Dechreuodd hanes sefydlu un o gymunedau Cymreig fwyaf America yn 1818 a gwelwyd yn ystod y pedwaredd ganrif ar bymtheg fod nifer o Gymry Cymraeg yn ymgartrefu ar draws America gyfan. Ond fe wnaeth un a ymfudodd i America ddenu fy sylw yn fwy na'r gweddill. Ymfudo mawr y Cymry o Sir Aberteifi a ymgartrefodd yn Ne Dwyrain Ohio a sefydlu "Little Cardiganshire" yno. Yn 1818, mentrodd chwe theulu estynedig o ardal Cilcennin yn Sir Aberteifi ar draws yr Iwerydd i geisio bywyd gwell. Roedd tlodi, cau'r tir comin, gorthrymder cyffredinol, trethi afresymol o uchel ac ansefydlogrwydd wedi effeithio yn arw ar ardal Cilcennin a'i thrigolion. Ymgartrefu yn Ne Ddwyrain Ohio wnaethon nhw a sefydlu "Little Cardiganshire" yno.
Cafodd John Jones Tirbach, tafarnwr "Y Ship" ym mhentref Pennant ei ysgogi i adael Cilcennin oherwydd yr effaith a gafodd y ffactorau uchod ar ei fusnes. Dan arweiniad John Jones, adawodd ef a chwe theulu arall a'i morio hi am America. Gadawodd 35 o bobl ardal Cilcennin ac yn eu plith, John Jones Tirbach, J.Evans Penlanlas, Evan Evans Tymawr, Lewis Davies Rhiwlas, William Williams Pantwallen a Thomas Evans, Pantwallen. Cyrhaeddodd y teuluoedd Ohio ar ôl taith hir iawn ar long ac yna ar gwch bren a gludodd y teulu i'w cynefin newydd. Cymerodd bron wyth mis iddynt gyrraedd y "New World" fel y caiff ei enwi. Sefydlodd y Cymry y capel cyntaf Cymraeg yn yr ardal gan fod crefydd yn bwysig iawn iddynt yn y cyfnod a'i alw'n Moriah. Ond beth yw pwysigrwydd yr hanes hyn i ni? Ar 25 o Ionawr 2008, teithiodd criw o fyfyrwyr o Goleg Y Drindod, Caerfyrddin i Ohio yn America fel rhan o daith gyfnewid gan y coleg. Ymysg y myfyrwyr oedd fy chwaer.
Cafodd y cyfle i ymweld â 'Madog Center' sef canolfan Cymraeg y coleg yn Rio Grande lle ceir hanes John Jones Tirbach a'i griw yno. Aeth hi i ymweld â chofeb rhai o'r ymfydwyr o ardaloedd lle ceir nifer o bobl Americanaidd yn galw ei hunain yn 'Welsh Americans'. Roedd ei phrofiad hi o fod yn rhan o'r hen draddodiadau Cymreig yn Ohio yn werth chweil. Credwch neu beidio ond ceir wythnos Gymraeg yn Efrog Newydd neu 'Welsh Week New York'. Cefais y cyfle i ymweld ag Efrog Newydd yn ystod yr wythnos hon ond mawr o siom a gefais wrth i mi ddarganfod nad oedd y rhan fwyaf o drigolion Efrog Newydd wedi clywed am yr ymfudo yma. Ac felly roeddwn yn awyddus i bobl Cymru ddod i wybod am yr ymfudo ac i ddangos ein gwerthfawrogiad i'r Americanwyr am gadw'r traddodiad Cymreig yn fyw hyd yn oed ben draw'r byd. Melissa Davies
 |