MAWRTH 18fed Tachwedd 2014 Hygyrchedd Geiriau Yn Unig | ![]() |
Y Fedal Ryddiaith Fe gyflwynwyd y Fedal Ryddiaith am y tro cyntaf yn 1937 ac ers hynny tyfodd y gystadleuaeth mewn pwysigrwydd gan ddod yn un o seremonïau’r Orsedd.Rhoddir y fedal i’r llenor buddugol am nofel, straeon byrion, ysgrifau neu fath arall o ryddiaith. Beirniadwyd cynnyrch y gystadleuaeth yn y gorffennol am beidio ag ymdrin â phynciau cyfoes. Y beirniaid eleni yw: Gwerfyl Pierce Jones, Harri Pritchard Jones a Manon Rhys. Y testun yw, Lleisiau. Enillwyr diweddar: 2000 Eirug Wyn: Tri Mochyn Bach 1999 Sonia Edwards, Pan Ddaw Yfory 1998 Eirug Wyn, Blodyn Tatws 1997 Angharad Tomos - cyfrol o ryddiaith greadigol ar y thema, canol llonydd, Wele’n Gwawrio 1996 Neb yn deilwng - Cyfrol o ryddiaith, Mudo 1995 Angharad Jones - Cyfrol o ryddiaith greadigol, aml gnoc, Y Dylluan Wen 1994 Robin Llywelyn - cyfrol o ryddiaith greadigol, cyrraedd, O’r Harbwr Gwag i’r Cefnfor Gwyn 1993 Mihangel Morgan, Dirgel Ddyn. 1992 Robin Llywelyn - nofel fer neu gasgliad o straeon byrion yn ymwneud â’r dyfodol. Seren Wen ar Gefndir Gwyn. 1991 Angharad Tomos - cyfrol Y Daith, Si Hei Lwli 1990 Neb yn deilwng - cyfrol o straeon byrion.
| |
© MMI |
|
About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy |