Trefnwyd y digwyddiad gan CREW (Canolfan Ymchwil i Lên ac Iaith Saesneg Cymru) Adran Saesneg Prifysgol Cymru Abertawe.
Bwriad y gynhadledd a gynhaliwyd am dridiau yn y brifysgol, oedd dathlu cysylltiadau trawsatlantig rhwng yr Unol Daleithiau a'r gwledydd Celtaidd. Ar nos Iau, 29 Mawrth, cynhaliwyd noson o adloniant fel rhan o'r gynhadledd. Roedd y digwyddiad yn agored i'r cyhoedd ac roedd y gynulleidfa'n gymysgedd o bobl a fynychodd y gynhadledd, pobl leol sy'n gwerthfawrogi cerddoriaeth o bob math a phobl sy'n ymddiddori mewn llenyddiaeth.
Dechreuodd y noson gyda sgwrs Llyfr y Flwyddyn yng Nghanolfan Dylan Thomas yng nghwmni dau o'r awduron sydd ar y Rhestr Hir. Daniel G. Williams (trefnydd y gynhadledd ac uwch-ddarlithydd yn yr Adran Saesneg) a Tristan Hughes, a ddaw'n wreiddiol o Ganada. Roedd y bardd lleol, Nigel Jenkins (sy'n dysgu ar gwrs MA Ysgrifennu Creadigol yr Adran Saesneg) yn cadeirio'r sgwrs. Mae'r ddau lyfr yn trafod agweddau amlddiwylliannol a'r cysylltiad agos a fu erioed rhwng yr Unol Daleithiau a Chymru.
Blas hollol wahanol sydd i'r ddau lyfr. Mae Daniel Williams yn edrych yn hanesyddol ar gaethwasiaeth yn ei gyfrol Ethnicity and Cultural Authority: From Arnold to Du Bois . Seilir y llyfr yn y cyfnod pan oedd hawliau sifil yn cael tipyn o sylw yn nhaleithiau'r De. Mae'n ymchwilio i Ddadeni Harlem a'r gwahaniaethau rhwng y dosbarthiadau cymdeithasol a greodd cymaint o'r trafferthion a arweiniodd at yr anghydfod. Mae'r llyfr yn cymharu sefyllfa'r UDA â sefyllfa Cymru adeg Matthew Arnold, a ddywedodd nad oedd fawr o ddyfodol i Gymru oni bai ei bod hi'n aros o fewn Prydain yn wleidyddol. Ceisia Daniel Williams weld Matthew Arnold mewn goleuni newydd, fel rhywun a ysgogodd Cymru i ddatblygu fel cenedl yn hytrach na'r ddelwedd gyffredin ohono fel yr un a'i dedfrydodd i farwolaeth. Yr hyn sy'n gwneud y llyfr yn ddiddorol o safbwynt y gystadleuaeth yw ei bod hi, i bob pwrpas, yn llyfr academaidd, ac nid yn llyfr poblogaidd.
Mae Tristan Hughes, ar y llaw arall, yn ysgrifennu o safbwynt rhywun a ddaeth o Ganada a chael ei fagu ym Môn. Golwg hiraethus o Gymru a gawn ganddo yn Send My Cold Bones Home, wrth iddo fethu â dod i delerau â byw yr ochr draw i'r môr o'r wlad hon. Defnyddia'r hen fytholeg yn ei lyfr wrth geisio gosod Madog yn stori datblygiad yr Unol Daleithiau a cheir trafodaeth ar y Mandans, y llwyth brodorol a gysylltir â'r Cymry cynnar. Mae ei nofel yn hel bucheddau'r Cymry a dengys sut mae diwylliannau'n newid ac yn ymbellhau oddi wrth ei gilydd dros gyfnod hir o amser. Mae'r llyfr hwn dipyn yn wahanol i lyfr Daniel Williams, ond yr un mor ddibynadwy fel llyfr o werth hanesyddol.
Bydd hi'n ddiddorol gweld a fydd yr un o'r ddau lyfr yn ymddangos ar y rhestr fer a gyhoeddir yng Ngŵyl Gelli Gandryll ar 28 Mai.
Sesiwn Jazz a Blŵs
Ar ddiwedd y sesiwn, symudon ni o'r theatr i'r brif neuadd ar gyfer noson o adloniant cerddorol yng nghwmni artistiaid o'r ddwy ochr i'r môr. Dechreuwyd y gerddoriaeth gan fand jazz Daniel Williams, 'Burum' sy'n trefnu hen alawon gwerin ac yn eu gosod i gerddoriaeth jazz mewn ffordd unigryw iawn. Daeth y rhan fwyaf o'r alawon oddi ar CD cyntaf 'Burum', sef 'Alawon: The Songs of Welsh Folk'. Mae'r band yn gyfuniad o chwaraewyr bas dwbl, piano, trymped, symbalau a phibau cwd. Mae dylanwad lleol ar y band gan mai Ceri Rhys Matthews, yn wreiddiol o Dreboeth, yw'r pibydd. Nid yw'n anghyfarwydd â pherfformio ar achlysuron arbennig chwaith. Fe arweiniodd Matthews osgordd angladd Gwynfor Evans ac mae'n enw cyfarwydd ar hyd a lled Cymru fel aelod o'r grŵp 'Fernhill'.
