Y siart Saesneg
Wrth edrych ar y siart Saesneg ym mis Ebrill gwelwn bod yna bob math o gerddoriaeth. Ar ôl i Estelle fod yn rhif 1 am bedair wythnos gyda'i chân 'American Boy' cafodd ei bwrw allan o'r safle gan y 'Frenhines Bop' Madonna. Mae hi yn ôl yn y siartiau gyda chân ag alaw fywiog iddi ac i wneud y gân yn fwy llwyddiannus mae Justin Timberlake yn canu hefyd. Wrth i Estelle ostwng i rhif 3 mae arist newydd o'r new Sam Sparro yn cyrraedd rhif 2 gyda chân o'r enw 'Black and Gold'. Wrth i ni weld bod yna sawl artist newydd yn taro'n ôl y mis hwn, artist arall sydd wedi gwneud hyn yw Usher gyda'i gân newydd o'r enw 'Love in this Club' yn cyrraedd rhif 7 yn y siartiau. Fel y gwyddoch mae'n siŵr, mae cantores Gymraeg o'r enw Duffy yn gwneud yn arbennig yn y siartiau wrth iddi gyrraedd rhif 1 ym mis Mawrth gyda'i chlasur o gân o'r enw 'Mercy'. Parhaodd i fod ar y brig am 5 wythnos. Ers hynny mae hi wedi gostwng i rif 9. Am sawl wythnos roedd y gân 'Low' gan Flo Rida yn rhif 2 ond nawr mae wedi gostwng i rhif 6 yn y siartiau. Mae'n cael ei chwarae yn y ffilm 'Step Up 2 The Streets' sydd allan nawr ym mhob sinema. Wrth edrych ar y siart gwelwn fod yna sawl artist wedi dychwelyd yn ôl yn gryf gyda chaneuon arbennig. Y siart Gymraeg
Wrth edrych ar y siart Gymraeg gwelwn ar y top y band 'Gwibdaith Hen Fran' gyda'r gân Cedors Hen Wrach. Mae'r grŵp yma yn dod o Flaenau Ffestiniog a maent yn perfformio mewn gigiau ar draws Cymru, gan gynnwys Crymych!! Maent hefyd wedi bod yn perfformio mewn gwyliau cerddorol fel Maes B. Yn rhif 3 mae Bryn Fôn gyda Toca. Mae yna sawl artist yn y siart Gymraeg sydd wedi bod yn canu ers blynyddoedd fel Bryn Fôn a Celt. Mae Celt yn cyrraedd rhif 4 gyda'r gân Petrol. Yn rhif 8 mae'r band Radio Luxembourg gyda Diwrnod Efo'r Anifeiliaid. Rhai ffeithiau
Y rhif 1 cyntaf erioed yn y siart Gymraeg oedd MC Mabon nôl ar Ragfyr 2, 2002. Y grŵp hiraf i aros yn safle rhif 1 oedd Elin Fflur a'r Moniars a fu yno am 11 wythnos! Llwyddodd Meinir Gwilym i aros yn y pump uchaf am dros 52 o wythnosau. Mae'n amlwg bod cerddoriaeth yn y Gymraeg yn dal i gynhyrchu caneuon da a llwyddiannus. Rhiannon Llewelyn Mwy am gerddoriaeth Gymraeg ar wefan C2
 |