Mae dylanwad y wasg ac enwogion yn amlwg ym mywydau pobl dyddiau yma, er enghraifft y sêr Lindsay Lohan, Nicole Richie, Keira Knightly, a Mischa Barton. Mae'r edrychiad cywir yn bopeth. Y dillad diweddara' o'r brand gorau, y bwyd cywir i'w fwyta neu i beidio ei fwyta efallai, a'r pwysau delfrydol. Ond y gofid mawr ydy pa mor beryglus ydy hyn i iechyd y modelau neu'r sêr enwog ac i bawb sydd yn dilyn llwybr y deiet erchyll yma? Yn ddyddiol gwelwn nifer o luniau yn y cylchgronau a'r papurau tabloid o'r enwogion sydd wedi colli pwysau gan edrych yn hynod o denau ac afiach, ond i nifer o bobl ifanc yn enwedig mae'r menywod yma yn ddelfryd ymddwyn. Ond y gwirionedd ydy na ddylen ni ddilyn eu hesiampl. Maen nhw'n arwain y ffordd i fywyd peryglus ac efallai yn anffodus ddiwedd bywyd. Mae yna lawer o sylw wedi bod yn ddiweddar i'r ffaith bod y merched ar y cat walk yn edrych yn erchyll o denau, a'u bod yn ymddangos fel eu bod yn diodde' o anorecsia. Caiff hyn effaith ofnadwy ar feddyliau merched ifanc, dyma yw'r corff delfrydol, ond mewn gwirionedd nid yw'n ddelfrydol o gwbl. Gall llawer o broblemau oresgyn o ganlyniad i fod yn rhy denau. Llawer o broblemau meddygol, neu farw hyd yn oed o broblemau calon, hefyd maent yn gallu dioddef yn arw gydag esgyrn gwan. Cafwyd enghraifft o hyn mewn wythnos ffasiwn yn Uruguay, pan gwympodd un o'r modelau yng nghanol y sioe a bu farw o ganlyniad i fethiant y galon. Felly nid yn unig mae bod yn rhy denau yn edrych yn salw, mae hefyd yn wael i'r iechyd. Mae merched lleol yn yr ysgolion yn cael eu dylanwadu gyda'r hyn y maent yn ei weld yn y cylchgronau ac ar y teledu. Dyw rhai ddim yn bwyta cinio ysgol ac yn dewis afal yn hytrach, er mwyn cael "y corff perffaith". Ond gobeithio ein bod ni wedi dangos i chi nad yw y size 0 yn berffaith, yn ein barn ni, o bell ffordd. Mared Jones a Siwan Griffiths
 |