| Felly, pan gysylltodd Rhian o Fenter Iaith y sir gyda fi i ddweud bod y Fenter yn mynd i drefnu gig hollol Gymraeg gyda bandiau Frizbee a Vanta fel rhan o'r prosiect 'Noson Allan', roeddwn i wrth fy modd. Y lle oedd: Clwb Rygbi Hwlffordd. Agorodd y drysau am wyth o'r gloch ac erbyn naw o'r gloch roedd cynulleidfa deilwng o bobl yn bresennol yno yn aros yn eiddgar i weld y grwpiau yn perfformio. Vanta ddechreuodd y noson gyda set acwstig oherwydd salwch y drymiwr ar y noson. Er gwaetha hyn, cawson ni berfformiad da iawn gan y band ifanc o'r Gogledd. Yr oedd yna flas 'Coldplay/The Killers' yn eu caneuon, er eu bod yn canu trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg wrth gwrs. Ar ôl saib o ryw chwarter awr daeth Frizbee ar lwyfan fach y Clwb. Does dim syndod o gwbl taw nhw yw un o'r bandiau gorau Cymraeg ar hyn o bryd. Perfformiad egnïol a dweud y lleiaf ac mae'r prif leisydd a'r gitarydd Ywain Gwynedd yn berson arbennig iawn. Mae e'n llwyddo i chwarae solos a gitâr rhythm yn gymysg i gyd. Dim ond un gair - Gwych! Clywon ni hen ffefrynnau fel 'Aur', 'Ti (Si Hei Lw)' a 'Lennongiaeth' gyda thraciau oddi ar eu halbwm diwethaf 'Pendraw'r Byd' fel 'Heyla'. Wnewch chi mo'u hanghofio nhw o gwbl ar ôl clywed y gwrandawiad cyntaf, dwi'n addo. Noson fendigedig! Ges i gyfle i gael sgwrs fach gydag Ywain ar ddiwedd y noson gan ddiolch iddyn nhw am ddod lawr i dde Sir Benfro a rhoi noson mor arbennig i ni'r gwrandawyr. Maen nhw am ddod yn ôl. Felly os colloch chi nhw'r tro 'ma, bydd cyfle gobeithio yn y flwyddyn newydd i'w gweld a'u clywed eto! Gan Kevin Knox
 |