Roedd y lleoliad yn gweddu'n berffaith i noson jazz a blŵs. Roedd hi fel bod mewn clwb jazz heb y mwg, gyda'r chandaliers isel yn hongian uwch ein pennau ni. Pan aethom i mewn yn y lle cyntaf, roedd y llwyfan yn ymddangos fel pe bai'n bell i ffwrdd, ond roedd y goleuadau'n gwneud i rywun deimlo'n fwy cartrefol rywsut. Cafwyd alaw ar ôl alaw gwerin, gan gynnwys 'Ar Lan y Môr' a 'Llongau Caernarfon', wedi eu trefnu'n effeithiol gan Daniel Williams.
Roedd y gymysgedd o ganeuon tawel a mwy bywiog yn ddigon o amrywiaeth i blesio pawb. Mae'n siŵr y bydd 'Burum' yn parhau i fynd o nerth i nerth mewn genre o gerddoriaeth nad yw'n amlwg drwy'r amser yn y Gymraeg. Cafwyd ymgais yn y blynyddoedd diwethaf, a rhywfaint o lwyddiant, gan Lleuwen Steffan, ond mae angen rhagor o nosweithiau fel hyn i hybu'r gerddoriaeth ymhellach.
Rhwng dwy set gan 'Burum', fe'n diddanwyd ni gan gantores ifanc o Ogledd Carolina, Rhiannon Giddens. A gwreiddiau ei henw Cymraeg? Wel, mae'n debyg bod ei mam yn darllen y Mabinogi pan gafodd Rhiannon ei geni! Roedd ei llais hi'n syfrdanol, ac roedd ei rhestr o ganeuon yn amrywio o ganu blws i ganeuon brodorol Affricanaidd i ganeuon efengylaidd. Dangosodd ei doniau offerynnol hefyd wrth iddi gyfeilio i'w chaneuon ei hun ar y banjo a'r ffidil. Mae rhyw burdeb yn ei llais hi, sy'n addasu ar gyfer bob math o ganeuon. Mae Rhiannon yn chwarae fel arfer mewn band Gwyddelig yng Ngogledd Carolina, ond mae hi'r un mor gyfforddus ar ei phen ei hun.
Roedd hi'n bleser mawr clywed Rhiannon yn ymdrechu i ddysgu 'Ar Hyd y Nos' (wedi gwrando ar fersiwn Bryn Terfel droeon) a'i chanu hi'n berffaith i gloi ei slot. Mae enw ei CD 'Many Voices' yn adlewyrchu'r gantores ifanc gyffrous hon i'r dim. Mae'n werth i chi fynd i'w gwefan i gael blas ar ei doniau hi - fe gewch chi eich swyno!
Daeth 'Burum' yn ôl yn llawn bywiogrwydd am yr ail hanner yn fand cefndir i'r chwaraewr jazz byd enwog, Jean-Paul Bourelly. Roedd hi'n rhyfeddol ei weld yntau yn perfformio yma yn Abertawe ac yng Nghymru am y tro cyntaf erioed, er ei fod wedi chwarae gyda rhai o fawrion y byd jazz yn ystod ei yrfa.
Roedd pawb yn y gynulleidfa yn ymwybodol ein bod ni'n rhan o ddigwyddiad arbennig wrth iddo ddechrau canu caneuon jazz a blŵs a'i acen ddeheuol yn ein cyfareddu. Un o ddylanwadau cynnar Bourelly oedd Jimi Hendrix, ac fe wyddai wrth glywed ei arwr am y tro cyntaf mai gitarydd roedd yntau am fod hefyd.
Mae'n rhaid ei bod hi'n dipyn o brofiad i 'Burum' gael chwarae â Bourelly. Dywedodd Daniel Williams ar ddiwedd y noson, "Anrhydedd oedd cael chwarae gyda'r perfformiwr hwn sydd wedi chwarae gyda rhai o fawrion jazz, gan gynnwys Miles Davis".
Ar y cyfan, dyma ddigwyddiad a lwyddodd dynnu sylw at ein cyfeillion ar ochr arall y môr a gwneud i ni sylweddoli, mewn gwirionedd, pa mor fach yw'r byd, a'r byd cerddorol yn enwedig.
Alun Rhys Chivers
Cyfle i gyfrannu