BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Oriel yr Enwogion

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Llên
Bedd Lewis Morris ym mynwent Llangynnwr.
Syr Lewis Morris

Ganwyd: 1833

Magwyd: Caerfyrddin

Addysg: Ysgol Ramadeg y Frenhines Elisabeth, Caerfyrddin; Ysgol y Bont-faen; Sherborne a Choleg Iesu, Rhydychen


Bardd ac addysgwr

Bardd ac addysgwr oedd Lewis Morris, er nad yw yn nosbarth cyntaf y beirdd Cymreig sydd wedi ysgrifennu yn Saesneg.

Er ei fod yn ŵr sensitif a theimladwy, nid yw ei gerddi yn cyfleu unrhyw ymdeimlad o argyhoeddiad, er eu bod yn dechnegol gywir ac yn rhwydd eu mynegiant.

Roedd yna, yn ogystal, agwedd annoeth a byrbwyll i'w gymeriad, ac efallai fod hynny yn esbonio'r ffaith nad oedd ei yrfa lenyddol yn un llwyddiannus.

Ganwyd ef yng Nghaerfyrddin ym 1833, yn fab i glerc y dref; roedd yn orwyr i Lewis Morris (Llewelyn Ddu o Fôn), ac roedd yn falch o'i gysylltiad â'r frodyr Morris.

Cafodd ei addysg yn Ysgol Ramadeg y Frenhines Elisabeth yng Nghaerfyrddin, yn Ysgol y Bont-faen, Sherborne ac yng Ngholeg Iesu, Rhydychen; fe'i galwyd i'r bar ym 1861.

Ymgyrchu dros brifysgol

Roedd ei yrfa yn nodedig am ei sêl dros hyrwyddo addysg uwch yng Nghymru a sefydlu prifysgol cenedlaethol.

O 1878 hyd 1896 ef oedd cyd-ysgrifennydd ac, yn ddiweddarach, cyd-drysorydd Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, ac wedi hynny yn un o is-lywyddion y Coleg hyd ddiwedd ei oes.

Rhyddfrydwr ydoedd o ran gwleidyddiaeth: ceisiodd fwy nag unwaith gael ei ethol yn Aelod Seneddol, ond ofer oedd pob ymgais.

Gobeithion ofer

Wedi marwolaeth Tennyson ym 1892, dechreuodd Lewis Morris obeithio y cai eibenodi'n Fardd Lawryfol.

Ond tybir i'r penodiad gael ei atal gan y Frenhines Victoria pan gafodd wybod fod ganddo wraig ordderch a thri o blant, ffaith roedd wedi llwyddo i'w gelu hyd hynny.

Yn ystod yr oedi dros y penodiad cwynodd Morris, a oedd wedi ei urddo'n farchog ym 1895, i Oscar Wilde fod 'conspiracy of silence' ar y pwnc, a gofynnodd iddo, 'What shall I do?' . Daeth yr ateb, 'Join it.'

Serch hynny, roedd Lewis Morris yn fardd cynhyrchiol a phoblogaidd yn ei ddydd.

Ei brif waith yw The Epic of Hades, a gyhoeddwyd ym 1876 a'r flwyddyn ganlynol, cerdd hirwyntog sydd ddim heb ei rhinweddau.

Ysgrifenwyd y gerdd hon wrth i'r bardd deithio i'w waith fel cyfreithiwr ar drenau tanddaearol Llundain.

Er ei bod yn disgrifio ymweliad â'r is-fyd clasurol, nid epig ynyr ystyr traddodiadol mohoni, ond yn hytrach cyfres o benodau lle mae cymeriadau fel Tantalus yn adrodd eu hanesion, gan roddi cyfle i'r bardd ychwanegu sylwadau moesegol addas.

Cyhoeddwyd o leiaf un ar hugain o argraffiadau yn ystod oes yr awdur.

Cynnyrch helaeth

Ysgrifennodd hefyd Songs of Two Worlds (3 chyfrol, 1872, 1874, 1875), Gwen (1880), The Ode of Life (1880), Songs Unsung (1883), Songs of Britain (1887), a chyfrolau eraill.

Yn anffodus, ni lwyddodd y bardd osgoi dylanwad ei gyfaill Tennyson, ac yn sicr, nid oedd ganddo yr un ddawn ag ef.

Cyhoeddwyd The Works of Lewis Morris, cyfrol swmpus dros ben, ym 1891.

Cerdd fwyaf diddorol Lewis Morris o safbwynt Cymreig yw 'Gwen'.

Fe'i lleolir ym mhlwyf Llangynnwr ger Caerfyrddin, lle bu'r bardd yn byw a lle y claddwyd ef. Hanes cariad bonheddwr ifanc at ferch y ficer sydd yma a chynnwys cyfres o ymsonau telenegol yn olrhain cwrs y garwriaeth anhapus.

Yn ddiau, mae hi'n adlewyrchu bywyd serch cyfrinachol y bardd ei hunan. Ceir darnau swynol hefyd yn ei gerdd 'The Physicians of Myddfai'.

Ysgrifwr llwyddiannus

Yn eironig ddigon, wrth gofio ei lwyddiant fel bardd (o leiaf yn nhermau nifer y copïau a werthwyd o'i lyfrau), mae talent llenyddol Lewis Morris i'w weld ar ei orau yn The New Rambler (1905), casgliad o ysgrifau lle mae'n mynegi ei farn ar amrywiaeth o bynciau, gan gynnwys hela ac ymlid anifeiliaid, gyda brwydfrydedd nas ceir yn ei gerddi.

Bu farw Syr Lewis Morris ym 1907. Claddwyd ef ym mynwent Llangynnwr, yn ôl ei ddymuniad.

Meic Stephens


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy