BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
abertawe

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Abertawe
Pwll Du. Llun gan yr Ymddiriedolaeth GenedlaetholDathlu Pen-blwydd Euraidd ar Benrhyn Gwyr
Ar 9 Mai, 2006 cynhelir 50fed pen-blwydd dynodi Penrhyn Gŵyr yn "Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol" (AHNE), y cyntaf erioed yn Lloegr a Chymru.
Bydd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn dathlu drwy lansio 5 taith cerdded newydd am ddim i'w dadlwytho oddi ar ei gwefan fel cyfle i bawb fwynhau'r ardal. Am ragor o wybodaeth ewch i www.nationaltrust.org.uk.

Mae'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn berchen ar ac yn rheoli tri-chwarter y penrhyn (2,226 hectar neu 5,500 erw o'r tir), yn ogystal â 26 milltir o'r arfordir. Trwyn Thurba, ger Bae Mewslade, oedd y darn cyntaf o dir ar Benrhyn Gŵyr i'w roi'n rhodd i'r elusen ym 1933, ond prynwyd y rhan fwyaf o'r tir yn yr 1960au.

Meddai Siân Jones, Rheolwr Eiddo yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ar Benrhyn Gŵyr, "Mae Gŵyr yn arbennig. Mae pobl wrth eu bodd yn dod yma oherwydd yr harddwch naturiol, y llonyddwch a'r tawelwch, ar gyfer hamdden ac am ddyddiau gyda'r teulu.

"Mae'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac eraill sy'n gwarchod Penrhyn Gŵyr yn sicrhau bod yr harddwch hwn yn cael ei gadw ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol felly mi fydd yno i'n plant fel y mae yna i ni, a bydd yn parhau i gyffwrdd ac ysbrydoli llawer i ysgrifennu, peintio, creu a chyfansoddi."

Mae "Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol" yn cynrychioli tirluniau mwyaf bendigedig y wlad. Eu hamcan yw ystyried y sawl sy'n byw ac yn gweithio ynddynt, yn ogystal â chyfarfod yr angen am fwynhad tawel o gefn gwlad.

Yn ôl ym 1956 dewiswyd 188 cilomedr sgwâr Penrhyn Gŵyr oherwydd ei arfordir clasurol a'i amgylchedd naturiol rhagorol (mae 33% ohono yn warchodfa natur genedlaethol neu'n safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig).

Ymysg swyddi allweddol tîm o staff yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ar Benrhyn Gŵyr mae gwaith cadwraeth, cynnal llwybrau a recriwtio gwirfoddolwyr i helpu gyda gorchwylion ymarferol, sy'n amrywio o gasglu ysbwriel i ffensio, glanhau ffosydd, gwaith mynediad, monitro ac arolygu.

Cynhyrchir incwm gan dri bwthyn gwyliau - Bwthyn Burrows, Cwm Ivy; Bwthyn Gwylwyr y Glannau, Rhosili; Yr Hen Reithordy, Rhosili, siop yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Rhosili a'r maes parcio ym Mhennard.

Vile, Rhosili
Un o'r safleoedd mwyaf diddorol a reolir gan yr Ymddiriedolaeth ar Benrhyn Gŵyr yw'r Vile, Rhosili, sef enghraifft brin sydd wedi goroesi o'r system amaethyddol cae-agored a gyflwynwyd gan y Normaniaid yn ystod y 12fed ganrif. Dyma un o'r ychydig o enghreifftiau sydd ar ôl o'r patrwm caeau canoloesol nodweddiadol yma, a fu'n gorchuddio rhannau enfawr o dde Cymru ar un pryd. Byddai'r rhan fwyaf o bentrefi de'r Penrhyn wedi eu hamgylchynu gan rwydwaith tebyg o stribedi.

Meddai Siân Jones, y Rheolwr Eiddo: "Ar hyn o bryd mae gennym ddwy denantiaeth ar y Vile. Mae un bellach yn ddaliad organig, ac un o'r cynlluniau ar gyfer y dyfodol yw tyfu llysiau a'u gwerthu'n uniongyrchol i'r cyhoedd. Hoffem i'r Vile fod yn system amaethu gynaladwy sy'n cynnal y gymuned. Mae cymalau cadwraeth natur yn y tenantiaethau oherwydd bod y Vile yn bwysig iawn am ei chwyn tir âr ac adar ffermdir."

Ar Benrhyn Gŵyr mae ystod eang o gynefinoedd a rhywogaethau hynod o werthfawr. Ymysg yr engreifftiau gorau mae morgrugyn du'r gors, y frân goesgoch, y glöyn byw britheg y gors, y gwalchwyfyn gwenynog, y merllys gwyllt, y crafanc-y-frân dridarn, y crwynllys Cymreig, yr ysgyfarnog, y fadfall ddwr gribog, tegeirian y fign galchog a'r rhedynen gyfrdwy. Maent yn ffynnu ar y cynefinoedd amrywiol megis rhostir, morfa heli arfordirol, gro mân yr arfordir sy'n cynnal llystyfiant, glaswelltir yr iseldir, clogwyni a llethrau arforol, a phorfa glaswellt y gweunydd a brwyn.

Mae'r ardal hefyd yn adlewyrchu llinell-amser eang - mae o leiaf 1200 o safleoedd archeolegol o fewn yr AHNE o wahanol gyfnodau a mathau. Mae'r rhain yn cynnwys ogofeydd, ceiri Oes yr Haearn, carnedd gladdu o Oes y Pres, cromlechi siambr Neolithig, cestyll canoloesol ac eglwysi. Gwelir yma hefyd oleudy a pharciau o'r 19eg ganrif, yn ogystal â gwaith arian a phlwm o'r un cyfnod, a chwareli ac olion diwydiant calch y 19eg ganrif a gorsaf radar o'r Ail Ryfel Byd.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

Sylw:




Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.



Bws BBC Cymru
Lluniau
Digwyddiadau


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy