes B
Pabell Cymdeithasau
Pagoda
Pabell Lên
Theatr y Maes
Y Stiwdio

Neuadd Ddawns
Be wyddoch chi am y Steddfod?
[an error occurred while processing this directive]
Be wyddoch chi am y Steddfod?


Gwledd yn Ninbych
[an error occurred while processing this directive]
Gwledd yn Ninbych
Y byd llyfrau - Llais Llên
Y byd llyfrau - Llais llên
Newyddion diweddaraf y sîn roc
Newyddion Y Sîn Roc
Gemau
Chwaraewch y gemau



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy