BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Hanes Lleol

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Hanes Dyffryn Tâf (parhad)
Castell Sanclêr Tref arall yn Nyffryn Tâf yw Sanclêr. Yma mae olion hen gastell Normanaidd a adeiladwyd tua 1100. Erbyn canol y 12fed ganrif roedd y castell yn ganolbwynt arglwyddiaeth Normanaidd.

Ond ni fu cadw'r castell yn dasg hawdd i'r Normaniaid. Ar sawl achlysur cafodd ei roi o dan warchae, ei losgi a chafodd ei gipio gan y tywysogion Cymreig ym 1153, 1189 a 1215. Yn 1405 cafodd ei ildio i Owain Glyndŵr.

Castell tomen a beili oedd hwn, un o'r rhai uchaf yng Nghrymu ar un adeg gan ei fod yn codi i 12 m. Yn wreiddiol safai tŵr pren arno ond mae seiliau cerrig wedi eu darganfod ar y domen sy'n awgrymu fod tŵr cerrig wedi ei godi yma'n ddiweddarach. Erbyn hyn mae beili'r castell wedi ei wastadu.

Datblygodd tref Sanclêr wedyn y tu allan i borth y castell. Er mai tref fechan ydoedd roedd yn dref bwysig am ei bod yn ganolbwynt i'r arglwyddiaeth. O amgylch y dref roedd gwrthglawdd bridd anferth ac felly dim ond trwy byrth y castell yr oedd modd mynd i mewn iddi. Yn ddiweddarach lledaenodd y dref y tu hwnt i'r clawdd.

Er mai trin y tir y tu allan i ffiniau'r dref yr oedd y boblogaeth ers talwm, roedd yma ychydig o ddiwydiant hefyd. Roedd cei yma ac ychydig o fasnach mewnforio ac allforio.

Twrch Trwyth Mewn sawl man yn y dref mae lluniau o'r baedd gwyllt. Yn yr Oes Haearn roedd y baedd yn symbol o rym a nerth i'r Celtiaid. Roedden nhw'n addurno eu harfau, eu tarianau a'u cyrff gyda delweddau o'r baedd. Y syniad oedd y byddai hyn wedyn yn symbyliad iddyn nhw i efelychu dewrder a ffyrnigrwydd yr anifail hwn wrth ymladd.

Yn ystod yr Oesoedd Canol roedd hela baeddod gwylltion yn arferiad cyffredin iawn. Adlewyrchir hyn yn chwedl Culhwch ac Olwen lle sonnir am hela'r Twrch Trwyth.

Mae golygfeydd o'r chwedl honno yn cael eu darlunio ym mhaneli dur pont Sanclêr. Mae'r bont yn croesi'r afon Cynin ac yma gellir gweld lluniau'r grib, siswrn a'r rhasal, y tri pheth yr oedd yn rhaid i Gulhwch eu dwyn o ben y twrch er mwyn ennill Olwen. Daeth y baedd yn rhan o arwyddlun Sanclêr yn ystod y 19eg ganrif.

Dylan Thomas a Thalacharn
Castell TalacharnTua'r de mae pentref glan môr Talacharn. Ar lan y môr ger aber yr afon Taf saif y castell sydd wedi'i adeiladu ar safle hen gaer Rufeinig. Mae'r adeilad presennol yn dyddio o ddiwedd y 13eg ganrif. Ond mae'n debyg bod castell Normanaidd yma cyn hynny a bod hwnnw wedi ei adeiladu yn nechrau'r 12fed ganrif.

Bu'r cyfeiriad cyntaf at y castell Normanaidd yn 1189 pan feddiannodd yr Arglwydd Rhys y castell wedi marwolaeth Harri'r II. Yn ddiweddarach ym 1215 dinistriwyd y castell gan Llywelyn Fawr ac wedyn ym 1257 fe'i meddiannwyd a'i losgi gan y Cymry.

Ym 1257 teulu de Brian, arglwyddi Talacharn oedd yn berchen ar y castell ac wedi'r ymosodiad penderfynodd y teulu adeiladu castell cadarnach a dyma'r hyn a welwn heddiw.Heddiw mae'r pentref yn enwog gan y bu'r bardd a'r dramodydd Dylan Thomas a'i wraig Caitlin yn byw yma am gyfnod. Saif y tŷ a elwir yn Boathouse ar y graig ar lan y môr.

Ar y llwybr sy'n arwain at y tŷ mae'r Cwt Ysgrifennu sef hen garej yn perthyn i'r tŷ. Dyma lle deuai Dylan Thomas i ysgrifennu a dyma lle y lluniodd lawer o'i weithiau olaf gan gynnwys ei ddrama i isleisiau Dan y Wenallt. Credir bod y ddrama honno wedi ei selio ar Dalacharn.

Yn ôl i dudalen 1



Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

Sylw:




Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy