BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
eich llais

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Wes Wes
'Goth'Ystrydebu
A yw hi'n iawn i labelu pobl? Dyna gwestiwn Abigail a Hayley o Ysgol y Preseli wrth edrych ar ystrydebu pobl ifanc.

Mae ystrydebu pobl yn rhywbeth naturiol i bawb, ond fel arfer mae gan bobl syniadau am bobl eraill, hyd yn oed os nad ydynt yn eu hadnabod.

Yn yr ysgol, mae gyda ni glîciau gwahanol ar sail edrychiad, iaith a diddordebau. Boed yn 'Hambons' neu'n 'Barbie Dolls', 'Goths' neu 'Bois Rygbi'. A ydych chi erioed wedi gweld un o'r bois rygbi yn siarad gydag un o'r 'goths'? Neu un o'r 'hambons' yn cyfathrebu gydag un o'r 'barbie dolls'? Sai'n credu 'ny! Hefyd mae yna wahaniaeth rhwng y disgyblion traddodiadol Cymraeg a'r disgyblion a ddysgodd Gymraeg fel ail-iaith.

Mae rhai'n teimlo fel eu bod nhw wedi eu trapio o fewn y grŵp, a'u bod nhw'n methu torri mas o'r 'label' sydd wedi ei roi arnynt. Y neges am hynny yw: paid cael ofn i fod yn ti dy hunan, mae'r clîciau yma wedi bodoli yn draddodiadol mewn ysgolion uwchradd ers blynyddoedd. Ddylen ni ddim gadael syniadau ffug gymryd drosto, neu reoli pwy ydyn ni mewn gwirionedd.

Pwysau i gydymffurfio
Erbyn heddiw mae'r byd wedi newid. Technoleg, ffasiwn a iaith wedi datblygu. Er bod hynny'n beth da mewn rhai agweddau, mae hefyd wedi dod â mwy o drafferthion i'r byd ysgol.

Rhaid cael y dillad iawn; yr 'ipods', 'xboxes' a ffônau symudol iawn - dim ond er mwyn gallu ffitio mewn. Mae pawb yn gwisgo'n wahanol, gwrando i gerddoriaeth gwahanol, a hyd yn oed yn siarad iaith wahanol. Mae'r rhai sy' ddim yn ofn dangos eu bod nhw'n wahanol, yn cael eu beirniadu. Mae pob un o'r clîciau yn cael eu ystrydebu gan rywun. Ond mewn gwirionedd rydym i gyd yn gyfartal, ond gwelir gwrthdynfa rhwng pawb. Y person sydd o fewn y corff sydd yn bwysig. Dyma'r neges;

Gwisga'r lliw du, dracsiwt neu ddillad delwedd
Gwranda ar roc, drum and bas, R'n'B, pop neu ganu gwlad
Ysmyga neu peidia
Siarad iaith wahanol os wyt ti moyn
Edrych yn wahanol os wyt ti moyn

Dod i adnabod y person tu nôl i'r ddelwedd yn gyntaf sy'n bwysig, cyn beirniadu!

Abigail a Hayley



Bach o Bopeth
Ffilmiau
Lluniau
Chwaraeon


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy