Symudais o Gaerdydd i Gaerfyrddin pan oeddwn yn wyth oed, a dyna oedd sioc i'r system! Merch y ddinas mewn tref wledig. Pobl yn siarad Cymraeg yn y siopau! Gwartheg a defaid go iawn yn y caeau! Ein cymdogion yn byw pellter cae i ffwrdd yn lle reit drws nesa'! Er gwaetha'r ffaith ein bod ni'n dod i Gaerfyrddin yn aml yn ystod fy mhlentyndod i ymweld â Mamgu a Dadcu, roedd hi dal yn sioc ac yn fywyd hollol wahanol i'r ddinas. Fe gymrodd hi dipyn o amser i gyfarwyddo â'r lle, ac roedd fy haf cyntaf yn Nghaerfyrddin yn rhyfedd, heb fy ffrindiau-ers-ysgol-feithrin oedd gen i yng Nghaerdydd.
Yna mis Medi, a dechrau yn Ysgol y Dderwen yn y dref. "O lle ti'n dod? Ti'n swno fel gog!" oedd y geiriau cyntaf dywedodd un o fy nghyd-ddisgyblion. Dechrau da. Caerdydd meddais i'n betrus, heb wybod sut fyddai hyn yn cael ei dderbyn. Dim llawer o ymateb, a fi'n suddo yn is mewn i'n sedd.
Ble oedd fy ffrindiau ffyddlon o Gaerdydd? Doedd y plant od 'ma "o'r wlad" ddim hanner cystal, a phawb wedi sefydlu eu grwpiau ffrindiau yn barod. Ond ar ôl tipyn fe wnes i ffrindiau ac roedd Caerdydd yn atgof pell. Dim fi oedd y 'ferch newydd' rhagor, diolch byth. Daeth chwarae yn y goedwig yn beth naturiol i'w wneud ar fore Sadwrn, a lingo iard Ysgol y Dderwen yn rhan anatod o'n ngeirfa. "Iege" oedd fy ateb dadleuon i bopeth nawr, er mawr siom i'm rhieni!
Mae Caerfyrddin yn dref hyfryd, ac er gwaethaf fy mhryderon cychwynol, roeddwn i'n hollol gartrefol ar ôl dim o beth. Ceir digon o amrywiaeth o siopau yn y dref, a'r farchnad yn rhan annatod o fywyd yr ardal. Mae digon i'w wneud yma hefyd, sinema a theatr y Lyric sy'n dangos ffilmiau a sioeau, parc braf gyda llawer o gyfleuon i chwarae ar y swings neu'r ffram ddringo ar gyfer y plant, ac fel rydw i wedi darganfod yn fwy diweddar, digon o dafarnau a bywyd nos bywiog!
Bygythiad i ganol y dref
Dwi'n meddwl bod Caerfyrddin yn dref brydferth ac mae canol y dref yn enwedig yn llawn cymeriad - Heol y Brenin, Sgwâr Nott, y castell a'r hen garchar yn edrych lawr dros yr afon. Rwy'n siomedig iawn felly fod archfarchnad newydd anferth yn cael ei adeiladu yn y dref, a cynlluniau i ddod â siop Debenhams yma gan gymryd lle y farchnad. Yn fy marn i, gall y rhain fynd â busnes siopau bach lleol sydd wedi gwasanaethu'r gymuned ers blynyddoedd maith, ac mae'n drueni mawr.
Er mwyn gwneud lle i'r siop adrannol fawr yng nghanol y dref, bydd rhaid cau llawer o'r strydoedd sy'n llawn ceir bron bob awr o'r dydd fel y mae. Mae'r traffig yn y dref yn wael yn barod - a bydd hyn yn ei wneud gan mil gwaith yn waeth. Rydw i'n teimlo'n gryf iawn am hyn gan y byddant yn cau yr hewl rydym ni'n defnyddio er mwyn cyrraedd y dref - bydd ein taith ni i'r dref yn y car yn dwblu os bydd yr hewl hon yn cael ei chau.
Rydw i ond yn gobeithio na fydd y dref sy'n meddwl cymaint i mi erbyn hyn, yn cael ei dinistrio oherwydd ymgais rhai i'w throi i edrych fel pob tref arall.
Ar hyn o bryd, rydw i'n fyfyriwr ym mhrifysgol Aberystwyth, ac mi rydw i'n gweld gwahaniaeth yn y ffordd rwy'n meddwl am Gaerfyrddin ers symud yno. Mae'n rhyfedd - Caerfyrddin oedd fy mywyd am ddeng mlynedd a nawr mae'n rhyfedd mynd yn ôl gan bod fy ffrindiau ysgol i gyd ar wasgar. Ond er fy mod yn treulio rhan fwyaf o fy amser yn Aberystwyth erbyn hyn, Caerfyrddin yw fy nghartref ac mae'n braf bod adref am yr haf gyda hen ffrindiau.
Dim llawer i'r bobl ifanc
Oni bai eich bod chi'n aelod o glwb ffermwyr ifanc yn yr ardal, does dim llawer i bobl ifanc ein oedran ni i'w wneud yng Nghaerfyrddin, heblaw mynd mas a threfnu digwyddiadau cymdeithasol ein hunan.
Mae llawer o ddewis o dafarnau yn y dref, ond rhaid dweud dwi'n meddwl bod gap yn y farchnad am dafarn i'r Cymry Cymraeg fedru cymdeithasu ynddi. Heblaw gigs Cwrwgl, sy'n cael eu trefnu gan griw o Gymry Cymraeg ifanc y dref ac yn cael eu cynnal unwaith y mis yng nghlwb rygbi'r Cwins, does dim digwyddiadau cymdeithasol Cymraeg rheolaidd. Felly unryw un sy'n darllen hwn ac sydd eisiau dechrau busnes bach newydd - tafarn â naws Gymreig yng Nghaerfyrddin plis!
Urdd 07 yng Nghaerfyrddin
Yn ddiweddar mae mwy o gigs a digwyddiadau Cymraeg yn cael eu cynnal yn y dref, llawer ohonynt yn ymwneud â chodi arian ar gyfer Eisteddfod yr Urdd 2007 fydd yn cael ei gynnal ar faes y sioe yng Nghaerfyrddin. Mae hyn yn bendant wedi tynnu'r gymuned at ei gilydd ac mae pawb wedi bod mor frwd ynglŷn â chodi digon o arian er mwyn ei gynnal a'i wneud yn Eisteddfod lwyddiannus.
Roedd gig yn Neuadd San Pedr dros Pasg 2006 gyda'r band lleol Tangwystl, Coda o ardal Llandysul a Mattoidz. Yn bendant mae digwyddiadau fel hyn yn bwysig er mwyn tynnu'r bobl ifanc Cymraeg at ei gilydd. Mae'n wych gweld pawb yn ymroi a dwi'n edrych ymlaen yn fawr iawn i groesawi'r Eisteddfod i'n tref ni! Does dim syniad gen i a fyddaf yn dychwelyd i Gaerfyrddin ar ôl gorffen yn y Brifysgol. Erbyn hyn, mae'r ddinas fawr yn codi ofn arnaf, ac rwy'n teimlo'n hollol gartrefol yma. Mae'n dref hapus a braf ond byddai'n braf byw ar bwys y môr hefyd. Ond pwy a ŵyr, efallai fy mod yn ormod o 'ferch y wlad' erbyn hyn i fedru gadael!
 |