Beth yw Hambon? Erbyn heddiw ma' pobl yn credu mai 'hambon' yw person sy'n gwisgo 'overalls', wellingtons a chapan, ac yn aml yn dod o dir y "wes wes" yn y Preselau. Ni'n clywed y cyfan! "Ww... lan yn y preselau 'da'r defaid ife...?" "co nhw pobl Preseli, hei... Wes Wes!" Ond y gwirionedd yw oes rhaid i chi fyw ym mynyddoedd y Preselau i fod yn Hambon? Oes rhaid byw mewn tref i fod yn chav neu'n townie? Pam mae pobl yn ein brandio ni? Pam i ni'n brandio pobl eraill? Ma' pawb yn credu bod Hambons yn bobl yr ardal hyn ond wedyn yn dweud bod Hambons yn bobl sy'n byw ar ffermydd? Fy nghwestiwn i felly yw, os ydyn ni'n byw yn ardal y Preselau ond ddim yn byw ar fferm odi ni'n hambons? Credaf nad yw pobl wir yn hollol sicr o beth yw Hambon, felly wrth gerdded o amgylch yr ysgol i ofyn barn: "Beth yn eich tyb chi yw hambon?", yr atebion a gefais oedd y rhai uchod, sef pobl sy'n byw yng Nghrymych neu'r ardal. Un ateb a gefais oedd "pobl sy'n siarad Cymraeg." Rwy'n hollol anghytuno â'r ffaith hyn oherwydd mae pobl yn byw mewn trefi mawr yn defnyddio'r iaith yn gyson a ddim yn byw yn agos i'r ardal hon. Felly a yw pobl sy'n byw mewn trefi mawr fel Hwlffordd, er enghraifft, yn "chavs" neu'n "townies"? Unwaith eto wrth ofyn y cwestiwn hyn i bobl yr un atebion a gefais. "Pobl o waelod y Sir" neu "pobl o gartrefi di Gymraeg". Wrth fynd allan i wahanol ardaloedd rydym ni'n cael ein brandio gan bobl. Hefyd, beth yw'r gwahaniaeth rhwng 'chav' a 'townie'? Yn syml yn fy marn i mae'n well i dderbyn pobl fel maen nhw eisiau bod os yw pobl eisiau cerdded o gwmpas strydoedd yn gwisgo llawer o emwaith neu "bling", yna mae yna croeso iddyn nhw wneud. Beth os yw pobl eisiau mynd o gwmpas yn siarad Cymraeg? Wedi'r cwbwl iaith ein gwlad ydyw? Pam ddylem ni gael ein beirniadu am ein tafodiaith - y "wes wes"? Pam bod pobl ardaloedd eraill o'r gogledd yn cael eu beirniadu am eu ffordd nhw o siarad? Mae'n rhaid i ni gofio bod gan bawb yr hawl i wneud ei ddewisiadau ei hun ynglŷn â beth a sut maent yn gwisgo'n ddyddiol. Nid oes rhaid iddynt gael eu brandio fel "chav" na "Hambon" does bosib? Fiona Edwards
 |