Cynhaliwyd noson o gerddoriaeth ganoloesol yn dathlu gweithiau barddonol Dafydd ap Gwilym. Roedd y noson yn rhan o gynhadledd Dafydd ap Gwilym a drefnwyd gan Adran Gymraeg Prifysgol Abertawe i lansio prosiect gwefan Dafydd ap Gwilym (www.dafyddapgwilym.net) sydd wedi bod ar y gweill ers 2002 dan nawdd Bwrdd Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau. Bwriad y noson oedd clywed detholiad o'r cerddi i gyfeiliant y delyn a gweld lluniau o olygfeydd yr Oesoedd Canol gan ail-greu darlleniadau barddonol yr oes.
Roedd y gynulleidfa yng Nghanolfan Dylan Thomas yn gymysgedd o arbenigwyr Dafydd ap Gwilym, academyddion a phobl Abertawe oedd yn ysu am noson ddifyr.
Arweinydd y noson oedd Dr. Sally Harper o Adran Gerdd Prifysgol Bangor, sy'n arbenigo yng ngherddoriaeth y cyfnod ac sydd wedi golygu cyfrol Robert ap Huw Studies: Welsh Music History / Hanes Cerddoriaeth Cymru sy'n trafod un o enwogion yr Oesoedd Canol o safbwynt perfformio cerddi i gyfeiliant y delyn.
Datgeiniad y cerddi oedd Dr. Meredydd Evans i gyfeiliant Bethan Bryn ar y delyn. Llwyddodd i ail-greu'r naws yn effeithiol gyda pheth hiwmor yn y datgan. Rhaid cofio, wrth gwrs, mai cerddi i'w perfformio'n gyhoeddus oedd casgliad Dafydd ap Gwilym. Roedd y rhan fwyaf o'r darnau cerddorol yn ffrwyth gwaith Robert ap Huw oedd yn datgan cerddi Dafydd ap Gwilym oddeutu'r bymthegfed ganrif.
Cysylltiad llên a cherdd
Roedd yr amryw ddarlleniadau'n adlewyrchu'r mathau gwahanol o ddatgeiniaid oedd yn perfformio yn ystod yr Oesoedd Canol, yn amrywio o'r glêr i'r penceirddiaid. Trafodwyd y cysylltiad agos sydd rhwng llenyddiaeth a cherddoriaeth yr Oesoedd Canol, sef bod rhythm a chywair yn perthyn i'r ddau a dangoswyd hyn drwy'r gerddoriaeth amrywiol oedd yn gyfeiliant i'r darlleniadau.
Aethpwyd o'r gerddoriaeth fwyaf elfennol i'r cymhleth, gan adlewyrchu llwybr datgeiniaid o fod yn un o'r glêr i fod yn bencerdd drwy broses a gymerai rhyw ddeuddeg blynedd fel arfer. Y perfformiad mwyaf cofiadwy ar y noson oedd 'Y Gainc' a berfformiwyd gan Dr. Meredydd Evans yn null y Datgeiniad Pen Pastwn.
Perfformiwr byd enwog arall ar y delyn oedd Bill Taylor, sy'n arbenigwr ym maes cerddoriaeth Geltaidd ar y delyn 21 tant. Mae ei waith yn bennaf seiliedig ar lawysgrifau Robert ap Huw ac mae'r gweithiau cerddorol ganddo'n cyfleu hynny. Bu'n berfformiwr ar y delyn ers pymtheg mlynedd erbyn hyn, ac mae ei arbenigedd ym maes yr Oesoedd Canol, yn enwedig o safbwynt Cymru, wedi dylanwadu'n fawr ar ei yrfa fel perfformiwr gweithiau Robert ap Huw. Roedd ei berfformiad ar y noson yn cyfuno alawon canoloesol ac yn gyfle i wrando ar gerddoriaeth y delyn heb ddatganiad cerddi. Fe esboniodd y broses o gyfansoddi alawon a fyddai'n gefndir perffaith i gerddi Dafydd ap Gwilym, gan roi pwyslais ar gytgord cerddoriaeth a barddoniaeth, yn enwedig o safbwynt y darn 'Dafydd Athro'.
Roedd y noson yn ffordd ymarferol o osod y gynhadledd gyfan yn ei chyd-destun canoloesol ac yn gyfle i bawb fwynhau noson ysgafn rhwng dau ddiwrnod o ddarlithoedd oedd yn trafod hanes creu'r wefan gan rai o arbenigwyr Dafydd ap Gwilym o adrannau Cymraeg prifysgolion Cymru dan arweiniad yr Athro Dafydd Johnston (Prifysgol Abertawe).
Fe fydd cyfle i weld fideo o'r noson yng Nghanolfan Dylan Thomas ar dafyddapgwilym.net yn fuan. Mae'r lansio wedi digwydd, ond nid yw'r gwaith arni ar ben eto. Fe fydd gwybodaeth newydd yn ymddangos ar y wefan bob dydd, gydag adolygiadau o dros 170 o gerddi, fersiynau modern o'r cerddi, cyfieithiadau a dewisiadau rhyngweithiol i hwyluso'r darllen. Ewch yno i gael blas ar y prosiect cyffrous hwn.
Alun Rhys Chivers