Yn hyderus arbrofol, weithiau'n ymweld eto a phrofiadau plentyndod bryd arall yn ymgodymu'n fentrus â dulliau newydd.
Ar ddechrau mis Mehefin 2007, roedd gwaith myfyrwyr Gradd (Anrhydedd) trydedd flwyddyn Athrofa Abertawe fu'n astudio cynllunio a phatrymau'n cael ei arddangos yn Asgell Gelf Theatr y Grand y ddinas. Cynllunio celf yn ei ystyr ehangaf.
Dyna Sarah Bowden o Abertawe a gafodd ei hysbrydoli drwy ddarganfod y dillad a wisgai'n faban wedi eu cadw'n ddiogel mewn cist gan ei diweddar fam. A'i mam-gu, oedd yn bresennol, yn cofio'i hwyres yn gwisgo'r dillad hynny ac yn dotio at y gwaith newydd a ysbrydolwyd gan gynnwys yr hen gist.
Delyth Walsh, a enillodd y wobr arbennig am waith nodwydd ac edau, yn cydnabod gymaint o wefr a gaiff o gael yn rhodd rywbeth a wnaed â llaw. "Mae fy meddwl yn creu'r ddelwedd o'r gwneuthurwr yn treulio oriau'n pwytho'n gariadus y darn gwerthfawr o liain," meddai. "Rwyn ceisio ail-greu'r sgiliau hynny a rhoi lle iddyn nhw mewn man cyfoes."
Dywedodd Joanne Cooke, hanner Ffrances sy'n dod o Fareham, Hampshire, wrthyf mai ei huchelgais oedd cynllunio gwisgoedd ar gyfer y theatr neu deledu. "Mae gwisgoedd o fyd ffantasi a chwedloniaeth wedi fy nenu erioed," meddai. Defnyddia amryw ddulliau fel brodwaith a phrintio i adeiladu ar sylfaen o ddeunydd i greu teimlad o foethusrwydd a harddwch.
Mae'r syniad o ddilladwaith cynaladwy yn bwysig i Emily James ynghyd â grym negeseuol y wisg, sef arbrofi'r thema o'r hyn a ddywed gwisg am ein personoliaethau.
Rhoddir pwysigrwydd ar ail-gylchu gan Lorna Johnstone sy'n tynnu ysbrydoliaeth o bob math o bethau - hen bosteri, penawdau papur newydd, syniadau neu bytiau sgwrs a glywodd ar y stryd. "Dylai cynllunwyr, fel pawb arall, gofio bod dyletswydd arnynt fod yn ethical," meddai.
Ceir dylanwadau Eifftaidd ar waith Kate Forster, Sbaen ar Annie Downing, Y Ffindir ar Laura Bonney, Japan ar Angharad Ress a China ar Chen Chen. Ond gartre yn Sir Benfro y mae dihangfa Sophia Watts rhag y byd a'i drasiedïau a'i helyntion.
Adlewyrchu bro ei mebyd, sef Abertawe ac Aberafan, drwy gyfrwng dur a chopor wnaeth Ceri Pugh. Ond beth bynnag yw'r cyfrwng, mae'r ddawn sylfaenol i ddarlunio'n sylfaen i waith Ceri fel yn achos pob un o'r myfyrwyr.
Ni fedrwn ond dotio at ddawn a dychymyg a dyfeisgarwch y merched hyn - merched oedd y myfyrwyr bron i gyd yn rhyfedd iawn. Gobeithio y byddan nhw'i gyd yn dal ati ac y bydd y swyddi yna ar eu cyfer. Mae'r arddangosfa yn wir wledd i'r llygad.
Gwyn Griffiths