Mae llawer o bobl yn pryderu am sefyllfa'r iaith Gymraeg yng Nghymru ar hyn o bryd. Caiff protestiadau a gweithdai eu trefnu yn ogystal â chyfarfodydd di-ri. Yn ein barn ni, nid rhain yw'r ffyrdd mwyaf effeithiol o hybu'r iaith, ond yn hytrach y gigs byrlymus sy'n denu ieuenctid o bob cwr o Gymru. Mae Maes B wedi bod yn rhan o draddodiad y Sin Roc Gymraeg ers blynyddoedd lawer. Yno cewch gyfle i fwynhau cerddoriaeth Gymraeg ar ei gorau am bris rhesymol o £75. Fe gewch safle i wersylla, mynediad i'r gigs nosweithiol sydd gyferbyn â'r gwersyll, a mynediad i'r prif faes bob dydd. Yn ôl Rhian Clwyd, gynt o Glwyd, sydd bellach yn byw ym Mlaenffos, "Mae hyn yn beth da gan ei fod yn annog yr ieuenctid i fynd i mewn i'r maes i gael blas ar ddiwylliant Cymru." Nid bandiau amatur sy'n chwarae ym Maes B, o na! Ond yn hytrach mae bandiau o'r radd flaenaf yno bob nos. O nos Sadwrn i nos Fawrth mae un llwyfan, ond ar y nos Fercher, mae'r ail lwyfan yn agor ac mae'r ddau bafiliwn dan eu sang o ieuenctid gwyllt Cymru. O Frizbee i Euros Childs, Gwyneth Glyn i Genod Droog a Gwibdaith Hen Fran, i'r hen ffefrynnau fel Meic Stevens a Steve Eaves, maent oll wedi perfformio ym Maes B, heb sôn am Dafydd Du, Huw Evans a Huw Stevens yn troelli eu disgiau gydag angerdd. Dywedodd "Sinsir" o Fand Eusebio...
"Braint byddai cael perfformio ar lwyfan Maes B, mae poblogrwydd y bandiau yn cynyddu wedi'r ŵyl, gan bod pobl o Gymru gyfan yn mynd yno bob blwyddyn." Eleni bydd Maes B yn cael ei gynnal yng Nghaerdydd rhwng yr ail a'r nawfed o Awst. Mae'r safon yn argoeli'n well nag erioed, felly fel dwy o gefnogwyr pennaf Maes B ... "Byddwch 'na neu byddwch yn sgwâr!" Cadi Howells a Megan WilliamsManylion Maes B Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd a'r Cylch, 2008
 |