MAWRTH 18fed Tachwedd 2014 Hygyrchedd Geiriau Yn Unig | ![]() |
Gwaith amserol yn Nyffryn Clwyd Catrin Jones yn cyfarfod dau gydag amser ar eu dwylo Mae yna hen, hen, hanes o wneud clociau yn nyffryn Clwyd - ac yn Ninbych yn arbennig. Ac mae’n draddodiad sy’n parhau gyda dau glociwr wrth eu gwaith yn y dref heddiw - un ohonyn nhw yn enillydd cenedlaethol. Troi cefn ar fod yn athro Enw busnes Paul Parker yw Clociau’r Dyffryn.Chwe blynedd yn ôl penderfynodd adael ei swydd athro yn ysgol Howells yn Ninbych a mentro agor ei fusnes trin clociau ei hun. Bu’n uchelgais ganddo ers amser i gychwyn gyrfa cwbwl wahanol. Tra roedd yn dal i ddysgu dilynnodd gwrs tair blynedd gyda’r BHI (British Honorological Trust). "Roedd yn waith llawer anoddach na chael fy ngradd gyntaf. Doedd fy nghof ddim cystal ac roedd pwysau mawr arna i ar y pryd. Heddiw dwi’n trysori’r cymhwyster hwn yn fwy na fy ngradd gyntaf." Gan ei fod yn trin y clociau yng nghanol y siop gall cwsmeriaid ei weld wrth ei waith. Daw pobol a’u clociau ato o bob rhan o ogledd Cymru ac y mae mae rhestr aros o rhwng pum a chwe mis i drwsio cloc. Diddordeb ers yn fachgen Un arall o drigolion Dinbych sy’n trwsio clociau yw Tomi Roberts neu Tomi Clociwr i’w ffrindiau.Mae’n gwneud hynny yn ei amser hamdden er boddhad. Bu ganddo ef ddiddordeb mewn clociau ers yn fachgen. "Roedd hen berthynas i mi, Clwydfardd - David Griffith - yn glociwr yn y dref flynyddoedd yn ôl. Roedd ganddo ef fusnes gwneud clociau yn nhop y dref." Clwydfardd oedd yr archdderwydd ym 1855 ac yr oedd yn arbenigwr arm wneud clociau. Aelod arall o’r teulu oedd Richard Griffith, gwneuthurwr clociau yn y ddeunawfed ganrif. Trwsio watsus ffrindiau Pan oedd Tomi yn yr ysgol byddai’n trwsio watsus ei ffrindiau. Er mai peiriannydd yn Ysbyty Gogledd Cymru oedd o wrth ei waith treuliai’r gyda’r nos a’r penwythnosau yn trwsio clociau mewn gweithdy y tu ôl i’w gartref. "Hobi oedd hon ar hyd yr amser ac ar ôl tê fe fyddwn i’n mynd ati i wneud clociau." Wedi iddo ymddeol yn gynnar trodd at y grefft o ddifri ac y mae wedi trin miloedd o glociau erbyn hyn. Ennill gwobrau Ei arbenigrwydd pennaf yw ei fod yn gwneud ei glociau ei hun yn wahanol i relyw clocwyr Dyffryn Clwyd ac y mae’n gwneud ei sgriws ei hun hyd yn oed. Enillodd wobrau yn yr Eisteddfod Genedlaethol gyda’i grefft gan gynnwys gwobr am gloc mawr wyth niwrnod yn Eisteddfod Genedlaethol Llanrwst, 1951 ac yn Eisteddfod Genedlaethol Llangefni 1983. Yn Eisteddfod Genedlaethol Y Rhyl, 1985, enillodd wobr gyntaf am wneud cloc sgerbwd mewn cas gwydr ac yn Eisteddfod Genedlaethol Bro Madog, 1987, bu’n fuddugol am wneud cloc yn defnyddio dwr. Dywedodd Tomi Roberts fod pendil a phwysau yn gwneud clociau yn fwy cyson a dibynadwy. Ar gyfer perffeithio’i grefft cafodd hyfforddiant ym mhencadlys y BHI ger Nottingham. Ond dywed fod ei ddiddordeb a’i chwilfrydedd ef ei hun yn bwysig hefyd. "Gan fod Clwydfardd a’i dad yn glocwyr, mae’n ddigon posib fod yna rywbeth yn y gwaed," meddai. Mae’n arbenigwr ar greu clociau tywydd (barometers) hefyd. Nid yn unig y mae trwsio yn ei weithdy ond yn ymweld â chartrefi pobl hefyd. Y traddodiad clociau yn Nyffryn Clwyd Roedd Dinbych yn amlwg iawn yn y grefft tan ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg. A hithau yn dref fwyaf llewyrchus Dyffryn Clwyd ymffrostiai mewn nifer o deuluoedd dylanwadol fel y Myddletons a’r Cloughs a chanddyn nhw gysylltiad agos â Llundain a’r modd I fod yn berchenogion clociau. Ar y dechrau roedd nifer o glociau ym Mhrydain yn cael eu gwneud gan grefftwyr lleol, yn aml gan ofaint gan mai’r hyn oedd ei angen yn bennaf i wneud y gwaith oedd y gallu i weithio â haearn. Aeth rhai ymlaen i wneud y grefft yn rhan bwysig o’u busnes. Bu 1657 yn drobwynt pwysig pan ddyfeiswyd cloc pendil a olygai y gallai clociau gadw amser yn gywir. Cyn hynny roedd clociau’n cyflymu yn y gaeaf ac yn arafu yn ystod yr haf. Yn ystod y ddeunawfed ganrif daeth nifer o deuluoedd yn enwog am wneud clociau yn Nyffryn Clwyd a datblygodd y grefft ymhellach yma yn ystod y 19eg ganrif. Erbyn diwedd y ganrif roedd wyth clociwr yn Ninbych o gymharu a phedwar yn ystod y 18fed ganrif.
| |
© MMI |
|
About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy |