 |
 | Sut i anfon llun Anfonwch luniau o Gaerfyrddin neu'r ardal gyfagos aton ni, ac mi ychwanegwn nhw at y map. Rydyn ni'n chwilio'n arbennig am luniau o Langynnwr, Abergwili, Treioan a'r ardaloedd cyfagos eraill. E-bostiwch eich lluniau at: deorllewin@bbc.co.uk Rhowch y wybodaeth isod gyda'r llun: Lleoliad y llun - enw'r stryd / lleoliad ac ym mha rhan o GaerfyrddinOes yna gefndir i'r llun? Dwedwch wrthon ni a gallwn gynnwys y stori o dan y llunEich enw a rhif ffôn neu gyfeiriad e-bost Ni fyddwn yn cyhoeddi y manylion hyn, ond efallai y byddwn eu hangen os daw cwestiwn i mewn ynlŷn â'r llun. Hawlfraint Gwnewch yn siŵr mai chi sydd berchen y llun, fel rheol mae hyn yn golygu mai chi dynnodd y llun eich hunan. Ceisiwch osgoi anfon: lluniau sydd â logo neu waith celf amlwg arnynt lluniau proffesiynnol, fel lluniau ysgol, lluniau o lyfrau neu gardiau post lluniau sydd â phlant o dan 16 oed ynddyn nhw, heblaw fod gennych hawl y rhieni / gwarchodwyr i wneud hynnyEr mai chi sydd yn dal i berchen y lluniau, trwy eu hanfon at bbc.co.uk rydych yn rhoi'r hawl i'r BBC i'w cyhoeddi a'u defnyddio fel a fynnwn. Darllenwch y termau hyn am fanylion llawn: Termau (Saesneg) Cliciwch yma i fynd yn ôl i Fap Caerfyrddin
 |  |  |  |
|
|