| Cysylltwch â ni i ddweud eich dweud. Sut ddinas yw Abertawe? A oes angen datblygu yno neu a yw'n le dymunol i fyw ac i ddenu ymwelwyr? Clicliwch yma i ddweud eich barn, a byddwn yn arddangos eich sylwadau isod. Bethan Harris yn wreiddiol o Abertawe
Rydw i'n meddwl bod Abertawe yn ddinas hyfryd. Cefais fy magu yno ac roedd yna lawer i'w wneud ac arfordir hyfryd ar bwys. Mae yna lwyth o siopau da hefyd. Dw i'n meddwl ddylai pobl anwybyddu'r sylwadau yn y llyfr a mynd yno i weld dros eu hunain! Karl, Abertawe
Dinas ffantastig! Hoffi'r lle yn fawr, a lot o ddigwyddiadau yn mynd ymlaen.
 |