Clipiau Sain: Gwrandewch ar ddisgyblion yr ysgol yn siarad am Landeilo.Llywelyn
Mae Llandeilo yn dda achos mae llawer i wneud fel chware Tenis, pêl droed, rygbi and does dim pwll nofio.
Robert
Mae Llandeilo yn brydferth.
Edward
Rydw i'n hoffi y siop hufen-iâ o'r enw Heavenly achos mae llawer o hufen iâ blasus. Rydw i hefyd yn hoffi bod lot o lleoedd i chwarae fel parc Dinefwr a parc Penlan.
Rhys a Joseff
Rydym ni yn hoffi castell Dinefwr, Cae William, y siopau, yr eglwys ac yr olygfa.
Dafydd a Aeron
Mae Aeron yn hoffi y siopau ac mae Dafydd yn hoffi y chwareon. Ac mae'r ddau ohonon ni yn hoffi y cestyll.
Alun
Rydw i yn hoffi chwarae rygbi yn Cae William. A rydw i yn hoff o gastell Dinefwr.
William
Rydw i'n hoffi Llandeilo oherwydd mae yna ysgolion Cymraeg. Mae yna hefyd ddigon o rygbi.
Hywel a Ifan
Rydyn ni yn dwli ar Llandeilo am fod y golygfeydd mor hyfryd a'r bobl mor glen ac mae pêl droed a rygbi yn sbort.
Gwennan Campbell
Dwi'n hoffi Llandeilo oherwydd fod dwy ysgol yma, un i bobl sydd ffeulu siarad Cymraeg ac un i bobl sy'n gallu. Mae llawer o gestyll yma hefyd.
Alfie Davies
Rwy'n hoffi Llandeilo oherwydd bod y dref ddim yn rhy boblogaidd ac mae rhewl yn mynd heibio Llandeilo.
Elinor
Rwy'n hoffi Llandeilo oherwydd mae llawer o siopau yna.
Caradog Davies
Rydw i yn hoffi Llandeilo achos y rygbi a'r holl siopau da.
Thomas
Rydw i'n dod o Manordeilo ac rydw i'n hoffi Llandeilo oherwydd rydw i'n hoffi chwaeae rygbi i'r tim.
Siwan Fflur Dafydd
Rydw i yn hoff o Llandeilo am fod gymaint o hanes diddorol am y lle. Hefyd ma na siope cool a llawer o bethau i neud.
Ffion
Rwy'n hoff iawn o Llandeilo oherwydd mae llawer o siopau a parc ac mae llawer o bethau i wneud.
Hannah
Rwy'n hoffi Llandeilo oherwydd mae llawer o siopau a mae digon o bethau i wneud. Bron pob tro rwy'n mynd i'r dref rwy'n gweld rhywun rwy'n nabod. Rwy'n hoffi'r parc oherwydd mae llawer o bethau yno.
Sarah
Rydw i yn hoffi Llandeilo achos mae'n lle hyfryd i fyw ac mae digon o fwyd da i ni fwyta ac mae llawer i wneud ac mae llawer o fy ffrindiau yma.
Lewis
Rydw i yn hoffi stryd Llandeilo oherwydd mae na siopau gwych ac mae lle i chwarae tenis, rygbi, pêl-droed a sketo. Ac mae lle i cael bwyd a mae na tua pedwar ysgol.
Sam Rhys
Mae Llandeilo yn le prydferth iawn. Mae'r siopau yn dda. Does dim llawer o lygredd. Digon o Ysgolion o gwmpas y lle. Mae tîm pêl-droed yn gwneud yn dda a'r tim rygbi yn wneud yn dda hefyd.
Rhun Jones
Mae Llandeilo yn lle prydferth iawn. Mae digon o siopau i ddenu pobl y pentre. Mae tim rygbi da iawn gyda Llandeilo (plant a dynion) a mae pêl droed da iawn gyda ni.
Cai Davies
Mae Llandeilo yn le da i fyw ond mae llawer o sbwriel ar y llawr a does dim siop chwaraeon yma ond mae llawer o ganolfannau chwaraeon ac mae tim rygbi da.
Osian Owen
Rydw i yn meddwl bod Llandeilo yn le prydferth iawn ond mae llawer o sbwriel ar ochor yr heol. Mae llawer o siopau da a bwytai hyfryd.
Rhydian Thomas
Rydw i'n meddwl bob Llandeilo yn lle prydferth iawn ac mae'r bwyd yn ardderchog. Mae timoedd chwaraeon Llandeilo yn wneud yn dda iawn hefyd.
Alistair
Fi yn byw yn Llandeilo, mae ty fi ar bwys mynydd du a mae fy ffrind yn byw ar bwys fi.
Ameer
Rydw i yn byw yn Rhydyman, rwy'n hoff iawn o Rhydyman, mae na llawer i wneud fel siopau, pwll nofio, cae rygbi a llawer iawn o chwaraeon i wneud.
Kyle
Rydw i'n byw yn Manordeilo. Rwyn hoffi Manordelio achos mae cefnder fi'n byw lan y hewl. Yn yr ardd rydw i yn chwarae pêl droed gyda fy mrawd.
Scott
Rwy'n byw yn Llandeilo, rwy'n hoffi'r dref achos dydn ni ddim yn cael fflyds. Rwy'n hoffi cerdded ci Alistair.
Huw
Dwi'n credu bod Llandeilo yn grêt oherwydd mae popeth ynddo fel brigad dân a chwrt tenis, hefyd mae llawer o siopau ond mae un peth ar goll. Mae eisiau sinema.