MAWRTH 18fed Tachwedd 2014 Hygyrchedd Geiriau Yn Unig | ![]() |
Cerrig milltir yn hanes yr Eisteddfod Credir fod y cyfarfod eisteddfodol cyntaf wedi ei gynnal yng nghastell yr Arglwydd Rhys ap Gruffudd yng Ngheredigion yn 1176. Mae nifer yn credu bod tarddiad yr wyl i’w gweld yn y ddegfed ganrif pan oedd Hywel Dda yn frenin Cymru. Yn y cyfnod hwn byddai beirdd a cherddorion yn cystadlu am sedd yn llys y brenin. Byddai beirdd yn cystadlu mewn ymrysonfeydd am le yn llysoedd yr uchelwyr, hefyd. Roedd bywoliaeth y beirdd yn dibynnu ar ennill yn yr ymrysonfeydd er mwyn cael nawdd gan y tywysogion a’r uchelwyr. Yn y 15fed ganrif pan gynhaliwyd Eisteddfod yng Nghaerfyrddin gwaharddwyd teithwyr rhag cymryd rhan rhag iddyn nhw ddinistrio urddas yr Eisteddfod. Yn Eisteddfod Caerwys yn 1523 cyflwynwyd system lle roedd beirdd a cherddorion yn cael eu gosod yn ôl eu statws. Yn yr eisteddfod a gynhaliwyd yng Nghaerfyrddin ddechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg gwelwyd cymdeithas o "dderwyddon" sef beirdd a cherddorion a oedd yn galw’u hunain yn "Orsedd y Beirdd". Wedi hyn y datblygodd yr Eisteddfod yn wyl ehangach. Yn 1860 fe benderfynwyd creu eisteddfod ‘genedlaethol’ fel yr ydym ni yn ei hadnabod heddiw. Yn 1861 cynhaliwyd yr eisteddfod gyntaf ar gyfer Cymru gyfan yn Aberdâr. Yn 1881 ffurfiwyd Pwyllgor yr Eisteddfod ac mae’r pwyllgor hwn wedi trefnu’r eisteddfod yn flynyddol ers hynny. Mae’r eisteddfod wedi ei chynnal yng Ngogledd a De Cymru bob yn ail ac eithrio 1914 a 1940. Erbyn hyn mae’r Eisteddfod yn para am wyth diwrnod gyda chystadlu ar y Sul am y tro cynta yn 1999. Syniad Iolo Morganwg (1747 - 1826) oedd yr Orsedd, yr ymrwymiad i heddwch, cadeirio a choroni beirdd, y cledd, y corn gwlad a’r corn hirlas. I ddechrau doedd y berthynas rhwng yr Eisteddfod Genedlaethol a Gorsedd y Beirdd ddim yn un esmwyth iawn. Y mae rhai prifeirdd wedi gwrthod ymuno a’r Orsedd - yn eu plith, T. H. Parry- Williams a Rhydwen Williams. Yn 1937 cytunodd y ddau gorff i greu Cyngor yr Eisteddfod ac fe sefydlodd hwnnw wedyn Lys yr Eisteddfod Genedlaethol y gall unrhyw un fod yn aelod ohono. Yn 1959 fe benododd y cyngor ddau drefnydd llawn amser, un i’r de a’r llall i’r gogledd. Yn 1978 fe benodwyd cyfarwyddwr llawn amser a sefydlwyd swyddfa yng Nghaerdydd. Erbyn hyn mae’r wyl wedi datblygu’n wyl enfawr ac mae cost cynnal yr eisteddfod yn sylweddol. Mae llawer o ddadleuon wedi bod ynglyn â’r defnydd o’r iaith Saesneg ar y maes, ymweliadau gan y teulu brenhinol ac alcohol ar y maes. Yn y saithdegau bu symudiad cryf i greu safle sefydlog i’r eisteddfod ond parhau yn wyl grwydrol a wnaeth. }
| |
© MMI |
|
About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy |