bbc.co.uk
Home
Explore the BBC

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfod Dinbych 2001

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf

Newyddion

Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



BBC Homepage

Cymru'r Byd
Cymru'r Byd
»Dinbych 2001
Straeon
Adolygiadau
Newyddion
Lluniau
Gwledd yn Ninbych
Y lle i fod
Canrif o Brifwyl
Y Sîn Roc
Llais Llên

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Llenor trist nad yw'n ddyn trist. . .

Cystadlu er mwyn dod o hyd i'w safon!



Elfyn PritchardYr un nofel ag a ddaeth yn ail yn Llanelli y llynedd a enillodd y Fedal Lenyddiaeth yn Ninbych eleni.

Dywedodd Elfyn Pritchard iddo addasu’r nofel a dderbyniodd gymaint o ganmoliaeth y llynedd ar gyfer y gystadleuaeth eleni - a oedd yn galw am ddarn o ryddiaith ar y thema, Lleisiau.

"Mewn gwirionedd rwy’n credu fod y gwaith yn fwy addas ar gyfer y testun eleni gan imi orfod ei ffugio y llynedd i ffitio'r testun," meddai.

Tad yn colli ei ferch

Stori ddwys ac ysgytwol am dad yn ceisio dygymod â marwolaeth ei ferch yw testun y nofel a wobrwywyd ac sydd yn awr ar werth.

Ac wedi’r seremoni cyfaddefodd Elfyn Pritchard sy’n awdur profiadol ei fod yn dueddol o ddewis pynciau dwys a thrist oherwydd "eu bod nhw’n haws na sgrifennu yn ysgafn".

Meddai: "Dydi y seici Cymraeg ddim yn gweddu i sgrifennu ysgafn - dydan ni ddim yn cael lot ohono fo," ychwanegodd gan gyfeirio at y nifer brin iawn o sgrifenwyr ysgafn Cymraeg sydd yna.

"Ac ella mod i’n hoffi pethau trist," ychwanegodd, "ond dydw i ddim yn berson trist."

Darganfod ei safon

Yr oedd hon yn wythnos dda i deulu Elfyn gyda’i ferch, Gwenan, eisoes wedi dod yn ail yng nghystadleuaeth y ddrama fer - cystadleuaeth y bu ei briod, Nansi, yn fuddugol arni y llynedd!

Dywedodd mai awydd i ddarganfod beth yn union yw ei safon fel sgrifennwr a barodd iddo gystadlu am y fedal er ei fod yn awdur hynod brofiadol sydd wedi hen ennill ei blwyf fel sgrifennwr Cymraeg .

"Roeddwn yn teimlo y dylwn i fod yn darganfod be ydi fy safon. Yr ydw i’n teimlo imi fod yn sgwennu gydol fy oes ond heb wybod yn iawn beth yw fy safon," meddai.

"Pan yw rhywun yn sgwennu ei hun y mae’n anodd iawn bod yn wrthrychol ond trwy gystadlu yr ydych yn cael barn wrthrychol gan rai nad ydynt yn eich adnabod a’r rheini yn feirniaid yr ydych chi yn eu parchu."

Yn awr iddo gael sêl bendith y beirniaid dywedodd na fydd yn cystadlu am y fedal eto.

"Beth pe buaswn i’n colli y tro nesaf," meddai gan wenu.

Mwy am y gystadleuaeth a'r llenor buddugol
ar ein gwasanaeth newyddion

Straeon Eisteddfod 2001:
BBC
© MMI

Pafiliwn (dydd)
Pafiliwn (nos)
Clecs Clwyd - Dysgwyr
Dinistr - Pabell Roc
Drama
Gigs y Gymdeithas
Gwyddoniaeth
Maes B
Pabell Cymdeithasau
Pagoda
Pabell Lên
Theatr y Maes
Y Stiwdio

Neuadd Ddawns
Be wyddoch chi am y Steddfod?
[an error occurred while processing this directive]
Be wyddoch chi am y Steddfod?


Gwledd yn Ninbych
[an error occurred while processing this directive]
Gwledd yn Ninbych
Y byd llyfrau - Llais Llên
Y byd llyfrau - Llais llên
Newyddion diweddaraf y sîn roc
Newyddion Y Sîn Roc
Gemau
Chwaraewch y gemau



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy