Bardd
Er ei fod yn gyfaill agos i Dylan Thomas, ac yn edmygydd di-amod ohono, bu Vernon Watkins yn fath gwahanol iawn o fardd, a dewisodd fuchedd llawer mwy cyffredin, parchus hyd yn oed. Treuliodd y rhan fwyaf o'i oes fel clerc ym Manc Lloyd yn St. Helen's, Abertawe, swydd a roddai iddo yr amser i farddoni - ac, o ganlyniad, ysgrifennodd nifer fawr o gerddi hynod gaboledig.
Mae ei Collected Poems (1986) yn cynnwys bron 400 o gerddi, rhai ohonynt yn anghyffredin o hir.
Rhieni Cymraeg
Ganwyd Vernon Watkins ym 1906 ym Maesteg, Sir Forgannwg, ond symudodd y teulu i Abertawe pan oedd y bachgen yn saith oed. Cafodd ei addysg mewn ysgol bonedd yn Sussex ac yn Ysgol Repton yn swydd Derby.
Cymry Cymraeg oedd ei rieni ond oblegid y duedd yn y dyddiau hynny i ddibrisio'r iaith, ni siaradodd y bardd ond ychydig o eiriau o'r Gymraeg. Er hynny, fe wnaeth o Daliesin ryw fath o alter ego yn ei gerddi.
Gadawodd Goleg Magdalen, Caer-grawnt, heb raddio gan nad oedd yn hoffi'r pwyslais ar feirniadaeth ar draul llenyddiaeth greadigol, a pherswadiodd ei dad i dalu am ymweliad â'r Eidal, lle bwriadai fagu profiadau ar gyfer barddoni.
Wedi dychwelyd i Gymru yn Hydref 1925, dechreuodd waith fel clerc yng nghangen Butetown, Caerdydd, o Fanc Lloyd; ni chwiliodd am ddyrchafiad erioed.
Ceisio gorchfygu amser
Cysylltodd Vernon Watkins ei farddoniaeth â'i flynyddoedd euraidd yn Ysgol Repton, ac ysgrifennodd nifer mawr o gerddi mewn ymgais i ail-ennill y profiadau a gafodd yno.
Ond torrodd ei iechyd i lawr yn llwyr a bu raid iddo symud i weithio gyda'r un banc yn Abertawe a byw gyda'i rieni ym mro Gŵyr. Treuliodd weddill ei oes ym Mhennard.
Roedd yn arfer sôn am ei afiechyd fel canlyniad i'w ymgais i 'orchfygu amser'.
Gorchfygu amser oedd swydd pwysicaf y bardd, yn ei farn ef, ac yn wir, dychwelodd i'r thema hwn mewn cerdd ar ôl cerdd - hyd at ddiflastod yng ngolwg rhai beirniaid.
Cwynodd Glyn Jones ei fod yn ysgrifennu barrdonaieth 'heb chwys o dan ei freichiau'.Traddodiadau Cymreig
Roedd y gerdd sy'n rhoi teitl i'w gyfrol gyntaf, Ballad of the Mari Lwyd (1941) wedi ei hysbrydoli gan yr arfer werin a glywodd amdano gan ei dad, oedd yn frodor o Ffynnon Taf, ger Caerdydd, lle cynhaliodd y traddodiad tan yn gynnar yn yr ugeinfed ganrif.
Fe'i ddilynwyd gan The Lamp and the Veil (1945), a'i ddwy gyfrol bwysicaf, The Lady with the Unicorn (1948) a The Death Bell (1954). Cyhoeddodd hefyd Cypress and Acacia (1962) ac Affinities (1962); ymddangosodd Fidelities (1968) ar ôl farwolaeth y bardd.
Cyfaill Dylan Thomas
Bardd metaffisegol yn y traddodiad Saesneg oedd Vernon Watkins yn ei hanfod. Defyddiodd symbolau o arfordir Penrhyn Gŵyr i fynegi ei 'alar', er i'w awen droi'n fwy-fwy Cristnogol wrth iddo heneiddio.
Profiad trawmatig arall oedd marwolaeth ei gyfaill Dylan Thomas, a garodd â chariad pur. Roedd y berthynas rhwng y ddau'n blatonig ond yn ddwfn iawn - o leiaf ar ran Watkins, yn ôl ei weddw Gwen Watkins.
Pan farwodd Vernon Watkins yn Seattle ym 1967, yn ystod ei ail ymweliad fel Athro Barddoniaeth ym Mhrifysgol Washington - roedd yn chwarae tennis ar y pryd - roedd ei enw ef, ymhlith eraill, yn cael ei awgrymu ar gyfer swydd y Poet Laureate.
Gwelir plac er cof am y bardd ar wal yr eglwys ym Mhennard.
Meic Stephens