 |  |  | Abertawe: wyddech chi? Dyma restr o ffeithiau am ddinas Abertawe a'r ardal gyfagos. Cofiwch roi gwybod i ni am unrhyw ffeithiau diddorol y gwyddoch chi amdanynt, trwy lenwi'r ffurflen ar waelod y ddalen. |  |  |
 | Daeth yr enw Saesneg am Abertawe, "Swansea", o enw un o wŷr Nors, Sweyne a sefydlodd gymuned yno cyn dyfodiad y Normaniaid. Adeiladwyd Neuadd y Dref, Abertawe, rhwng 1929 a 1934 gyda'r tŵr yn symbol o ffyniant hyd yn oed ar adeg pan oedd yn wasgfa ar weddill y wlad. Ddechrau'r 1700au pan oedd Caerdydd yn dal yn bentref pysgota, Abertawe oedd y porthladd allforio glo mwyaf yng Nghymru. Yn y 1900au yr oedd mwy o gopr yn cael ei brosesu yn Nyffryn Tawe nag yn unman arall yn y byd. Ar hyd y pedair milltir rhwng y fan lle mae'r M4 heddiw a cheg Afon Tawe yr oedd dros 150 o weithfeydd yn 1890. Yn y 1950au, Penrhyn Gŵyr oedd y lle cyntaf ym Mhrydain i gael ei enwi'n Ardal o Harddwch Arbennig gan y Comisiwn Cefn Gwlad. I Arglwydd Margam y mae'r diolch nad oes rheilffordd i Benrhyn Gŵyr. Yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg dadleuodd y byddai rheilffordd yn tarfu ar yr harddwch. Tyfodd Pontardawe ar y groesffordd rhwng dau lwybr porthyn, un o Abertawe i Aberhonddu a'r llall o Gastell-nedd i Lanymddyfri.Dechreuodd Abertawe ddatblygu o ddifri wedi dyfodiad y Normaniaid yn yr 11eg ganrif. Fe adeiladwyd castell yma ganddyn nhw yn y 12fed ganrif a datblygodd y dref o amgylch y castell hwnnw.Trên y Mwmbwls oedd y cyntaf erioed i gludo teithwyr ac fe gludai ymwelwyr o Abertawe i dref glan môr y Mwmbwls.
Cafodd y ddinas ei bomio'n drwm yn ystod yr Ail Ryfel Byd.Yn 1982 agorwyd marina Abertawe. Ganwyd y bardd Dylan Thomas yn Rhes Cwmdonkin yn rhan uchaf y ddinas a derbyniodd ei addysg yn Ysgol Ramadeg Abertawe lle roedd ei dad yn athro Saesneg.Cliciwch yma am fwy am Dylan Thomas Gelwir pobl Abertawe yn lleol yn 'Swansea Jacks.' Ci oedd yn byw yn y ddinas yn y 1940au oedd y 'Swansea Jack'. Dywedir i'r ci arbed 27 o bobl a dau gi rhag boddi!
Cafodd ei wobrwyo am ei ymdrechion! Yn Abertawe y mae'r farchnad draddodiadol dan do fwyaf yng Nghymru. Amgueddfa Abertawe yw'r amgueddfa hynaf yng Nghymru. Mae'n cynnwys gwrthrychau Eifftaidd, Rhufeinig a Chymreig ac yn 'drysorfa o hanes Abertawe'. Oes gennych chi ragor o ffeithiau diddorol? Llenwch y ffurflen isod i roi gwybod i ni.
 |  |  |  |
 |  | Cyfrannwch i'r dudalen hon! |  | |
|
|