MAWRTH 18fed Tachwedd 2014 Hygyrchedd Geiriau Yn Unig | ![]() |
Ugain o ffeithiau Steddfodol 1. Dathlu a hybu’r iaith Gymraeg, etifeddiaeth Cymru a’r celfyddydau yw pwrpas y Steddfod. 2. Hi yw gwyl ddiwylliannol, deithiol, fwyaf Ewrop. 3. Yn Aberdâr, yn 1861, y cynhaliwyd yr Eisteddfod Genedlaethol gyntaf. 4. Hefyd, yr Eisteddfod yw dathliad hynaf a mwyaf Cymru. 5. Hi yw prif wyl ddiwylliannol y Cymry Cymraeg. 6. Fe’i cynhelir yn flynyddol yn ystod yr wythnos lawn gyntaf ym mis Awst. 7. Gwirfoddolwyr sy’n ei threfnu yn bennaf ac mae’n costio tua £1.8m i’w chynnal. 8. Mae cyfran fawr o’r arian yn cael ei gasglu drwy godi arian gyda phob ardal yn cael nod i’w chyrraedd. 9. Derbynnir grantiau gan awdurdodau lleol a’r llywodraeth ganolog a chyfraniadau gan ddiwydiant ac awdurdodau darlledu. 10. Mae’r wyl yn cael ei chynnal yn yn y Gogledd a’r De bob yn ail. 11. Ar lwyfan y prif bafiliwn cynhelir: cystadlaethau lleisiol, offerynnol, adrodd a dawnsio gwerin; y prif seremonïau llenyddol fel y Cadeirio, Coroni a’r Fedal Ryddiaith; seremoni croesawu Cymry o wledydd eraill. 12. Ymhlith pebyll eraill y maes y mae’r Babell Lên, Pabell y Dysgwyr, y Babell Gelf a Chrefft, Theatr Fach y Maes. 13. Y mae cannoedd o stondinau masnachol a gwirfoddol. 14. Yn ystod yr wythnos cynhelir nifer o weithgareddau ar y maes gan gynnwys darlithoedd, anerchiadau, perfformiadau - a phrotestiadau! 15. I gydfynd â’r Eisteddfod cynhelir cyngherddau, dramâu, gigs ac ati oddi ar y Maes. 16. Y Gymraeg yw iaith swyddogol yr wyl ond mae yna wasanaeth cyfieithu ar gyfer y di-Gymraeg. 17. Yn ystod wythnos yr Eisteddfod mae dros 20,000 o bobol yn ymweld â’r maes bob dydd a 6,000 yn cystadlu. 18. Y rhai sydd wedi ennill Cadair a Choron yn yr un eisteddfod ddwywaith y mae: Syr T. H. Parry-Williams, 1912 ac 1915; Alan Llwyd 1973 ac 1976; Donald Evans, 1977 ac 1980. 19. Y cyntaf i ennill Medal Ryddiaith oedd John Owen Jones yn 1937 20. Bu ymdrech i ganoli'r eisteddfod yn un lle yn 1976.
| |
© MMI |
|
About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy |