BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Hanes Lleol

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Hanes dinas Abertawe (parhad)
Catherine Zeta JonesYn ogystal ag adeiladau pwysig cysylltir Abertawe â nifer o enwogion sydd wedi eu geni yn y ddinas.


Ymhlith y rhain mae'r actores enwog Catherine Zeta Jones. Mae'r enw Zeta yn tarddu o gysylltiad y teulu â llongau masnachol Henry Bath. Roedd Henry Bath a'i feibion yn berchen ar nifer o longau oedd yn cludo copr o Chile i weithfeydd copr Cwm Tawe Isaf yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Roedd llongau Bath yn rhai adnabyddus ar lwybrau masnachol môr yr Iwerydd. Roedd mwyafrif ei longau wedi eu henwi ar ôl llythrennau yn yr wyddor Roegaidd. Y Zeta oedd un o'r llongau pwysicaf am nifer o flynyddoedd.

Un o wyr enwocaf y ddinas wrth gwrs yw'r bardd a'r llenor Dylan Thomas a ystyrir yn un o ysgrifenwyr gorau'r ugeinfed ganrif.

Cafodd ei eni yn Rhes Cwmdonkin yn rhan uchaf y ddinas. Derbyniodd ei addysg yn Ysgol Ramadeg Abertawe lle roedd ei dad yn athro Saesneg. Ar ôl gadael yr ysgol bu'n gweithio fel newyddiadurwr gyda'r South Wales Evening Post. Symudodd wedyn i Lundain lle bu'n gweithio fel darlledwr, bardd a darlithydd.

Ni ellir cerdded trwy ganol y ddinas heddiw heb sylwi ar yr holl leoedd sy'n coffáu'r gwr amryddawn hwn.

Cerflun Dylan Thomas, llun gan Bwrdd Croeso CymruUn o'r lleoedd hynny yw sgwâr Dylan Thomas lle mae cofgolofn efydd o un o wyr enwocaf Abertawe. Mae nifer o ddigwyddiadau diwylliannol yn cael eu cynnal ar y sgwâr. Un o'r rhain yw Gwyl Flynyddol Dylan Thomas a gynhelir yn ystod yr Hydref.

Ar lannau afon Tawe mae Canolfan Dylan Thomas lle mae arddangosfa yn adrodd hanes ei fywyd a'i waith. Yn ogystal mae theatr yn Abertawe wedi ei henwi ar ôl Dylan Thomas. Saif y theatr ar sgwâr Dylan Thomas.

Gellir troi o'r sgwâr tuag at ddwy amgueddfa boblogaidd sef yr Amgueddfa Diwydiant a Morwrol. Gerllaw mae sied fawr lle mae modd gweld cerbyd tram a arferai gludo teithwyr yn y ddinas. Yn y sied mae hanes Rheilffordd y Mwmbwls a adeiladwyd ym 1804.

Un o nodweddion hynotaf y marina yw'r wrthglawdd a'r promenâd. Adeiladwyd yr wrthglawdd i amddiffyn y tai newydd yma ac mae enwau llongau wedi eu hysgrifennu ar y wal. Dyma enwau llongau a gofrestrwyd yn Abertawe dros gyfnod o gan mlynedd.

Swansea Jac ?
Rydym ni i gyd wedi clywed trigolion Abertawe'n cael eu galw yn Swansea Jacs ond o ble y daeth yr enw hwn? Mae stori'r Swansea Jac yn gymysgedd o ffaith a chwedl ac yn ymwneud â chi du o'r enw Jac. Roedd y ci yn byw yn ardal dociau Abertawe yn ystod y 1930au a dywedir ei fod wedi achub bywydau tua 27 o bobol o ddyfroedd Afon Tawe.

Gwnaeth Jac ei weithred ddewr gyntaf yn 1931 pan neidiodd i'r dwr i achub bachgen ifanc. Yn ddiweddarach y flwyddyn honno achubodd nofiwr a aeth i drafferthion a'r tro hwn o flaen tyrfa o bobol. Cyhoeddwyd y stori yn un o'r papurau newydd lleol. Erbyn 1935 roedd Jac wedi achub nifer ac erbyn hyn roedd wedi derbyn yr enw Swansea Jac. Cynyddodd ei boblogrwydd yn sylweddol ac roedd pobol yn tyrru i'r ddinas i dynnu eu llun gyda'r ci rhyfeddol hwn.

Ond ym mis Hydref 1937 bu farw Jac wedi iddo lyncu gwenwyn llygod mawr mewn camgymeriad. Casglodd y cyhoedd arian er mwyn codi cofeb i'r ci dewr hwn a chodwyd carreg goffa iddo ar lan y môr.

O fewn tafliad carreg i Abertawe mae Penrhyn Gŵyr. Dyma ardal hardd sy'n cynnwys bron i ugain milltir o draethau bendigedig. Does rhyfedd felly bod miloedd o ymwelwyr yn tyrru yma bob haf. Mae 21 o draethau ym Mhenrhyn Gŵyr.

Yn Abertawe mae'r traeth yn wastad. Traeth CaswellYn y Mwmbwls wedyn mae dau draeth ac oddi yma mae'r clogwyni calch yn dod yn nodwedd amlwg o'r tirlun. Y traethau sydd agosaf at Abertawe yw'r rhai mwyaf poblogaidd fel Rotherslade, Langland a Caswell. Ond mae'r golygfeydd gorau ymhellach wedyn lle mae Brandy Cove a Phwll Du. Yma mae hanes o smyglo ac nid yw hynny'n syndod o ystyried lleoliad anial y traethau hyn.

Wrth gerdded ymhellach i'r gorllewin mae creigiau Pennard ac adfeilion y castell. Nid oes llawer o gofnodion hanesyddol yn ymwneud â'r castell hwn ond credir ei fod wedi ei adeiladu yn y 13eg ganrif. Mae nifer o chwedlau yn ymwneud â'r castell a dywedir bod nifer o ysbrydion yn crwydro'r lle heddiw. Mae nifer yn credu bod y castell wedi ei felltithio.

Digwyddodd yr anffawd gyntaf yma pan ddychwelodd un o breswylwyr y castell i'w gartref wedi brwydr a chynnal gwledd yn y gerddi. Dywedodd un o'i westeion ei fod wedi gweld golau yn y dyffryn islaw. Rhuthrodd yr arweinydd yno gyda byddin fechan y tu ôl iddo i weld pwy oedd yn tresmasu.

Gwelsant mai tylwyth teg oedd yma. Pan ruthrodd y llu gyda'i cleddyfau i'r llecyn gwylltiodd y tylwyth teg a melltithio'r castell. Dychrynodd y gwyr ac wrth edrych tua'r môr gwelsant fod storm ar y gorwel. Rhedodd y gŵyr ond cawsant eu lladd gan y tywod a chwyrliai o gwmpas.

Dinistriwyd y castell hefyd ac erbyn y diwrnod canlynol dim ond adfeilion oedd yma.

Chwedl Gwrach-y-rhibyn
Chwedl arall yw chwedl Gwrach-y-rhibyn. Dywedir ei bod yn crwydro'r adfeilion a'i bod yn troi unrhyw un sy'n meiddio treulio noson yng nghanol yr adfeilion yn wallgof.

Yr ochr arall i'r creigiau mae cyfres o draethau wedyn yn arwain at Oxwich. Ystyrir y traethau hyn ymysg y gorau ym Mhenrhyn Gŵyr. Mae bae Oxwich yn le poblogaidd ymysg ymwelwyr.

Castell OxwichGerllaw'r traeth mae castell Oxwich. Tŷ Tuduraidd yw hwn a adeiladwyd gan Syr Rhys Mansel yn y 16eg ganrif. Mae'r ty yn cynnwys rhan o'r hen gastell a adeiladwyd yn y 14eg ganrif. Yn y castell hwnnw y ganwyd Rhys Mansel ac felly roedd am gadw rhan o'r adeilad hwnnw yn ei gartref newydd.

Ymhellach wedyn mae bae Porth Einion sydd eto'n le poblogaidd. Bydd yn rhaid teithio tua'r gogledd wedyn a heibio'r trwyn ym mhenrhyn gwyr i Fae Rhosili lle ceir golygfa anhygoel, yn ôl rhai y gorau ym Mhenrhyn Gŵyr. Mae'r arfordir yn llawer mwy gwyllt yma.

Yng ngogledd y bae mae traeth Llangynydd, lle poblogaidd ar gyfer chwaraeon dwr. Yn yr ardal yma mae nifer o gilfachau diddorol na ellir ond mynd iddyn nhw pan yw'r llanw'n isel. Y mwyaf poblogaidd o bosib yw'r Pwll Glas. Tua'r gogledd wedyn mae Bae Brychdwn a thraeth Chwitffordd.

Wedi troi heibio'r trwyn mae traeth Llanrhidian a chastell Weblai. Fel Castell Oxwich nid yw hwn yn gastell mewn gwirionedd ond ty Tuduraidd wedi ei adeiladu ar safle castell cynharach. Adeiladwyd y castell gan deulu de la Bere.

Difrodwyd yr adeilad yn sylweddol yn ystod gwrthryfel Glyndwr ond nid oedd y difrod mor ddifrifol â'r difrod i gastell Abertawe. Felly bu'r teulu de la Bere yn byw yma hyd ganol y 15fed ganrif. Wedyn daeth Rhys ap Thomas i fyw yma am gyfnod byr. Aeth y castell wedyn i feddiant y goron cyn i deulu'r Mansel ddod yn berchnogion arno.

Ymhellach i'r dwyrain wedyn mae Castell Llwchwr. Castell Normanaidd yw hwn ac fe'i adeiladwyd yn nechrau'r 12fed ganrif ar safle caer gynharach. Yn 1151 ymosododd y Cymry ar y castell a'i losgi. Yn fuan meddiannwyd y castell eto gan y Normaniaid a wnaeth welliannau i'w strwythur ac ychwanegu nifer o adeiladau cerrig.

Yn nechrau'r 13eg daeth John Brewys yn berchennog arno ac wedyn Gwilym Brewys. Erbyn cyfnod Edward I doedd y castell ddim yn cael ei ystyried yn un pwysig mwyach a hyd yn oed heddiw ychydig o ymwelwyr ddaw i gastell Llwchwr, dim ond rhuthro heibio ar y ffordd brysur tua dinas Abertawe.

Yn ôl i dudalen 1



Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

Sylw:




Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy