MAWRTH 18fed Tachwedd 2014 Hygyrchedd Geiriau Yn Unig | ![]() |
Enwogion Bro'r Eisteddfod Iolo Goch (1325 – 1398). Bardd a’i gartref yn Llechryd. Mae ei ganu’n rhoi golwg ddiddorol ar fywyd yn Sir Ddinbych yn y Canol Oesoedd. Ef oedd un o’r beirdd cyntaf i ganu mawl ar fesur y cywydd. Yn enwog am ei gywyddau i Owain Glyndwr ac yn arbennig ei gywydd i’r llys yn Sycharth. Humphrey Llwyd (1527-68) Dyneiddiwr, ysgolhaig a lluniwr mapiau. Cyflwynodd fesur seneddol yn 1563 pan oedd yn Aelod Seneddol Dinbych i gyfieithu’r Beibl a’r Llyfr Gweddi Gyffredin i’r Gymraeg. Mae cofeb iddo yn Eglwys Marchell sydd ger maes yr Eisteddfod. Ef luniodd y map cyntaf o Gymru i gael ei argraffu erioed. Twm o’r Nant –Thomas Edwards, anterliwtiwr a anwyd yn Llanefydd Dinbych. Cafodd ei fagu yn Henllan. Wedi dim ond ychydig wythnosau on ysgol aeth yn was fferm. Yn fuan dechreuodd ymddiddori yn y traddodiad barddol gan lunio, ac actio mewn, anterliwtiau. Bu’n gludwr coed yn Ninbych. Am gyfnod ffodd i Dde Cymru oherwydd dyledion. Bu ef a’i deulu yn cadw tafarn a thollborth yn Llandeilo. Ymysg ei weithiau mae hunangofiant a nifer o ganeuon. Roedd nifer o’r caneuon hyn yn cael eu canu gan faledwyr mewn ffeiriau. Ond fel anterliwtiwr y mae’n cael ei gofion yng Nghymru heddiw. Mae ysgol wedi ei henwi ar ei ôl yn nhref Dinbych. Thomas Gee – Cyhoeddwr a golygydd a anwyd yn Ninbych yn 1815. Pan oedd yn 14 cafodd ei hyfforddi yn argraffdy ei dad. Bu wedyn yn Llundain am ddwy flynedd cyn dychwelyd i ymuno â busnes ei dad. Daeth yn gyfrifol am wasg Gee a dyfo0dd yn un o weisg enwocaf Cymru lle cyhoeddwyd Baner ac Amserau Cymru, papur Rhyddfrydol a Radical.Dadleuai Gee dros ehangu’r bleidlais a datgysylltu’r eglwys yng Nghymru. Dyma hefyd y wasg a gyhoeddodd Y Traethodydd a’r Gwyddoniadur Cymreig. Robert Wynne o Garthewin. Un o dras teuluoedd bonedd gogledd Cymru. Etifeddodd blas y teulu, Garthewin, ger Llanfair Talhaiarn ym 1930, ac fe ddaeth yn gefnogwr brwd i'r diwylliant Cymraeg ac i genedlaetholdeb. Bu'n noddwr i Saunders Lewis ac fe gafodd llawer o ddramâu Lewis eu llwyfannu mewn theatr a gafodd ei chreu yn bwrpasol yng Ngarthewin. Ym 1931, ymunodd Robert Wynne â'r Eglwys Gatholig, a daeth Garthewin yn gyrchfan i gylch o Gatholigion Cymraeg. Ysgrifennodd Lewis awdl o foliant iddo. Yn y 60au, fe adawodd Robert Wynne i aelodau o Fyddin Rhyddid Cymru ymarfer ar ei diroedd. Daniel Owen – Nofelydd a aned yn yr Wyddgrug yn 1836. Bu’n brentis i deiliwr yn yr Wyddgrug cyn agor ei siop ddillad ei hun. Tad y nofel Gymraeg. Thomas Gwynn Jones – Bardd. Llenor, newyddiadurwr ac ysgolhaig a anwyd ym Metws-yn-Rhos, Dinbych. Bu’n gweithio ar Baner ac Amserau Cymru a’r Herald Cymraeg. Datblygodd ddiddordeb mewn ieithoedd a llenyddiaeth tramor a chafodd ei ysbrydoli gan ysgolheigion eraill i astudio barddoniaeth ganoloesol. Daeth yn ddarlithydd yn y Gymraeg yn, Aberystwyth. Enillodd y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Bangor yn 1902 am ei awdl ‘Ymadawiad Arthur’ sy’n gerdd arloesol oherwydd ei mesur. Enillodd y Gadair eto yn 1909 gyda ‘Gwlad y Bryniau’. Kate Roberts – Nofelydd a brenhines y stori fer Gymraeg. Cafodd ei geni yn Rhosgadfan yn ferch i chwarelwr. Bu’n athrawes yn Ystalyfera ac yn Aberdâr cyn symud i Ddinbych yn 1935 wedi iddi hi a’i gwr, Morris T. Williams, brynu Gwasg Gee. Wedi marwolaeth ei gwr bu’n cynnal y wasg ar ei phen ei hun a chyhoeddi’r Faner. Mathonwy Hughes – Bardd a golygydd o Lanllyfni ger Caernarfon ac yn nai i R.Silyn Roberts. Symudodd i Ddinbych lle bu’n is-olygydd Y Faner. Yn 1956 fe enillodd Gadair yr Eisteddfod Genedlaethol. Gwilym R. Jones – hefyd o Ddyffryn Nantlle ac yn olygydd y Faner. Bardd praff a nofelydd ac yn un o'r rhai cyntaf i arbrofi efo'r mesur rhydd yn y Gymraeg. Y mae yr unig un i ennill Cadair, Coron a Medal Ryddiaith y Genedlaethol. Geriant Vaughan Jones – Dyma Lenor, Gweinidog a Diwinydd. Cafodd ei eni yn Llandudno ond roedd ei wreiddiau yn Nhrefaldwyn a Dinbych lle daeth i ymddeol yn 1974. Ysgrifennodd ddau lyfr diwinyddol yn y Saesneg a nifer o nofelau Cymraeg gyda themâu seicolegol. Syr Richard Clough – Fe ffurfiodd ef Gyfnewidfa Frenhinol Llundain ar y cyd a Thomas Gresham. Fe ddaeth a phensaernïaeth yr Iseldiroedd i Ddyffryn Clwyd pan adeiladwyd Plas Clough ar gyrion Dinbych. Hefyd adeiladodd dy ger Tremeirchion, Bachegraig yn defnyddio cerrig o Antwerp. Ei fwriad oedd troi rhan o afon Clwyd yn gamlas er mwyn cysylltu’r warws ym Machegraig â’r Rhyl. Ond bu farw cyn gorffen y cynllun. Catrin o Ferain – ailwraigRichard Clough. Bydd nofel R. Cyril Hughes amdani yn cael ei hail-argraffu ar gyfer wythnos Eisteddfod Dinbych. Syr Henry Morton Stanley – Gohebydd a theithiwr ddaeth o hyd i David Livingstone yn Affrica. Cafodd ei eni yn Ninbych ond pan oedd yn dair oed fe aethpwyd ag ef i dloty yn Llanelwy.Yn ddiweddarach ymfudodd i New Orleans ac fe'i mabwysiadwyd. Aeth i weithio ar y New York Herald a dyna pryd yr anfonwyd ef i Affrica. Mae ysbyty wedi'i enwi ar ei ôl yn Llanelwy. Ieuan Wyn Jones - Ganed ef yn Ninbych lle’r oedd ei dad yn weinidog gyda’r Bedyddwyr. Etholwyd ef yn Aelod Seneddol Plaid Cymru Ynys Môn yn 1987. Bu’n Gyn-Gadeirydd Plaid Cymru ac yn 2000 etholwyd ef yn Llywydd. Yn 1998 cyhoeddodd gyfrol ar Thomas Gee. Hafina Clwyd - awdur beirniad a llenor craff yn byw yn Rhuthun lle bu'n olygydd y Papur Bron lleol ac yn awr yn olygydd ymgynghorol. E. Tegla Davies - Cafodd y llenor hwn ei eni yn Llandegla-yn-Iâl, Dinbych yn fab i chwarelwr. Fe fu'n weinidog gyda'r Wesleaid a chyhoeddodd nifer o lyfrau. Ei gyfrol gyntaf oedd Hunangofiant Tomi a chyhoeddodd nifer o gyfrolau doniol i fechgyn wedi hynny.Ysgrifennodd lyfrau ffantasi hefyd ond roedd nifer yn beirniadu'r rhain am ei fod yn pregethu ynddyn nhw. Mae'n enwog am ei unig nofel hir sef Gwr Pen y Bryn sy'n disgrifiotroedigaeth ffermwr yn ystod Rhyfel y Degwm. Gilmor Griffiths - Cerddor amryddawn a gyfansoddodd nifer o ganeuon, carolau ac alawon telyn. Bydd teyrnged iddo ar faes yr Eisteddfod Emrys ap Iwan - Ganedef yn Abergele ac roedd yn feirniad llenyddol ac ysgrifwr ar bynciau crefyddol a gwleidyddol. Roedd yn ystyried ei hun yn Ewropead ac wedi cyfnod yng Ngholeg Diwinyddol y Bala fe aeth i ddysgu Saesneg mewn ysgol breifat yn y Swistir. Wedi iddo ddychwelyd i Gymru fe fu'n cyfrannu i'r Gwyddoniadur Cymreig a Baner Amserau Cymru. Ysgrifennai yn ddi flewyn ar dafod gan wylltio rhai o'i gyfoeswyr. Roedd yn genedlaetholwr brwd ac roedd yn credu'n gryf mewn hunanlywodraeth. Cyfranodd yn helaeth i'r Faner a'r Genhinen a chyhoeddodd ddau lyfr. Fe fu'n weinidog yn Rhuthun a'r Rhewl. Mae ysgol wedi ei henwi ar ei ôl yn Abergele. Gwilym Hiraethog - Gwr o Lansannan oedd yn weinidog gyda'r Annibynwyr, yn arweinydd Radicalaidd dylanwadol a golygydd a llenor yn ystod yr 19eg ganrif. Ef yw awdur yr emyn enwog 'Dyma gariad fel y moroedd'. Ysgrifennodd gyfrolau barddoniaeth ond ei ryddiaith oedd ei brif gyfraniad i lenyddiaeth Gymraeg. Roedd yn credu'n gryf mewn cyfiawnder cymdeithasol. Orig Williams - Pêl-droediwr ymosodol a ddaeth i enwogrwydd pellach fel reslar dan yr enw El Bandito. Teitl ei hunangofiant yw Cario'r Ddraig. Mae ei ferch, Tara Bethan, yn prysur ddod i'r amlwg fel cantores a pherfformwraig ac mae'n aelod o'r grwp Cic. Philip Hughes - Actor o Ddinbych sydd wedi ymddangos yn Pobol y Cwm. Mae'n adnabyddus am ei brotread o'r Dyn Sâl yn y gyfres Plu Chwithig. Cyn dechrau actio roedd yn canu gyda Chwmni Opera Cymru. Daliadau dadleuol am addysg Gymraeg.
| |
© MMI |
|
About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy |