MAWRTH 18fed Tachwedd 2014 Hygyrchedd Geiriau Yn Unig | ![]() |
Rhwng meini'r Orsedd Cerrig milltir pwysig yn hanes Gorsedd y Beirdd Mae’r Orsedd yn cynnwys beirdd, awduron, cerddorion ac artistiaid sydd wedi gwneud cyfraniad gwerthfawr i’r iaith Gymraeg, llenyddiaeth a diwylliant Cymru. Mi allwch chi sefyll arholiad i ymnuno â'r Orsedd. Gall unrhyw un sydd wedi graddio yn y Gymraeg fod yn aelod. Gelwir ei haelodau’n dderwyddon ac maent yn gwisgo dillad gwyrdd, glas neu wyn yn ôl eu gradd - urdd ofydd, urdd bardd ac urdd derwydd. Y rhai sydd yn gwisgo’r wisg wen yw’r rhai pwysicaf. Yn ddiweddar galwodd Hywel Teifi Edwards am ychwanegu gwisg goch hefyd. Mae’r Orsedd yn dod ynghyd yn ystod seremonïau fel y Cadeirio a'r Coroni ac adeg cyhoeddi Eisteddfod. Defnyddir corn gwlad i alw ar bobol o bedwar ban byd i ddod yng nghyd ac wedyn mae gweddi’r orsedd yn cael ei llafarganu. Mae gan yr Archdderwydd swyddogaeth bwysig gan mai ef sy’n dal y cledd uwchben y cystadleuydd buddugol wedi iddo gael ei gyrchu i’r llwyfan. Bydd y cledd yn cael ei dynnu o’r wain deirgwaith wrth i’r archdderwydd alw ‘A oes heddwch?’ Mae’r corn hirlas yn cael ei gyflwyno fel y gall yr Archdderwydd, sy’n sefyll ar y maen llog, yfed o win croeso’r ardal. Cyflwynir basged o flodau i’r archdderwydd o dir a phridd Cymru. Bydd plant yn perfformio dawns flodau yn ystod y seremonïau. Am y tro cyntaf erioed bydd pob aelod yn cael pleidleisio i ddewis Archdderwydd yn 2001. Sefydlwyd Gorsedd Beirdd Ynys Prydain ar Fehefin 22, 1792, gan gyfarfod gyntaf ar Fryn y Briallu yn Llundain. Penderfynodd Iolo Morgannwg gynnal y cyfarfod cyntaf yn Llundain am ei fod yn credu ei fod yn cynrychioli’r hen fyd Brythonaidd a’i fod yn fodd i ddangos y traddodiad derwyddol i’r Saeson. Cynhaliwyd y cyfarfod cyntaf yng Nghymru ym Mryn Owen ym Morgannwg, 1795. Aeth Iolo ati i sefydlu Gorsedd ym mhob ardal yng Nghymru. Yn 1819 cysylltwyd yr Orsedd a’r Eisteddfod Genedlaethol am y tro cyntaf pan gynhaliodd Iolo seremoni yng ngardd gwesty’r Ivy Bush, Caerfyrddin. Ni fu cysylltiad wedyn tan 1858 pan drefnwyd gorsedd ar lwyfan Eisteddfod Genedlaethol Llangollen. Yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 1888 ffurfiwyd Cymdeithas yr Orsedd yn cynnwys pwyllgor a swyddogion etholedig. Penderfynwyd mai’r Gymraeg fyddai unig iaith y gymdeithas Wrth i’r Eisteddfod dyfu daeth yr Orsedd yn amlycach ac yn elfen bwysig iawn o’r wyl. Tri phaladr goleuni yn cyfarfod ar doriad gwawr ar ganol haf a chanol gaeaf I ffurfio llygad goleuni yw nod cyfrin yr Orsedd yn ôl Iolo Morganwg. Y delyn,offeryn cerdd traddodiadol Cymru, sy’n gyfeiliant i holl weithgareddau’r Orsedd. Mae Archdderwydd yn cael ei ethol am dair blynedd. Ni all person fod yn Archdderwydd ddwywaith yn olynol. Rhaid i Archdderwydd fod yn Brifardd neu Brif Lenor. Yr Archdderwydd yw pennaeth yr Orsedd ac is-lywydd Llys yr Eisteddfod Genedlaethol.
| |
© MMI |
|
About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy |