Bydd yn gyfle unigryw i weld rhai o wynebau mwyaf eiconig a diddorol Cymru o gasgliad y Llyfrgell. Casgliad portreadau'r Llyfrgell yw'r casgliad myaf o bortreadau Cymreig yn y byd ac mae'n cynnwys degau o filoedd o ddelweddau mewn ystod eang o gyfryngau, o ffotograffau i frasluniau, engrafiadau a gweithiau celf mewn ffrâm. Mae'r arddangosfa'n llawn 'beirdd a chantorion, enwogion o fri'. Yn eu mysg mae lluniau o bencampwyr megis y bocsiwr byd-enwog o Drecelyn yng Ngwent, Joe Calzaghe, chwaraewyr rygbi fel Barry John ac Ieuan Evans a'r athletwraig, Tanni Grey-Thompson. Cawn weld casgliad o gartwnau cynnar y Vanity Fair; portread o Christmas Evans y Gweinidog anghydffurfiol oedd ag ond un llygad; Griff Rhys Jones, yr actor adnabyddus a Mary Hopkin y gantores, ynghyd â rhai o wleidyddion enwog Cymru gan gynnwys David Lloyd George, Aneurin Bevan, Gwynfor Evans a Neil Kinnock. Meddai'r Llyfrgellydd Andrew Green: "Mae'n wych ein bod yn gallu arddangos cymaint o bortreadau diddorol a phwysig o gasgliad y Llyfrgell i'r cyhoedd. "I'r rheini sy'n methu dod i Aberystwyth neu wedi cael blas ar yr arddangosfa ac am weld mwy, yna bydd hyd ar 15,000 o bortreadau o'r casgliad yn mynd ar wefan arbennig yn ystod 2010."
 |