Golygydd ac ysgogydd llenyddol
Nid fel bardd ond fel golygydd ac ysgogydd llenyddol y cofir am Keidrych Rhys, un o'r ffigyrau mwyaf dylanwadol yn llên Saesneg Cymru am flynyddoedd lawer. Fe oedd golygydd y cylchgrawn misol Wales lle ymddangosodd gwaith nifer o lenorion pwysig megis Caradoc Evans, Dylan Thomas, Glyn Jones ac Idris Davies, yn ogystal â tho o awduron ifanc.
Hwn oedd yr unig gyfnodolyn yn ei ddydd a oedd yn arfer trin materion cyfoes Cymreig, a hynny mewn dull bywiog ac, weithiau, ymfflamychol.
Mab fferm
Ganwyd Ronald Rees Jones - cymerodd ei enw newydd oddi wrth yr afon Ceidrych ger ei gartref - ym Methlehem, Sir Gaerfyrddin, ym 1915, yn fab i ffermwr.
Ei swydd gyntaf oedd mewn banc lleol ond bu rhaid ei adael yn sydyn mewn amgylchiadau anffodus.
Aeth i Lundain i fod yn newyddiadurwr, gan droi mewn cylchoedd llenyddol a chelfyddydol, ac yn fuan iawn ennillodd yr enw o fod yn aderyn y drycin, gan ei fod yn hoff iawn o glecs a ffrae o bob math.
Dechreuodd ei yrfa fel golygydd ym 1937, pan y cychwynnodd Wales, heb gymorthdal ac ar ei draul ei hun.
Ymgartrefu'n Shir Gâr
Ar ôl gwasanaethu yn y Fyddin rhwng 1939 a 1945, dychwelodd i Gymru gyda'i wraig, y bardd Lynette Roberts.
Ymsefydlodd yn Llan-y-bri, ond nid oedd y briodas yn un hapus a chawsant ysgariad ym 1948.
Tra'n byw yn ei sir enedigol cychwynnodd Rhys y Druid Press, a chyhoeddi nifer o fân lyfrau gan gynnwys An Acre of Land gan R. S. Thomas.
Ym 1950 aeth yn ôl i Lundain i ennill ei damaid unwaith drachefn fel newyddiadurwr yn y byd llenyddol, ac arhosodd yno am weddill ei oes.
Newyddiadurwr dylanwadol
Bu'n golofnydd i The People, papur dydd Sul, o 1954 hyd 1960; cymerodd ochr Goronwy Rees, Prifathro Coleg y Brifysgol, Aberystwyth, pan gafodd hwnnw ei ddiswyddo, ac ysgrifennu o'i blaid yn y papur.
Roedd Rhys wastad yn erbyn y Sefydliad yng Nghymru ac yn feirniadol o bob corff cyhoeddus a oedd, yn ei dyb e, yn geidwadol, plwyfol neu wrth-Gymreig.
Roedd yn aelod o Blaid Cymru a chreodd gryn dipyn o gyhoeddusrwydd da i genedlaetholdeb Cymreig yn Lloegr.
Cyhoeddwyd Wales - 'er mai yn Saesneg yr ysgrifennwn, yng Nghymru mae ein gwreiddiau' meddai mewn golygyddol - mewn tair cyfres gwahanol: daeth un ar ddeg rhifyn o'r wasg rhwng Haf 1937 a Gaeaf 1939/40, deunaw rhifyn rhwng Gorffennaf 1943 ac Hydref 1949, a thri rhifyn ar ddeg rhwng Medi 1958 a Dydd Calan 1960.
Roedd argraff personoliaeth Keidrych Rhys i'w weld ar bob rhifyn - roedd ei arddull yn finiog ac eiconoclastaidd bob amser.
Mentor awduron eraill
Fel bardd, nid oedd yn perthyn i'r dosbarth cyntaf. Cyhoeddodd ond un llyfryn bach o'i gerddi, sef The Van Pool (1942), sy'n sôn yn bennaf am ei hiraeth am ei wraig tra oedd yn y Fyddin ac yn edrych yn ôl ar ei blentyndod yn Shir Gâr.
Fe oedd golygydd y flodeugerdd ddylanwadol Modern Welsh Poetry (1944), a oedd yn rhyw fath o utgorn yn cyhoeddi i'r byd bod beirdd Saesneg Cymru yn fyw ac yn iach, er ei bod yn cynnwys gwaith nifer o feirdd nad oedd yn wirioneddol Gymreig.
Bu farw Keidrych Rhys ym 1987. Fe gofir amdano hyd heddiw fel dyn cwerylgar ac athrylithgar, un a adawodd ei farc ar lenyddiaeth Cymru y cyfnod ar gyfrif ei lygad craff am ddoniau newydd.
Iddo ef roedd cenhedlaeth gyfan o awduron Cymru yn ddyledus am gychwyn eu gyrfa lenyddol.
Meic Stephens