MAWRTH 18fed Tachwedd 2014 Hygyrchedd Geiriau Yn Unig | ![]() |
I 'Ddimbach'Glyn Evans yn ymweld â thref Dinbych Dydd Gwener, Awst 3 Yr ydw i’n synnu braidd na fyddai’r Steddfod wedi bod ar fy ôl, i arwain ymgyrch i ddenu pobol i Ddinbych yr wythnos nesaf. Bygythiad i blant drwg Am flynyddoedd bu pobol yn fy nghyhuddo i o’u hanfon nhw "i Ddimbach". "Ti’n ddigon ag anfon rhywun i Ddimbach, hogyn," meddai Mam ac oedolion eraill wrthym ni blant yn dilyn rhyw ddrygau neu’i gilydd ar ein rhan. Dyna oedd Dimbach i ni ers talwm - lle yr oedd plant, oherwydd eu swnian a’u cambyhafio, yn anfon rhieni ac oedolion eraill.Yn blentyn yr oedd rhywun, felly, yn ymwybodol iawn o fodolaeth Dimbach ac yr ydw i’n dal i gofio dychwelyd o drip Ysgol Sul i’r Rhyl a gweld drwy ffenest y bws yr adeilad anferth yma gyda dynion yn pwyso ar eu sgyfflars neu'n gorffwys ar eu cribiniau a’u brwsus caled yn yr ardd ac oedolion ar y bws yn dweud, "Dyna fo Dimbach." Doedd o ddim yn rhywbeth unigryw i ogledd Cymru fod tref yn cael ei hadnabod am ei seilam a dyna oedd Dimbach i ni. Cysgod ac arogl Go brin y clywch chi neb yn sôn am anfon pobl i Ddimbach yn yr ystyr hwnnw heddiw ond mi fydd yna ddigon o sôn am fynd i Ddinbych yr wythnos hon a’r nesaf - clwy traed a genau yn caniatàu. Ac mae cysgod hwnnw yn dal dros yr Wyl ac arogl ei ddisinffectant wedi hen fod yn hel yn yr awyr o gwmpas y maes erbyn hyn. Y Sadwrn cyn yr wyl, arogl hwnnw oedd yn cymysgu ar yr awyr â lleisiau plant yn ymarfer eu caneuon yn y pafiliwn. Codwyd y pafiliwn ar faes gwastad Fferm Kilford ger hen blasty Lleweni ac heb fod yn bell o Eglwys Wen, Santes Marchell, sydd yn cael ei brolio fel yr odidocaf o eglwysi canoloesol Sir Ddinbych. Mae hyn rhyw dair milltir go lew o ganol Dinbych ei hun - "tref ganoloesol" yn ôl yr arwyddion brown ar y ffyrdd i mewn.Tref y perthyn rhyw hud ac apêl arbennig iddi gyda’i strydoedd cefn culion. A’r warin cwningod o lwybrau sy'n arwain at y Castell uwchlaw’r iddi yn atgoffa rhywun rywfaint o’r strydoedd sy’n arwain at gastell Caeredin. Yn lle delfrydol Ar Sadwrn poeth o haf gwelwch ei fod yn lle delfrydol ar gyfer Castell - "yn uchel ar ben craig" chwedl un o’r arwyddion - achos wedi ymlâdd yn dringo yma ni fyddai gan neb fawr o galon i ymladd. Beth bynnag mae yno arwydd wrth y fynedfa yn dweud "Peidiwch a dringo’r heneb" wrthych, achos dyna ydi castell yng Nghymraeg CADW. Mae’r olygfa oddi yma yn ysblennydd gyda’r dref a’r wlad islaw ichi. Ac ar eich ffordd yn ôl i ganol y dref mae bodia’ch traed yn gwthio yn erbyn trwyn eich sgidiau i lawr yr allt. Yn Lôn Crown yn y dref y mae arwydd arall yn eich rhybuddio rhag dringo - y tro hwn yn ffenest y Denbigh Kitchen Centre sy’n rhybuddio: "Caution the roof of this building is protected by razor wire" gan brofi fod y meddylfryd canoloesol i gastellu a chaeru yn dal yn fyw yn Ninbych. Tafarnau clyd Yr hyn sy’n taro rhywun wrth grwydro’r dre yw cymaint o dafarndai clyd a swyddfeydd cyfreithwyr sydd yma - ac efallai fod un yn mynd efo’r llall - gyda’r enw gorau ar dwrnai yn Lôn Crown, Talog Davies!Mae Tafarn y Plough yn hysbysebu "cyrfau traddodiadol" yn nhafodiaith y fro ac uwchben drws y Llew Aur y mae arwydd a fydd wrth fodd calon pob Steddfodwr yn cyhoeddi, "Allwedd calon cwrw da". Ac mae’n amlwg fod i Ddinbych draddodiad go gyfoethog o lymeitian achos ar lechen ar y llawr ger cofgolofn anferth a gododd y Dr Pierce iddo’i hun gwelir y geiriau Saesneg, "Now darkly silent Denbigh township rests Until the taverns spew their midnight guests." A gallwn ni fod yn siwr nad y tafarnau yn unig fydd yn chwydu wythnos yr Eisteddfod.Mae'r gofgolofn urddasol a gododd y gwr hynod hwn iddo'i hun mewn cilfach gardd gyferbyn a'r fan lle'r oedd ei dy ond lle mae archfarchnad heddiw! Llenorion yn cyfrif Bu dyfodiad yr Eisteddfod yn amlygu ei hun ers yr wythnosau diwethaf a dim ond un arwydd o sut y mae’r wyl yn tynnu pobl go annisgwyl at ei gilydd yw arddangosfa fechan yn ymwneud â Kate Roberts a Gwilym R. Jones mewn ffenest swyddfa cyfrifydd o bobman.Y tu allan i Woolworths, wedyn, hysbysebir "Folding chair in carry bag" fel rhywbeth "ideal for the Eisteddfod" a hynny am ddim ond £9.99 yn lle pymtheg punt namyn ceiniog gyda’r rhybudd "only a few left." Ond os hynny, meddai rhywun wrtho’i hun, pam eu gwerthu mor rhad - onid cyngor Menter a Busnes fyddai dyblu’r pris nid ei haneru bron pan fo nwyddau’n brin? Eisteddfod Geidwadol Ac o edrych ar falconi Clwb y Ceidwadwyr ar gornel Llain Portland gellid taeru yn ôl yr arwydd mai rhywbeth y maen nhw yn ei drefnu yw’r Eisteddfod ac yntau’n cyhoeddi "Eisteddfod Dinbych a’r Cylch Clwb Ceidwadwyr."Da cael cadarnhad swyddogol o’r fath i’n amheuaeth mai sefydliad go geidwadol yw’n Prifwyl! Ond hold on Defi Jon, beth fydd y Ceidwadwyr yn ei wneud o’r plastar o luniau Castro islaw arwydd steddfod mawr arall bron gyferbyn â’r clwb yn ein gwahodd i wrando ar "grwp salsa gwyllt" ac yfed Cwrw Ciwba yn Neuadd y Dref ar Awst 10! Nid y bydd hynny’n syndod i’r rhai sy’n cofio mai tref y Cynghorydd David Jones - Dai Ciwba - yw hon.Ac ef, sy’n cael y clod yn lleol am fod y cyntaf i addurno ei dy â baneri a dreigiau coch i groesawu’r Eisteddfod. Chwifio baneri Ers hynny mae amryw wedi dilyn gyda chefnogaeth dra banerog i’r Wyl yn y cyffiniau. Gobeithio y bydd yna achos i chwifio’r holl faneri hyn erbyn diwedd yr wythnos. Fu yna ddim pan ymwelodd yr Eisteddfod â Dinbych yn 1939. Fu yna ddim cadeirio na choroni - ond fe enillodd John Gwilym Jones y Fedal Ryddiaith gyda’i nofel Y Dewis. A hyd yn oed os bydd y Steddfod yn siom y mae gan drigolion Dinbych - a’r cyffiniau - rywbeth sy'n argoeli cyn wyched â Steddfod i edrych ymlaen ato yn ôl arwydd llachar yn ffenest siop sydd wedi cau ar y sgwâr;"Mecsico; Y Dwyrain Pell; China; Brasil; Paris ac yn awr . . . Dinbych. "Dim ond saith milltir o’r dref "Yn agor cyn bo hir . . ." Mae popeth yn awgrymu mai "i Ddimbach" yw y lle i fynd.
| |
© MMI |
|
About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy |