 | Gorymdaith flynyddol y tractorau Trefnwyd yr orymdaith flynyddol ar 15 Medi 2007 gan Mr Richard Underwood a Mr Mike George, y ddau yn aelodau o Glwb Clasurol Cwmdu. Roedd dros 21 tractor yn rhan o'r orymdaith, gan adael safle mart Ffairfach am 10.45 y bore. Teithiwyd 15 milltir, gan adael y ffordd fawr am beth o'r siwrnai, trwy Golden Grove, Cefnberach, Milo, Tŵr Paxton, y Gerddi Botaneg i Borthyrhyd. Cafwyd cinio yn nhafarn y Prince of Wales cyn ail gychwyn ar y siwrnai o 16 milltir yn ôl trwy Llanarthne, Cilrychen, Derwydd, Maesybont ,Carmel, Milo, Golden Grove a Ffairfach. Ar y ffordd yn ôl, roedd yn rhaid i'r tractorau aros am ddeg munud ar ffordd gefn rhwng Cilrychen a Derwydd i adael brogaod i groesi! Codwyd dros £200 ar gyfer Cronfa y Groes Goch Brydeinig.
 |  |  |  |
 | 
 |
Gorymdaith Flynyddol y Tractorau
|  | 12345 |  |
|  |
|
|